28/07/2010

San Juan

Fuoch chi rioed ar chloroquine? Wel do, mewn padell ffrio. Chwythodd y gwynt fi i`r Eil o Man, a dyna lle bum i`n crio...

Na, dydw i ddim wedi dechrau cymryd cyffuriau. Tabledi gwrth-malaria ydi chloroquine, a dydech chi ddim i fod i`w cymryd nhw ar stumog wag. Ond mi ges i wenwyn bwyd. Dwi erioed wedi bod mor sal. Mi fues i yn taflud i fyny, ac yn eistedd ar y toilet bob yn ail drwy`r nos am noson gyfa, ac yn methu bwyta dim 48 awr arall. A dyna pam fuodd yn rhaid cymryd chloroquine ar stumog wag. A dyna pam fod y ffin rhwng realiti a breuddwyd yn dennau iawn wedi bod, a finnau wedi treulio oriau o gwsg aflonydd yn meddwl fod pob math o bethau amhosib wedi digwydd. Mae`r cyffur yn gwneud i chi freuddwydio am bethau hollol bananas. Doedd y ffaith ein bod ni yn San Pedro ddim yn helpu dim. Dyma i chi le rhyfedd, lle gwallgo. Tybed a nes i, fel Alice, ddisgyn i lawr twll cwningen a glanio yn y lle rhyfedd yma a elwir yn San Pedro de la Laguna?

Cyrraedd San Pedro de la Laguna
Mae cyflwr ffyrdd Canolbarth America yn atgoffa rhywun ein bod ni yn y Trydydd Byd. Mae tyllau enfawr ac afonydd yn llifo dros rhai darnau, a chlogwyni cerrig wedi disgyn i orchuddio milltiroedd o leiniau traffig. Mae cerrig mawrion a choed jyst yn gorwedd ar ganol y ffordd, a`r gyrrwyr yn gyrru où cwmpas nhw`n ddi-hid. I ychwanegu at y teithiau anghyffyrddus, mae rhywun wedi penderfynu fod sleeping policemen am ddatrys sefyllfa gor-yrru`r wlad. Mae`r twmpathau concrit enfawr ar hyd y ffyrdd bron bob milltir, gan wneud pob taith yn anioddefol o boenus wrth i`r cerbydau, sydd ddim yn arafu prin ddim, rampio dros y twmpathau i`r awyr gan lanio yn glep i`r llawr.
Roedd y daith i San Pedro yn waeth fyth. Roedd fel bod y ffyrdd bychain sy`n cyfuno`r pentrefi bach o amgylch llyn Atitlán wedi cael eu bwyta gan anghenfil aù poeri yn ddi-seremoni yn ol i`w lle. Bydde wedi gorfod cael tractor i`w troedio adref. Ond mae gyrrwyr Guatamala yn wallgo. Felly i ffwrdd a ni mewn bws-mini dros y tyllau enfawr, drwy afonydd, heibio tir-lithriadau, o amgylch cerrig enfawr, i rownd corneli siap Z ar gyflymder gwallgo, a dyma gyrraedd San Pedro, o`r diwedd.

Roedden ni wedi clywed si fod hostel anhygoel yn cuddio yn rhywle yn San Pedro, o´r enw Zula. Felly dyma ymladd drwy`r giwed o berchnogion hotels a oedd yn ysu am gwsmeriaid tu allan i ddrws y bws mini, a gweiddi ein bod ni`n iawn diolch, ein bod am chwilio am Zula. Dyma glustiau un o`r dynion lleol yn codi, a dyma fo`n penderfynu ein bod am ein harwain i Zula, er gwaetha`n cri ni fod genon ni fap, ac nad oedden ni am roi tip iddo fo. Roedd o`n ddyn bach od, hefo dannedd duon, a tyllau yn ei ddillad, bechod.

