25/08/2010

Does nunman yn debyg i adre...

Fory, 'dw i'n hedfan adre.

San Francisco
Os na fuoch chi erioed yn San Francisco - ewch! Does dim diwedd i'r pethau allwch chi eu gweld a'u gwneud a'u bwyta yma. Ond ella y dylsech chi ddod o hyd i hostel gwahanol - mae gan ein un ni gymeriad, oes, ond dwi'm yn siwr fod y dyn digartref sy'n gwneud brecwast i ni bob bore yn golchi ei ddwylo.

Mi fuon ni yn y Fisherman's Warf, lle mae oglau pysgod yn llenwi'r awyr. Mi gawson ni drio clam chowder mewn powlen fara - sef ryw fath o gawl pysgod blasus iawn. Dwi wedi clywed amdano fo ar y teledu o'r blaen - ond erioed wedi meddwl y byse fo mor neis. Yna mi welson ni'r bush-man. Hen ddyn bach du ydi'r bush-man, ryw fath o berfformiwr stryd, rhywsut. Ei brops yw brigau a dail, a mae o'n eistedd yn y Fisherman's Warf drwy'r dydd, drwy gydol y flwyddyn yn cuddio tu ol i'r brigau a'r dail. Bob yn hyn a hyn, mae o'n neidio o'i guddfan, gan weiddi "GRRRRR", gan ddychryn y cerddwyr druan sy'n pasio heibio! Mi dreulion ni amser maith yn gwylio'r hen ddyn bach yn dychryn pobl - dyna i chi hwyl!

Yna mi fuon ni am dro dros y Golden Gate Bridge - y bont fawr goch enwog - a gweld golygfa anhygoel o'r ddinas o ochr arall i'r dwr.

Mi fuon ni'n gweld y stryd fwya igam-ogam yn y byd, Lombard Street, lle mae pobl yn mynd a'u ceir i'w dreifio i lawr y stryd am hwyl!

Ryden ni wedi bod yn gweld sioe Beauty and the Beast; yn y Museum of Modern Art; ym mharc y Golden Gate, ac yn bwyta byrgyrs a sushi a phasta...


Dwi wedi pacio fy mag! Mae o bron a byrstio.

p.s, oes gen rhywun job i fi ar ol dod adre? plis?

1 comment: