14/07/2010

Nicaragua, be ti'n neud i ni?

'Dw i'n ymddiheuro am esgeluso'r blog am yn agos iawn i bythefnos bellach. Ond dyna be mae Nicaragua yn neud i rywun.



San Juan del Sur.
Dyma lle nath y shit hitio'r ffan. Trwy'r gegin, heibio'r surf boards, i fyny grisiau troellog du, trwy giat, ac i do'r hostel...a dyna lle y cyfarfu ni a'n ffrind newydd - rum a coke. Dwi eisoes wedi esbonio ein bod ni mor dlawd nes fod rhaid i ni ddibynu ar fwyd stryd i lenwi ein boliau. Wel mae'r sefyllfa wedi gwaethygu x 100. Bellach, ryden ni mor dlawd nes fod yn rhaid i ni ddibynu ar happy hours a deals 2 for 1 yn hytrach na mwynhau ein seidar posh mewn glasys shampen. Roedd y bar cudd ar do'r hostel yn brin o ddychymyg braidd, a'r canlyniad oedd mai rum a choke oedd deal of the day, every day.

Ar do'r hostel hefyd y cyfarfu ni a deg o drigolion Denmark, hefyd yn yfed rum - mater i sefydlu cyfeillgarwch os fu un erioed. Dyma'r criw clenia o bobl dwi erioed wedi eu cyfarfod. Roedd rhieni dau o'r Daniaid wedi adeiladu ty yn San Juan del Sur, ac fe'n gwahoddwyd ni'n harti i ymuno a nhw mewn parti pwll y noson ganlynol. Dyma'r rum yn dweud "Diolch am y gwahoddiad, mi fyddwn ni yno".

Flash forward bron 24 awr, a dyna lle oedden ni yn eistedd ar gefn quad bike tu ol i'r Daniaid tewa a welwyd erioed; mewn cotiau glaw, canys roedd hi'n tywallt y glaw ac yn melltio ac yn taranu, ar gyflymder o 5 mph ar ffordd dyllog fwdlyd tuag at y 'parti'. Roedd hi'n sefyllfa bizzare iawn. O'r diwedd, dyma gyrraedd y ty. Roedd o'n anhygoel. Ty enfawr, gyda pwll nofio, a phatios godidog a phopeth yn newydd ac yn sgleinog. A dyna lle y buon ni yn eistedd o gwmpas y bwrdd bwyd hefo miloedd o foths, 10 o'n cyfeillion o Denmark, a'r ddau riant. Dwi erioed wedi cael gymaint o groeso gan neb yn fy mywyd. Roedden ni'n cael ein trin fel brenhinesau. Roedd y pynsh yn llifo, a bwyd hyfryd yn dod o bob cyfeiriad. Roedd y ty yn ganol nunlle, ond hefo golygfa anhygoel o'r mor. Roedd yna sgyncs yn y gwrychoedd, a brogaod ymhobman o'n cwmpas ni yn ddof neis. Ar ol dod adre dwi am fynd i Denmark. Os ydi pawb yn Denmark mor neis a'r rhai deni wedi eu cyfarfod dros y 4 mis diwetha yna dwi am symud i fyw yno.

Y bore wedyn roedd yn rhaid checkio allan o'r hostel. Mi athon ni i'r dafarn i weld final y world cup. Nathon ni benderfynu checkio yn ol mewn i'r hostel. Doedden ni'n mynd i nunlle. Mi brynwyd potel enfawr o rum, ac fe'i hyfwyd ar y traeth.



4 diwrnod o rum a coke yn ddiweddarach, a roedd o wedi ein chwalu ni: nesh i syrthio mewn cariad efo Sais cyn ffeindio allan ei fod o'n fotio Tori, nath Lowri dorri bys bach ei throed yn syrffio, nath Rhean a Jeni adael am Granada hebddon ni, nath y sand flies fwyta 10% o fy body mass, ac ar y diwedd y cwbwl oedd gena i oedd cur pen, pwrs gwag a chalon wedi ei thorri. Nica, be ti'n neud i fi?

Ometepe a Llyn Nicaragua.



O'r diwedd, mi lwyddon ni i adael paradwys San Juan del Sur, a theithio at lan llyn enfawr Nicaragua. Edrychwch ar fap. Edrychwch pa mor fawr ydi Llyn Nicaragua. Mae o'n enfawr, ac mae siarcod yn byw yn ei ddyfroedd. Mi gawson ni'r cwch rhyfedda i'n cario ni tuag ynys Ometepe; roedd pawb yn eistedd ar fwrdd y cwch, ynghanol y nwyddau a'r 'nialwch oedd yn cael ei gludo gyda ni. Roedd yna fotobeics a basgedi bob lliw, a bagiau yn eu canoedd a phobl o bob lliw a llun. A dyma fi'n canfod fy hun yn eistedd wrth ymyl Americanwr, a hwnnw yn gofyn cwestiynu boncyrs am y monarchy back in Britain, and what is your opinion on the Queen of England...rah rah rah? Y cwbwl o'n i'n gallu ganolbwyntio arno fo oedd peidio taflu cynnwys fy mrecwast dros ei sgidiau sgleinio, a'r cwch yn siglo nol a mlaen fel pendil cloc.

