24/04/2013

Pwysigrwydd Tywel a Semuc Champey

"Ford was hanging from the towel, gripping its seams.
Other hitchhikers had seen to modify their towels in exotic ways, weaving all kinds of esoteric tools and utilities and even computer equipment into the fabric. Ford was a purist. He liked to keep things simple. He carried a regular towel from a regular domestic soft furnishings shop. It even had a kind of blue and pink floral pattern on it, despite his attempts to bleach and stone wash it. It had a couple of pieces of wire threaded into it, a bit of flexible writing stick, and also some nutrients soaked into a corner of it so he could suck it in an emergency, but otherwise it was a simple towel you could dry your face on.
The only actual modification he had been persuaded by a friend to make was to reinforce the seams.
Ford gripped the seams like a maniac."
- Douglas Adams, Hitch-Hiker´s Guide to the Galaxy

5am bore Sadwrn, a dyma fi´n deffro dan fy nhywel anferthol ar fainc yn maes awyr Manceinion, a´r cannoedd o deithwyr cybyddlyd eraill wedi diflannu a ngadael i ar ol. Dyma fi´n gorwedd yno am sbel yn esgus bo hynny´n hollol normal, a chodi llaw ar y bobl oedd yn pasio hefo golwg twt-twtlyd ar ei hwynebau. "Helo! Helo bawb! Dyma fi a fy nhywel!" gan obeithio y bydde Ford Prefect o´r Hitch-Hiker´s Guide yn glanio ar long ofod unrhyw funud, ac yn fy nghipio ar daith o amgylch y bydysawd ymhell bell o Fanceinion. A dyna beth ddigwyddodd, rhywsut.

Tair awyren yn ddiweddarach, a 36 awr ar ol gadael y swyddfa a dyna lle´r oedd ryw ddyn bach od o´r enw Luis yn aros amdana i yn y maes awyr yn Guatemala City. "Luis. He looks like a taxi driver, hair gray, and he is your taxi driver", dyna´r cyfarwyddiadau ges i, a dyna lle oedd Luis ymysg y cannoedd o ddynion llwydwallt eraill mewn het fach las fel hen yrrwr tren stem yn aros amdana i. Ond er mai dyma fy nghyrrwr taxi, a´i fod go iawn yn edrych yn union fel gyrrwr taxi, doedd ganddo ddim taxi. Roedd wedi torri lawr. Pwy a wyr sut oedd Luis wedi cyrraedd y maes awyr, ond dyma´r ddau ohonon ni yn dal taxi i´r hostel, a Luis wrth ei fodd yn cael gyrrwr taxi yn ei yrru o o gwmpas am unwaith. A dyma gyrraedd yr hostel, a dyma Luis y gyrrwr taxi di-daxi yn dymuno noswaith dda, ac yn diflannu i´r nos ar ei ddwy droed.

* * *

Mae ffyrdd Guatemala yn erchyll. Troellog, tyllog, alltog, a dydi gyrrwyr y wlad ddim yn gwneud y sefyllfa yn haws drwy yrru dwy ffordd rownd rowndabowts, anwybyddu unrhyw right of ways a cherddwyr a tyc-tycs. Y rheol ydi - pwy bynnag sydd gan y corn uchaf, neu´r cerbyd mwyaf sy´n ennill. Dylai o ddim bod wedi bod yn syndod felly mewn gwirionedd pan ddaethon ni fyny allt mewn bws mini llawn a dod wyneb yn wyneb a road block o blismyn arfog. Dyma fi´n estyn am fy mhasport wedi arfer hefo checks fel hyn yn De America, ond damwain oedd wedi bod - dyn ar fotobeic wedi mynd yn rhy gyflym rownd y gornel. Roedd o´n gorwedd yn y ffordd yn farw, hefo´i goes wedi ei blygu tu ol iddo fo fel siap L fawr.

* * *

Dwi ddim yn licio dwr lot fawr, na llefydd cyfyng, a dwi ofn ystlumod am fy mywyd. Felly dwi ddim yn siwr pan nes i benderfynu mynd ar drip nofio i mewn i ogof ystlumod yn Semuc Champey. Wrth geg yr ogof, roedd pawb yn derbyn canwyll, ac wedyn i mewn a ni hefo´r stlums yn hedfan o gwmpas dy ben di fel gwybed bach ar ddiwrnod poeth. 

Wedyn roedd y dwr yn dechrau codi, dwr oer, ac i mewn a ni hyd at ein ysgwyddau yn y dwr yn yr ogof heb ddim ond golau´r ganwyll i oleuo´r ffordd. Ond roedd hi´n anodd cadw canwyll ynghyn a ninnau mewn cymaint o ddwr, felly erbyn y diwedd dim ond un neu ddwy ganwyll rhyngthon ni oedd ar ol. Wedyn roedd rhaid i ni ddringo ysgol grog i fyny craig, tua tair medr i fyny i´r nenfwd a stwffio drwy ryw dwll bach yn y creigiau, a wedyn dringo i fyny ryw graig danddaearol ma i fyny rhaeadr yn defnyddio dim ond rhaff. A wedyn, mi aeth y dwr yn ddyfnach, a roedd yn rhaid i ni nofio. Dyma gamp - nofio gan drio gadw canwyll yn fyw. roedd ein guide ni yn ddyn bach doniol oedd yn amlwg yn nabod bob twll a thwnel yn yr ogof, un munud roedd o ymhell o´n blaenau ni, a munud nesaf yn popio i fyny tu ol i ni fel ryw bysgodyn, yn wlyb i gyd. 

Nofio yn llynoedd Chemuc Champey ar ol peidio marw yn yr ogofeydd

Eniwe dwi rhy boeth i gario mlaen i sgwennu sori. Dyma i chi ambell lun. Defnyddiwch eich dychymyg. Mae´r hotel ar ochr mynydd yn y jyngl (Lanquin os oes gennych chi fynedd googlo), ac mae´r showers yn edrych allan ar yr olygfa - mae´n siwr fod ambell ffarmwr ar y llethrau wedi cael mwy na llond llygaid o Gringos noeth dros y blynyddoedd.

Over and out.

Yr olygfa o´r shower yn Zephyr Lodge, Lanquin



Yr olygfa o´r hostel
Llynnoedd Semuc Chapey o´r viewing point, nath gymryd trec 45 munud drwy´r jyngl (35 gradd selsiws i fyny´r holl ffordd)  i´w gyrraedd. Oedd o weth o? Does dim byd werth hynna siwr!


Trip 40 munud i Chempuc yng nghefn jeep efo 25 o bobl eraill,  dwi am drio uploadio fideo i ddangos pa mor sgeri oedd o... o aros mbach, nath o ddim gweithio sori






No comments:

Post a Comment