01/05/2013

Baglu a Straeon y Caribi

Gadael Flores
Oni yn gorwedd ar lawr fy llofft yn yr hostel, yn trio osgoi baglu´r Swiss, (lot ohonyn nhw, coesau hir, gorwedd mewn man anghyfleus etc etc). Roedd dringo´r grisiau i´r bync bed yn her nad o´n i´n teimlo´n hyderus iawn yn ei chylch ar y pryd. Ro´n i wedi cael gwenwyn bwyd eto, yr ail waith erioed, a´r ail waith yn blincin Guatemala. Tro dwetha es i´n sal, o´n i´n cael rhithweledigaethau, a dwi´n cofio erfyn ar froga bach oedd wedi hopian dan ddrws y toilet i fy helpu. Tro ´ma doedd dim brogaod, dim ond y Swiss yn tywallt dwr i fy ngheg bob hyn a hyn wrth basio rhag i mi sychu´n grip, tri ci hyll, ac un hen ddyn tew o Texas.

Rio Dulce
Dyma ddisgyn oddi ar y bws (dim yn llythrennol) i Rio Dulce, tre fler yn llawn siopau yn gwerthu Pepsi ac avocados. Doedd gen i´m syniad lle i fynd, felly dyma fynd i bendroni mewn caffi i fwyta brechdan. Ymhen hir a hwyr dyma gwch bach coch yn angori wrth y pier yn y caffi, a´r sgrifen ´Casa Perico´ arni. Wel mae hwnna´n swnio fel llety medde fi wrthaf fy hun, a ffwrdd a mi efo brechdan yn fy llaw a bacpac ar fy nghefn i ofn am lifft.

Wrth wibio i lawr yr afon felys tuag at Casa Perico, dyma basio llwyth o gabanau pren anhygoel, yachts drud a phob math o bethau anhygoel fel hyn:



Ond dal i fynd nath y cwch bach coch, nes o´r diwedd gyrraedd darn yn yr afon y gellid fod wedi ei ddefnyddio fel set i stori am grocodeil yn bwyta rhywun ar ol iddyn nhw ddisgyn mewn camgymeriad o gwch bach coch.


 Ond ddigwyddodd hynny ddim diolch byth. Doedd na´m lle yn Casa Perico i swingio´r anifail bach dof yma hyd yn oed, 



Y cwbl oedd o oedd chydig o gabanau ar stils ar y dwr llonydd, a roedd na ddigon o bryfaid i greu byddin, ond roedd yna rewgell hefo Magnums ynddo fo, a sbageti bolones, a roedd hynna´n ddigon da i mi.


Livingston

Dyma fi´n meddwl wrtha fi fy hun ar ol baglu dros granc ar y ffordd i´r bar yn yr hostel, mae´r lle yma yn sbeshal iawn.



Dwi wedi colli fy esgidiau, ond dal wedi llwyddo i gyrraedd Livingston, sydd yng ngogledd Guatemala, ar arfordir y Caribi. Dim ond dros ddwr ma posib cyrraedd yma, ac mae´r diwylliant a holl naws y lle yn hollol wahanol i bobman arall yn Guatemala. Garifuna ydi´r rhan fwyaf o bobl yma, sef disgynyddion y Caribs, pobl Gorllewin Affrica ac Arawak.


Heddiw mi es i am wers goginio at ddyn o´r enw Mega. Dyma fo yn trin coconyt, efo smoc dew yn ei geg, efo Haile Selassie ar y wal tu ol iddo fo. 


Tapado oedd y bwyd oedden ni´n ei baratoi, sef ryw gawl pysgod a llaeth coconut. A roedd ei blant bach yn dawnsio o gwmpas y lle, yn trio reidio´r ci ac yn trio llyfu´r ieir. Wedyn mi ddaeth gweddill y gymuned draw i chwarae dryms i ni, miwsig y Garifuna. Dyma i chi flas (o´r gerddoriaeth, dim y bwyd…)-




Sori i´ch siomi, ond fydd na ddim hanes fi yn straffaglu i fyny llosgfynydd am sbel, dwi di cymryd ffansi at y rhan yma o´r byd, a bore fory dwi am groesi´r border a dal cwch i Belize.

Dyma fwy o luniau, tan toc, Leusa.



1 comment:

  1. Dwi'n meddwl ella bod y cygydd yn Rastafarian, Haile Salassie yn ffigwr crefyddol iddyn nhw. Be ydi'r creadur bach yna?! Math

    ReplyDelete