Mae dau losfynydd enfawr ar ynys Ometepe, un byw ac un marw. Mi fuodd T. Ifor Rees ar lyn Nicaragua nol yng nghychwyn yr 20G, roedd o'n Gonsul dros Brydain yn y wlad, ac yn gorfod teithio i ochr arall y wlad i ddelio a busnes yn Bluefields. Roedd o'n teithio dros y llyn fin nos, ac roedd o'n gweld gwreichion lafa'r llosgfynydd wrth basio heibio'r ynys. Welson ni ddim lafa, diolch byth, ond wrth gysgu ar yr ynys, mi glywais i swn taranau, a dychryn am fy mywyd yn meddwl fod y llosgfynydd wedi chwythu! Mi fuon ni yn nofio mewn pwll naturiol, oedd yn fod yn llesol i'r corff oherwydd mineralau'r llosgfynydd, neis iawn.

Matagalpa
Mi deithion ni i Ogledd Nicaragua, i le oerach, diolch byth. Allwch chi ddim gwerthfawrogi pa mor neis ydi treulio ychydig ddiwrnodau mewn hinsawdd o 20gradd selsiws nes y byddwch chi yn trafeilio o amgylch Canolbarth America. Mi fuon ni yn ymweld a ffarm goffi enfawr - Selva Negra, ac fe'n dangoswyd ni o amgylch y fferm gan y perchenog. Mae 600 o weithwyr yn byw ar y fferm, ac mae ysgol i'r plant, a syrjeri a phob math o bethau fel pentre bach yno. Mae holl wastraff y gymuned yn cael ei droi mewn i gompost er mwyn tyfu'r planhigion coffi, a'r llysiau a ffrwythau sy'n cael eu tyfu i fwydo'r gweithwyr. Mae nhw'n magu ieir, moch, a gwartheg ac yn defnyddio eu cynyrch a'u gwastraff. Mae hydnoed methane o'r system garffosiaeth yn cael ei ddefnyddio ar y fferm fel nwy coginio yn y bwyty. Doedd dim byd yn mynd yn wastraff, roedd o'n lle anhygoel.

I Honduras.
Pwy ddywedodd fod teithio i Honduras yn hawdd? Neb? Ok. Wel dydio ddim. Ein bwriad oedd teithio o Matagalpa yn Nica, i brifddinas Honduras - Tegucigalpa. (allwch chi ddweud hynna?) er mwyn parhau a'n taith y bore wedyn i dop Honduras ac i'r Bay Islands.
Mi godon ni yn Matagalpa am 7, cychwyn da. Ond i dorri stori hir hir hir yn fer, mi fuon ni ar 6 bws gwahanol, a hithau yn bwrw a ninau'n glychu ymhob stop, ac mae'r bysus yma'n wallgo. Chicken buses ydi'r enw, does dim Air Con, mae nhw'n llawn i'r ymylon, yn aml yn cynwys sawl math o anifail, mae nhw'n stopio ymhobman, yn codi unrhywun sy'n fodlon rhedeg chydig i neidio ar y bws, yn costio nesa peth i ddim, mae nhw'n wallgo. Cael a chael oedd hi i ni fedru croesi'r border, a chyraedd tref hyll o'r enw Danli i orffwys ein pennau am y nos. Roedden ni'n nacyrd. Isho cysgu. Ond ooo na, doedd dim cwsg i fod. Ar ol setlo i lawr ac estyn am Jane Eyre i gael ymlacio, mi weles i rhyw bethau bach du ar y gwely, dyma sbio yn graff...BED BUGS! Myn cacen i. Dyma archwilio pob gwely, a ffeindio'r diawled bach yn 3 o'r 6 gwely oedd ganddo ni rhwng y dwy lofft. Doedd perchenog yr hostel ddim isho gwbod, ac yn mynnu nad oedd stafelloedd eraill ar gael. Felly dyma drio ffitio tair mewn dau wely. Gathon ni ddim llawer o gwsg y noson honno a ninnau'n meddwl fod pob cosiad bach yn bry. Ych a fi.



2 ddiwrnod yn diweddarach a 8 bws, ac mi gyrhaeddon ni Honduras. Ryden ni rwan yn y Bay Islands. Mae hi'n boeth, mae pryfaid tywod a mosquitoes yn ein bwyta yn fyw.

Sori am y diffyg storis difyr a chreadigolrwydd, dwi wedi cael annwyd, mae hi'n boeth, dwi di blino, esgusodion esgusodion...

No comments:

Post a Comment