08/05/2013

Storm

Dychmygwch Borat byr efo acen Albaneg a lisp, a dyna i chi Hamish - yr Albanwr oedd yn gweithio yn hostel Las Iguanas yn Livingston pan ddaeth Y Storm.



Roedd pawb yn rhedeg o un pen i'r patio dan do i'r pen fel bo nhw'n neud y bleep test yn campfa Ysgol y Berwyn edrych ar y mellt yn troi'r nos yn ddydd am tua tair eiliad ar y tro, yn methu penderfynu pa ffordd i ddianc. Odd o fel bod yn Clwb Ifor Bach efo strobe lighting, ond doedd dim golwg o Gareth Potter.

Oni wedi panicio, ac yn methu cofio be mae dyn fod i neud mewn storm. Odd pawb arall wedi cael rym neu ddeg yn ormod, a finnau yn gall i gyd yn gorfod codi am 5am y bore wedyn i ddal cwch yn penderfynu trio cymryd gofal o'r sefyllfa.

"Right everyone! Listen up, don't go shelter under any high trees, I think...And don't panic and and, errm, there's a rule, something to do with cows...?"

"COWS! We need to go shelter under a cow! HAS ANYONE SEEN A COW SINCE THEY ARRIVED IN LIVINGSTON?"

"I've seen a goat, does that count...?"

"Leusa!" gwaeddodd Borat fy nghyd-Gelt, "I've got a secret to tell you..." gwaeddodd dros swn y trannau, oedd yn swnio bellach fel lwyth o portacabins yn rowlio lawr ochr mynydd. "I've got..." cychwynodd Borat. "WHAT?" gwaeddes inne'n uwch. "I've got...an umbarella! And it's got a whistle on it..."

"NO! Don't use the umbarella! It attracts lightning!" medde fi.

"It's a plastic one!" medde fo'n ol efo direidi yn ei lygaid, roedd o'n meddwl fod ganddo'r arf perffaith i oroesi'r glaw mawr oedd wedi fflydio'r hostel i gyd mewn mater o dri munud. A dyna lle ro'n i yn ystyried mynd i chwilio am yr ymbarel 'ma, a'i dwyn, ac arnofio i lawr y ffordd fawr oedd bellach yn afon ddyfnach na'r ddyfrdwy fel cymeriadau Gwlad y Rwla.

"Strempan? Ai ti sydd yna?"

Roedd y letric wedi diffodd ers oriau, yn rybudd trydanol fod trybini ar ei ffordd dros for y Caribi. Roedd gen i ofn, roedd hydnoed fflamau'r canwyllau prin yn crynu hefo fi.

"WIIII! gwaeddodd ryw Wali meddwach na'r gweddill ohonan ni, "I'm going skinny dipping in the sea!"
"O no you're not!" atebais i, El Jeffe'r Hostel. Ond wrandawodd o ddim, ac i ffwrdd a fo ag entourage o ferched ifanc o'r Almaen i'w ganlyn. DAMIA, ro'n i wedi colli chwech o nghriw, doedd na'm gobaith y deuen nhw nol yn fyw yn y tywydd 'ma.

"We got to stick together, people!" medde fi yn trio adennill fy mhwer dros y grwp. A dyma gyfri pennau i neud yn siwr fod pawb heblaw'r nofwyr noethlymun hefo ni. Cyfri...a darganfod fod un ar goll.

"O MY GOD! TENT MAN!" gwaeddais, yn cofio am y Rasta bach swil o Frasil oedd wedi bod yn cuddio mewn hamoc yng nghornel yr hostel ers tridie. Roedd o ar budget tyn iawn, ac wedi mynnu aros mewn tent yng ngardd yr hostel am bunt chwe-deg y noson, a dal wedi mynnu cael pum noson am bris saith. Allwn i ddim dychmygu dim gwaeth na chysgu mewn tent yn y lle 'ma. Roedd hi'n 39 gradd, a roedd yr ardd yn llawn crancod, madfallod, a ryw anifail mawr blewog (a nadw dwi ddim yn son am Hamish).

A dyma syllu draw i'r ardd, a dyna lle roedd y dent fach dal-dau-ddyn fel gafr wydn ar ochr dibyn serth yn trio ei gorau i oroesi. A mi weles i rhywbeth yn goleuo'n wantan o fewn y dent.

"Tent man is IN THE TENT!" gwaeddais dros ru'r storm. Roedd yn rhaid i ni ei achub, neu mi fyddai o wedi boddi yn reit siwr i chi. Ac ar fy ngorchymyn, mi stripiodd Nate y gitarydd o Tennesssee (un da hefyd, cadwaf lygaid amdano yn y siartiau) i lawr i'w drons, a mentro i'r glaw i gesio achub Tent Man. Yn fflachiadau'r mellt, mi allwn i weld y dyn bach tennau hanner noeth 'ma yn sprintio drwy'r pwll nofio newydd tuag at y dent , ac yn curo- gystal ellid curo ar ddrws tent mewn storm. Er nad oeddynt gwta bedair medr i ffwrdd, roedd y gwynt yn cipio eu sgwrs ac yn ei gario rhywle ymhell rhwng Belize a Honduras. Daeth Nate yn ei ol yn waglaw, ychydig yn wlyb, ond yn mynnu nad oedd Tent Man am ildio ei dent. Roedd o fel capten y Titanic, os oedd hi am suddo, roedd o am fynd i lawr i'w chanlyn. Dyn dewr.

Cofiais fod ffenestr fy llofft ar agor. Trychineb. Roedd yn rhaid i mi fentro croesi'r llwybr, dringo grisiau slipiog (*di hwnna'n air?). Roedd yn bryd i mi brofi fy ngwerth fel arweinydd gwerth ei halen.

"If i'm not back in ten minutes, just remember that I love you all. Take care of yourselves now - Hamish, you're in charge." medde fi yn ddagreuol, a rhedeg allan i'r nos.

"Yes!" clywais Hamish yn gwaeddi'n llawen.

O'n i hanner ffordd dros y top, yn rhedeg am fy mywyd am loches, pan deimlais y poen mwya erchrydus yn saethu i fyny fy mraich dde. DDUW MAWR, oni wedi cael fy nharro gan fellten yn reit siwr i chi, fel Aled Richards. (Ydi honna'n stori wir?). "AAAAA" gwaeddais mewn poen, a dal i redeg. Ar ol cyrraedd man dan do, edrychais i lawr i asesu'r niwed. Roedd fy mraich yn gwyr gwyn drosdi i gyd. Y ganwyll! Diolch byth, doni heb gael fy melltio, dim ond cwyr y ganwyll oedd wedi fy llosgi.

I ffwrdd a fi i gau'r ffenest. Ar ol dod yn fy ol, dyma fi'n neidio o sylwi nad o'n i ar ben fy hun. Roedd yna dwmffat mawr yn y bathrwm yn chwarae gyda'r switsh golau.

"Ben, what the hell are you doing?" medde fi wrth y bachgen o Essex.

"The lights aren't working for some reason and I need the toilet."

"Yes, there's a power cut...that's why we've been in the dark for five hours"

"Oh yes, right. I'll try the other switch, it definitely worked this morning"

A dyma benderfynu bod hwn tu hwnt i unrhyw achubiaeth, a fe'r adawais i chwarae gyda switshis a rhedeg yn ol at fy nghriw.

Doedd dim golwg ohonyn nhw, a dyma godi fy nghanwyll a sbio i'r ardd, a dyma lle oedden nhw yn ei crwman i gyd a'u dwylo yn y dwr.

"What are you doing?"

"The crabs are drowning!" gwaeddodd Hamish yn ol. O diar mi meddyliais innau wrtha fy hun.

O'r pellter, clywais lais merch yn erfyn mewn panic ar rhywun "De donde eres?". Pam goblyn fyddai unrhyw un yn cychwyn sgwrs ac yn holi dieithryn ynglyn ag o pa le y mae nhw'n dod ar noson o dywydd garw fel hyn? meddyliais wrthof fy hun. Ac yna o'r pellter, gwelais y gwyliwr nos yn dod dow dow i lawr y llwybr hefo un o'r skinny dippers, a golwg druenus iawn arni. Doedd o ddim wedi deall mai trio gofyn LLE GOBLYN YDW I oedd hi, a felly dyna lle oedd o'n paldaruo'n hamddenol ynglyn a'i bentref genedigol a'i fagwraeth tra oedd hithau yn meddwl fod y diwedd wedi dod.

Dyma ddeffro'r bore wedyn, a roedd darnau o'r hostel wedi eu gwasgaru blith drafflith ymhob man. Cadair yn fan hyn, tywel fan draw. Mi rois fy macpac ar fy nghefn a cychwyn cerdded am y cwch i Belize, a dyma lais yn dod o tu ol i mi.

"Adios!" a dyna lle roedd rhen Tent Man yn sefyll tu allan ei dent, yn sych fel crempog.






No comments:

Post a Comment