14/05/2013

Antigua

Yn Llanuwchllyn allwch chi ddim pasio neb ar y stryd heb ddeud helo neu gychwyn sgwrs. A pan mae na gar  yn pasio ac o gysgodion set y gyrrwr y gwelwch chi rhywun yn codi llaw, mi godwch chi law yn ol, a weithiau mi sylwch chi mai ar y person sy'n cerdded yn dawel y tu ol i chi roedd y gyrrwr yn codi llaw, a wedyn mae'n rhaid i chi gerdded yr holl ffordd nol o'r siop yn Rigls i Pandy efo'r person tawel tu ol yn chwerthin yn dawel bach yn meddwl wrthyn nhw eu hunain "hihihi roedden nhw'n meddwl mai arni hi roedd y person yn y car yn codi llaw, ond arna fi oedden nhw'n codi llaw go iawn".



Ond dydio ddim bwys yn y diwedd, achos mae pawb yn codi llaw ar ei gilydd ac yn deud helo, ac yn gwbod hanes pawb a phopeth, ac yn mynd i'r siop i brynu tomatos er fod ganddyn nhw eisoes bwys o domatos yn eu ffrij, ac yn eistedd ar y fainc wrth waelod Maes Pandy mewn glaw man, ac yn prynu'r Cyfnod a Pethe Penllyn, ac yn cyfri faint o weithiau mae aelodau o'u teulu yn ymddangos yn y tudalenau, ac yr unig ffordd i aros yn anhysbys ydi symud i rhywle pell prysur, i ddinas, i guddio ymysg pobl ddieithr. Ond pwy sydd eisiau bod yn anhysbys?

Ac mewn ffordd, dyna sut le ydi Antigua.

Antigua a llosgfynydd Agua. Sylwch mai dyma'r un olygfa (llun gwaeth!) a'r llun ar dop y blog, ond wyddwn i ddim nes cyrraedd top y bryn.
Ond yn lle Su Mai Wa, dwi'n gweiddi "Buenos Tardes! Hola! Como estas?" yn llon yn cyfarch pawb ar y strydoedd tra'n trio osgoi cael fy nharro gan tuc tuc, chicken bus neu foto beic, yn hytrach na jeeps a tractors Llanuwchllyn.

Yn hytrach na'r Aran, llosgfynydd Agua sy'n gwmpawd i mi yn y ddinas yma. Y llosgfynydd tawel i'r de, a Cerro de la Cruz (Bryn y Groes) i'r Gogledd. Mae'r guidebook yn rhybuddio twristiaid rhag dringo Cerro de la Cruz, dychmygwch Gwylltiaid Cochion Mawddwy yn cuddio yng ngilfachau Garth Bach ac yn dwyn eich brechdanau ham, a'ch Twix. Ond mae 'na heddlu arfog yn gwarchod cerddwyr ar lethrau Cerro de la Cruz, eu gynnau fel twelve bores ffermwyr Llan yn pwyntio at dlodion truenus Antigua yn hytrach na llwynogod.

Desayuno Tipico, Brecwast Typical yn Guatemala. Wyau, ffa (y peth brown anffodus yr olwg), hufen, bananas wedi eu ffrio a tortilla, a chofi chwerw.
Dwi'n crwydro mewn i dafarn, ac yn synnu o weld arwydd enfawr uwchben y bar, 'Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllandysiliogogogoch', dwi'n cael Cuba Libre am ddim am ddeud y gair yn gywir gan Shaun y perchenog, sydd wedi symud i Antigua a Ben y Bont ar Ogwr ddeg mlynedd yn ol. Dwi'n cwrdd a Guillermo, dyn galluog iawn sy'n gweithio mewn Wisky Bar. Pam fod dyn sydd yn ffynhonell o wybodaeth, sydd wedi adeiladu mur o lyfrau o'i gwmpas rhwng poteli wisgi yn treulio 60 awr yr wythnos yn diddanu teithwyr penchwiban? Twristiaeth twristiaeth! Dyna ydi cnewyllyn y ddinas, yr unig beth sy'n pwmpio pres i'w gwythienau, diddanu hwn a llall sydd ond yn galw heibio am ddiwrnod neu ddau ac yna'n diflannu am byth. Plesio pawb, gwerthu popeth, prynwch hwn, na prynwch hwn gena i mi wna i o am 10 quetzales yn rhatach! Trip i fan hyn, trip i rhywle arall, dim bwys gen i os nad ydech chisho mynd ar drip, mi ai a chi yn rhatach na fy nghymydog.

Dwi'n gadael Antigua yn teimlo fod yr holl groeso fel coffi rhy felys. Ond dim cyn i mi gwrdd a'r fersiwn Guatemalaidd o Meirion yr Eagles yn gweithio yn bar yr hostel:





No comments:

Post a Comment