Felly i ffwrdd a ni i lawr y ffordd fawr, a dod i dead-end. Dilyn y dyn bach wedyn i lawr llwybr cul i mewn i jyngl o ryw fath, yna troi eto i lawr llwybr pridd creigiog, ymhell bell o`r pentre a ninnau`n dechrau meddwl a ddylen ni droi yn ol a rhedeg. Yn sydyn, dyma ni`n gweld shed yn goleuo yn y pellter. Wrth agosau, dyma ni`n clywed cerddoriaeth a sylwi fod y shed yn lliwgar neis a fod degau o bobl yn eistedd ar gwshins cyffyrddus yr olwg ar lawr o amgylch degau o fyrddau isel. Roed lampau patrymog o bob lliw yn hongian o`r nenfwd, a defnydd yn gorchuddio`r waliau - roedden ni wedi dod o hyd i Zula, hafan anhygoel yn y coed!



Ond och a gwae, doedd ganddyn nhw ddim gwlau i ni. Roedd yn rhaid i ni gario ein bagiau trwm yr holl ffordd yn ol i`r pentref...
"Ond arhoswch!" gwaeddodd un dyn bach a ninnau ar fin gadael yn llwythog ac yn llwglyd, "Mae un opsiwn arall...". A dyma Lowri a fi yn cafod ein hunain yn derbyn llety mewn cwt gwellt ar waelod yr ardd! Dyma i chi gwt bach rhyfedd oedd o - yn llawn trychfilod a phryfaid cop, a gwely mawr gyda malwen o dan y gobenydd! A dyma lle y buon ni am dair noson yn hapus ein byd. A mi benderfynwyd un noson, ar ol i gynnwys y Buddah Bar gael eu cicio allan ar ol stop-tap, wahodd pawb yn ol i`r cwt am "house-party".


Dydwi`m yn nabod neb yn y llun yma.

Doedd o ddim yn gwt mawr iawn, ond mi lwyddon ni i ddwyn y cwshins i gyd o`r shed liwgar, a llenwi ein cwt gyda tua 20 o bobl o bob cenedl i gael parti gorau`r ganrif. Y bore wedyn mi roedd yn rhaid i ni smyglo`r cwshins i gyd yn ol cyn i`r shed agor am frecwast, tasg anodd o ystyried fod cannoedd ohonyn nhw.



Yr "Hot Springs"
Dyma Lowri a fi yn penderfynu mynd i ymlacio, ar ol clywed fod hot springs, neu thermal pools yn rhywle yn y pentref. Ryden ni wedi bod mewn ambell i hot springs dros y 4 mis diwethaf - mae nhw fel arfer fel pwll nofio mawr sy`n cael ei gynhesu gan y llosgfynyddoedd gerllaw. Dyma gyrraedd pyllau poeth San Pedro. Roedd yn rhaid cerdded drwy lwybr jynglog arall i gyrraedd y man, a cherdded dros fryncyn mwdlyd, ac i lawr drwy gae gwair uchel, a dyna lle oedd y thermal baths. Bath yn wir oeddyn nhw. Dau dwbyn bath, ychydig mwy na`r arfer, un yn cynnwys dwr eithriadol o boeth, a`r llall yn cynnwys dwr rhewllyd. Dau fath mewn cae gwair, yn edrych dros olygfa hyfryd o Lyn Atitlán. Ond roedden ni yma erbyn hyn, a waeth i ni fynd i mewn i`r baths! Ond wir i chi, mi dreulion ni`r awr gyntaf yn trio mynd i mewn i`r baths gan fod y naill yn rhy boeth a`r llall yn rhy oer! Roedd perchenog y lle yn dod i weld os oedd popeth yn iawn bob yn hyn a hyn, yn clywed y sgrechiadau o boen rhwng yr oerfel eithriadol a`r cynhesrwydd anioddefol, ac yn dod i siarad Sbaeneg hefo ni. Ond mi oerodd un a mi gynhesodd y llall yn y diwedd, a mi dreulion ni`r pnawn cyfan yn socian yno ac yn chwarae cardiau er mawr syndod i ni!



