Dyma ni wedi cyrraedd Guatemala - ein gwlad olaf yng Nghanolbarth America. (Wel, mi ryden ni yn mynd i El Salvador yr wythnos nesaf i ddal awyren i L.A, ond dyden ni ddim am dreulio mwy o amser na sydd raid yno gan fod pawb yn dweud ei fod yn berryg. Mae teithiwyr yn dweud ein bod am gael ein lladd yno. Mae pobl o El Salvador yn dweud ein bod yn mynd i gael ein lladd yno. Mae hyd yn oed gweinidog twristiaeth El Salvador yn dweud wrth bobl gadw draw...! Os ydech chi wedi bod yn El Salvador, ac yn anghytuno, gadewch i mi wybod.)
Mi ddothon ni yn syth o Honduras i´r ddinas hardd, Antigua. Mae´n daclus, yn cosmopolitan, yn llawn bwytai neis a bars trendi. Ond wrth gwrs dydio ddim yn cynrychioli´r Guatemala ´go iawn´. Dyma ddinas i´r twristiaid.
Mi ddalion ni fws i farchnad, ddwyawr a hanner i ffwrdd - marchnad enfawr yn Chichicastechango (allwch chi ddweud hynna heb chwerthin?), lle mae pobl o ar hyd a lled y wlad yn dod ddwywaith yr wythnos i werthu a phrynu crefftau o bob math. Roedd pobl yn crwydro´r strydoedd rhwng y marchnadoedd yn trio gwerthu pob math o bethau - machettes, cnau, ieir, cerrig, mwstashys plastig allan o gracyrs... Mi brynes i glamp o fag enfawr, ac yna prynu llond lle o bethau i lenwi`r bag. Mae`n rhaid i mi gario popeth rwan am fis arall, ond mi fyd o werth o - gan fod crefftau Guatemala yn hyfryd.
Llosgfynydd Pacaya.
Ar Fai`r 28ain, cwta ddau fis yn ol, mi ffrwydrodd llosgfynydd enfawr Pacaya ar gyrrion Antigua. Yn lwcus, dim ond un dyn gafodd ei ladd, er gwaetha`r ffrwydriad anferth, ond fe orchuddiwyd trefi cyfagos, gan gynnwys Antigua, gan gawod o lwch.
Ddoe, mi athon ni ar drip i weld y llosgfynydd, a dyma un o´r pethau rhyfeddaf dwi wedi ei weld yng Nghanolbarth America. Fe´n gollyngwyd ni tua 5km oddi-wrth waelod y llosgfynydd, ac i bob cyfeiriad roedd twmpathau duon enfawr fel afonydd uchel - sef y lafa wedi oeri. Roedd yr afonydd lafa wedi caledu yn gerrig - rhai enfawr a rhai bychain. Roedd y ffurfiant du yma´n ymestyn mor bell a´r gorwel mewn rhai mannau, a channoedd simneai mwg i´w gweld yn codi o´r lafa lle roedd y garreg i dal i losgi.
Yna mi gawson ni ddringo i dop un o´r afonydd, a mentro i grombil y lafa. Roedd yn anodd cerdded ar y cerrig, roedden nhw´n rhydd ac yn sgrialu i bob man, ac yn teimlo chydig fel cerdded ar bolysteirin gan fod y cerrig yn ysgafn ysgafn ac yn gwichian dan draed. Bob yn hyn a hyn roedden ni´n pasio drwy ddyffryn poeth poeth yn y mynydd lafa, a roedd yn rhaid i ni fynd yn gyflym gan fod ein coesau yn llosgi a´n bod ni ofn i´n sgidiau doddi!
Roedd tonnau gwres i bob cyfeiriad yn codi o´r cerrig du, fel ffordd darmac mewn tywydd poeth. Mewn un darn mi welson ni ddarn oedd yn dal i losgi, a´r tan coch yn dal llygad ynghanol y mor o gerrig lafa du.
Roedd yna olgau drwg ymhobman achos fod sylffwr o´r llosgyfynydd yn dal i losgi o´r cerrig.
Mi gerddon ni am oriau ynghanol y labyrinth lafa, a mwg a cherrig i´w weld i bob cyfeiriad.
Yn sydyn, mi glywson ni swn BANG enfawr, fel swn drws car yn clepian, ond ei fod yn andros o gar mawr! Roedd y swn yn dod o gyfeiriad y llosgfynydd. Mi rewodd pawb, a troi i syllu tuag at gopa Pacaya. O fy Nuw, roedd y llosgfynydd ar fin ffrwydro eto, a ninnau heb yr un syniad pa ffordd i redeg. Ond dyma ein guide yn dechrau chwerthin (diolch byth). A dyma i chi guide rhyfedd iawn oedd o hefyd. Dyn bach bach efo handbag gwlan, a barf fechan finiog, a smoc yn ei law drwy`r daith, a chap pig. Roedd o´n meddwl ei fod yn siarad Saesneg, ond doedd o ddim mewn gwirionedd. Roedd o´n ein galw ni yn "Team Pumas" ond fod o´n ynganu Pumas fel PWMAS. Roedd o´n gweiddi o ryw dwll yn y lafa bob yn hyn a hyn "Vamos, PWMAS, come aqui, hay mas lava, you esta bien, si?", yn ei ´Saesneg´gorau! Roedd o fel ryw blentyn bach ar fore ´Dolig, yn edrych fel nad oedd o rioed wedi gweld y llosgfynydd erioed o´r blaen, er ei fod yn guide ers blynyddoedd. Roedd o fel wiwer fach yn hel cerrig fel cnau, yn neidio o un pentwr lafa i bentwr arall, cyn diflanu i ddyfryn du, a neidio o dwll arall, i gyd gan weiddi ar y PWMAS i´w ddilyn o.
Ond yn ol i´r GLEC fawr. Dyma´r guide yn dechrau chwerthin. "BOOM, PWMAS!! BOOM!" medde fo, yn dal i chwerthin tra oedden ni i gyd yn crynu yn ein sgidiau poeth. "Pacaya says BOOM!" medde fo eto. Wel mi roedden ni´n gwybod fod llosgfynydd Pacaya newydd fynd BWM, dyna oedd ein pryder. "A ddylsen ni redeg?", "i pa gyfeiriad?". Ond doedd dim lafa ar ei ffordd i lawr y mynydd y tro hwn - roedd yn naturiol fod y llosgfynydd yn ffrwydro ar raddfa fechan bob yn hyn a hyn - gan dagu llond awyr o fwg du oí grombil. Ac yn wir, fe lenwodd yr awyr uwchben Pacaya hefo cymylau llwyd a du, a ninnau´n hanner poeni yn hanner syfrdannu.
Ond dyma ni´n ol yn un darn, a´n sgidiau yn dal yn gyfa. Felly mi ellir dweud fod peips dwr capel Peniel yn boethach na lafa llosgfynydd Pacaya yn Guatemala, Sion.
Leusa dwi'n genfigenus iawn. Chi'n swnio bo chi'n mwynhau eich hunain go iawn, a dwi'n edrych mlaen i glywed yr hanesion wyneb yn wyneb pan ddowch chi nol. Er, ma'r hanesion yn wych i'w darllen hefyd, plis caria mlaen i flogio ar ôl cyrraedd yn ôl, hydnoed os dio am betha diflas, fydd o dal yn werth i'w ddarllen! Cariwch mlaen i joio, cariad mawr, Mari xXx
ReplyDelete