17/05/2013

San Pedro a Tops fy Athro Sbaeneg

Ar ol bod yn San Pedro de la Laguna yn 2010, ddois i oddi yno yn meddwl mai breuddwyd oedd y cwbwl. Felly mi es i nol i jecio os oedd o yno...

Mae San Pedro yn un o´r nifer o pentrefi bach cysglyd sydd o gwmpas Llyn Atitlan.

Dau o´r tri llosgfynydd sydd o amgylch y llyn.
Mae´r pentrefi o amgylch y llyn yn gartref i bobl y Maya, ond yn anffodus mae San Pedro wedi ei effeithio fel lot o lefydd eraill o amgylch y llyn gan dwristiaid. Hipis sydd wedi coloneiddio San Pedro. Allwch chi ddim cerdded lawr run stryd heb faglu dros fwyty vegan, neu bobl canol oed hanner noeth efo dreadlocks sydd wedi peidio eu wynebau efo blodau a sgwiglis bach rhyfedd. Mae nhw hefyd yn meddwl bo nhw´n gallu canu, wele ddiwedd post Belize

Ac ymddengys fel bod pawb ond y dewraf o bobl lleol San Pedro wedi hen ddianc o´r lle. Yr unig tri lleol nes i gwrdd a nhw oedd un dyn gwallgo efo craith o dop ei lygaid at ei en, a´i ffrind mwy gwallgo oedd wedi colli ei lygad. Y trydydd ydi hen ddynes fach o´r enw Juanita. Ond peidiwch a chael eich twyllo:

Juanita 

Mae Juanita yn cerdded o amylch San Pedro o fore gwyn tan nos hefo basged drom ar ei phen, yn gwerthu cacenau banana, siocled a choconyt. Mae hi´n edrych yn ddiniwed, ond gwyliwch chi pan fyddwch chi yn cerdded yn y tywyllwch, mi neidith Juanita allan o´r cysgodion efoí llais bach gwichlyd..."Quieres pan...?" (A gymrwch chi fara?) a neith hi ddim gadael i chi ddianc heb brynu o leia tair torth. A hyd yn oed os ydech chi´n hollol sicr fod Juanita wedi mynd i un cyfeiriad i blagio rhywun, a chithau yn rhedeg i´r cyfeiriad arall, mi fydd o´ch blaen chi ymhen dau funud, oherwydd mi all Juanita fod mewn mwy nag un lle ar yr un pryd.

Tyc Tycs yn aros am eu prae
Osgowch y tyc tycs fel gwenyn ar ddiwrnod hel mel
Yr olygfa o do´r hostel


Ac mae tyc-tycs yn bla yn bobman, a´r gyrrwyr yn trio pinsio eich pen-ol chi wrth basio, i´r fath raddau nes mod i´n cario potel enfawr o ddwr fel bat i bob man dwi´n mynd.

Nes i benderfynu mynd i gael gwersi Sbaeneg am chydig o ddyddiau yn San Pedro. Yn benaf i loywi fy ngramadeg. Ond hefyd, gan mod i wedi cwrdd a cwpwl o Iwerddon rai wythnosau´n ol, a fuodd dysgu Sbaeneg yn San Pedro efo athro o´r enw Tops. Roedd y cwpwl wedi rhoi crys lliwgar (anrheg Nadolig anffodus) i Tops, ac wedi gwirioni o´í weld yn gwisgo´r crys ´ma bob diwrnod am y 5 wythnos oedden nhw yn astudio yno. Felly dyma fi´n cerdded heibio´r Language Hub yn llechwraidd, yn gobeithio cael cip ar y crys lliwgar ma. Ond roedd y ty bach melyn yn dawel. Yn sydyn, dyma rhywun yn neidio allan o´r drws.

"AAAAAA" gweiddais, yn meddwl mai Juanita oedd yno yn trio fy mygu efo Pan de Banana. Ond nage, Tops oedd yno!

Roedd Tops yn arogli fel ashtray. Ac yn gwisgo bandana dros ei wallt llwyd, a roedd ei ddanedd yn felyn. Pe bai Tops yn anifail, hyena fyddai o.

Ac fel gweddill trigolion penderfynol San Pedro, doedd dim dianc o´r stryd tu allan i´r Language Hub heb gofrestru ar gyfer gwersi Sbaeneg. Ac yno y bum i am chydig ddyddiau yn gwrando ar straeon Tops am ei fywyd fel plentyn yn Guatemala (ymarfer berfau yn y gorffennol..."Una Vez... un tro..."

Un tro, mi lwyddodd Tops a´i frawd pan oeddwn nhw´n blant i basio´r plismyn arfog yn y Palas ym Mhrifddinas Guatemala ar ddiwrnod cyntaf yr Arlywydd yn ei swydd, a gwneud ffrindiau hefo merched ryw ddiplomydd, ac esgus eu bod yn rhan o´r teulu. A chyn pen dim roedden nhw´n sefyll wrth ymyl yr arlywydd a´i griw ar falconi´r palas yn chwifio i lawr ar y miloedd o bobl oedd wedi dod i weld y sioe!

Mae Tops hefyd yn cofio daeargryn mawr 1976, a darodd am 3am pan oedd pawb yn eu gwelyau. Roedd yn byw yn Guatemela City bryd hynny. Roedd Tops fod i gychwyn yn yr ysgol gynradd y diwrnod canlynol, ac wedi lapio ei lyfrau mewn plastig yn barod i fynd. Ond oherwydd y drychineb, fuodd ´na ddim ysgol am flwyddyn gyfan i neb yn y ddinas, a mi oedd na dros filiwn o bobl yn ddigartref, a phawb yn byw mewn tenti yn parciau´r ddinas. Mae´n cofio gweld adeiladau yn disgyn o´i gwmpas ar y stryd, a chwn yn rhedeg o gwmpas efo darnau o gyrff pobl yn eu cegau. Bu farw dros 20,000 o bobl yn y daeargryn hwnnw. 

Does gen i´m llun o Tops i chi, ond na i chwilio am un!

Dyma luniau o fuwch a bananas a chicken buses i chi yn lle:




























No comments:

Post a Comment