Taith o Amgylch Llyn Atitlán
Dyma Lowri a fi yn penderfynu ein bod ni eisiau mynd i gerdded. Ryden ni yn treulio lot gormod o amser yn bwyta, yfed ac eistedd ar ein tinnau yn ddiweddar, felly dyma heirio guide am y bore, a mynd i gerdded o amgylch rhan o`r llyn.
Mae Llyn Atitlán yn un o ryfeddodau naturiol Guatamala. Mae tri llosgfynydd enfawr o`i gwmpas, ac mae jyngl drwchus yn gorchuddio dau. Mi ddywedodd Mario, ein guide, fod Boa Constructors yn y jyngl, a phumas, ond does dim eliffants.
Mi gerddon ni am filltiroedd, drwy bentrefi bychain, pob un yn cychwyn gyda ´San´. Mae`r bobl yn byw yn dlawd iawn yma, y plant yn aml yn gorfod gweithio. Roedd tlodi yn amlwg iawn, gyda sbwriel ymhobman, a`r ffyrdd a`r adeiladau yn disgyn yn ddarnau.
Yna mi gafon ni gwch yn ol dros y llyn i San Pedro. Neis iawn, a da iawn ni.




Yr Anifail.
Roedd Zula yn anhygoel. Nid yn unig yr oedd o`n edrych fel rhywle allan o Wonderland, ond roedden nhw`n gwneud bwyd anhygoel yno. Roedd y pentref yn llawn llwybrau bach cudd, a bwytai anhygoel yn cuddio yn y coed. Roedd tuc-tucs bach ar y ffordd fawr yn cario pobl i bob rhan o`r pentref. Ond roedd bwyd Zula mor neis nes yno y bu ni`n bwyta swper bob nos. Ond yna, mi ges i wenwyn bwyd. Ac ar y toilet o`n i, a Lowri wedi mynd i`n cwt i baratoi ar gyfer noswylio, pan ddaeth CNOC ar y drws.
"Leusa...mae yna anifail yn y cwt...", medde Lowri mewn llais crynedig tu hwnt.
"Sut fath o anifail?", gofynes inne.
"Un yr un maint a chath, hefo cwnffon fel llygoden fawr, a llygaid enfawr", medde Lowri. Roedd yr anifail yn cuddio yn nho`r cwt, a wedi syllu ar Lowri oedd ar y gwely, fel pe bai o`n dweud helo. Yn ogystal a`r anifail, roedd yno ddau bryf-copyn mwy na`r arfer, bron nes y gellid eu galw yn darantulas!
Dyma ni`n hel dau Sais oedden ni wedi dod i`w nabod i ddal yr anifail a`r pryfaid cop, ond myn cacen i roedden nhw`n fwy o gadi-ffans na ni`n dwy hyd yn oed. Felly ffwrdd a ni i ddweud wrth berchnogion yr hostel nad oedden ni`n cysgu yn y cwt efo`r anifail a`r tarantulas. Ond doedd gennyn nhw`m mwy o wlau! Och a gwae. Felly mi fuodd yn rhaid i ni gysgu yn y TV Room am y noson, (rhwng rhedeg nol a mlaen i`r toilet)!
Mi gawson ni stafell gall y noson ganlynol, ond roedd pawb yn yr hostel yn edrych arnon ni yn slei ac yn chwerthin dan eu gwynt bob tro roedden ni`n pasio. Doedd neb yn credu yn stori`r anifail.

Gadael San Pedro
Bore ma mi adawson ni San Pedro. Ryden ni yn ol yn Antigua yn yr union run lle ag y gadawson ni am San Pedro. Mae`r pedwar diwrnod diwetha yn un breuddwyd gymysglyd o gwshins lliwgar, anifeiliaid, stormydd gwallgo, gwin coch a tequila, llosgfynyddoedd, Gwyddelod, Israelis, tuc-tucs a siarad Sbaeneg... tybed ai`r Chloroquine sy`n gyfrifol am y cwbwl?

No comments:

Post a Comment