22/04/2013

ar goll

Doedd genai'm syniad lle i fynd oddi ar y tren, roedd hi'n dywyll bitsh tu allan, a doni methu gweld dim ond adlewyrchiad pryderus fi fy hun yn y ffenest. roedd na griw shiffti iawn yr olwg yn eistedd tair set o mlaen i, yr unig bobl erill ar y tren, a finne methu magu digon o hyder hydnoed i snîcio i ffwrdd, heb sôn am ofyn iddyn nhw lle oedden ni.
O'r tren wedyn, ac isde ar y platfform yn gwrando ar podcast Beti a'i Phobl i drio tawelu'r nerfau. Ddylswn i di edrych ar y fflipin map cyn cychwyn. Trychinebus o gychwyn i daith mor hir. A do'n i mond yn fflipin Crewe.

1 comment: