03/09/2010

Epilog

Cyn mynd i'r gwaith bore ma, mi ofynodd Mam i fi plis wneud crymbl hefo'r ffrwythau oedd yn y ffrij. Wel gadewch i mi gyfaddef rhywbeth i chi, er mod i'n arbennigwr ar Chili Con Carne, Fajita Wraps, Sbag Bol, Stews, a phob math o fwydiach sawrus, dw'n methu'n lan a chwcio cacenau a phwdinau. Dwi ddim yn licio eu bwyta nhw chwaith i ddweud gwir. Ond gofynwyd am grymbl, ac felly crymbl amdani.

Mae'r cyfarwyddiadau i gyd ar BBC Food. Ond nesh i'm sbio ar y cyfarwyddiadau nes fod y bali crymbl yn y popdy:

Ingredients For the crumble:
•300g/10½oz plain flour, sieved pinch of salt
(WYPS nesh i ddefnyddio self raising, a r'un pinsied o halen)

•175g/6oz unrefined brown sugar
(WYPS, nesh i ddefnyddio'r un siwgwr a dwi'n ei roi yn fy nghoffi)

•200g/7oz unsalted butter, cubed at room temperature (WYPS, nesh i ddefnyddio margarine dwi'n rhoi ar fy nhost yn y bore)

•Knob of butter for greasing (WYPS! Nesh i anghofio iro'r fowlen)

For the filling
•450g/1lb apples, peeled, cored and cut into 1cm/½in pieces
(ok, nesh i'm defnyddio afalau, mi ddefnyddies i geirios a ryw bethau bach tebyg i sweetcorn...dwi'n gobeithio fod rheina i fod i fynd mewn i'r crymbyl hefyd, mi oedden nhw yn y ffrij yn agos iawn i'r ceirios...)

•50g/2oz unrefined brown sugar (WYPS eto - gweler uchod)

•1 tbsp plain flour (...nope)

•1 pinch of ground cinnamon (na....)

Preparation method.


1. Preheat the oven to 180C/350F/Gas 4. (DA IAWN FI, mi wnesh i hyn)

2.Place the flour and sugar in a large bowl and mix well. Taking a few cubes of butter at a time rub into the flour mixture. Keep rubbing until the mixture resembles breadcrumbs. (O mai gosh, BE?? nesh i jyst rhoi pob dim mewn bowlen a'i droi o hefo llwy bren...)


3.Place the fruit in a large bowl and sprinkle over the sugar, flour and cinnamon. Stir well being careful not to break up the fruit. (OOO NA! Nesh i smasho'r ffrwythau i gyd efo peth gneud mash potato)

4.Butter a 24cm/9in ovenproof dish. Spoon the fruit mixture into the bottom, then sprinkle the crumble mixture on top. (Dwi di anghofio iro'r fowlen, dydio ddim am ddod allan, o diar)

5.Bake in the oven for 40-45 minutes until the crumble is browned and the fruit mixture bubbling. (Daria, tra mod i'n sgwennu'r blog 'ma, dwi wedi anghofio amseru'r crymbl)

6.Serve with thick cream or custard. Neu beth am ei roi yn syth i'r gath?

---------

A phetheuach felly sy'n fy mhoeni i rwan mod i adre. Crymbls a cathod. Dydi, pa le 'dw i am roi fy mhen i gysgu heno ma? Ac, ydi trydydd MCDonalds y diwrnod yn anghywir? Ac, ydi hi bwys nad ydw i wedi golchi dillad ers tair wythnos? yn croesi fy meddwl. Mae gen i wely, cegin, a dwi'n byw o leia awr i ffwrdd o'r MCDonalds agosaf, diolch i Dduw.

Mi ddringes i i ben Garth Mawr heddiw, mae hi'n ddiwrnod ofnadwy o braf. Mi gyrrheuddes i'r top ac edrych i lawr ar yr olygfa. Dyna lle roedd Llyn Tegid, a bryniau a mynyddoedd gwyrddion yn sefyll o'i gylch yn ei warchod. Roedd y caeau yn wyrdd hefyd, yr awyr yn las - a dyma fi'n sylwi fod adre gystal a nunlle. Ar ol teithio miloedd o filltiroedd yn chwilio am rhywbeth, dyma fi wedi dod adre a sylwi fod yr olygfa orau yn y byd gwta filltir o'r drws ffrynt.

Ella mod i adre, ond mae'r antur yn parhau!

1 comment:

  1. Ma'r bit masho'r ffrwytha efo mashyr yn fy nhiclo i'n binc! Gad fi wbo sut ma'n blasu!

    ReplyDelete