01/08/2010

Y daith rhyfedda´ erioed.

Mae trafnidiaeth o fewn Canolbarth America yn rhyfedd a deud y lleia´. Dydio ddim mor hawdd a dal bws o un lle i´r llall a dyna fo. Dyma sut y cyrrhaeddon ni o Monterrico yn Guatemala, i San Salvador yn El Salvador:

Cychwyn am 6.30am - neidio i gefn jeep, a gorfod eistedd ar lawr ynghanol y llwch a´r pridd yr holl ffordd at yr afon. Mewn wedyn i gwch, tebyg iawn i ganw mawr hir hefo peiriant, y cwch bron yn gwegian gan yr holl bobl oedd wedi eu stwffio tu mewn.




Chicken bus wedyn - hen fysus ysgol yr Unol Daleithiau ydi rhain, wedi eu ail-gylchu i Ganolbarth America gael eu defnyddio nhw fel bysus lleol. Mae nhw´n aml yn orlawn o bobl, gyda hyd at 4 o bobl yn eistedd ar set i ddau, mae nwyddau, yn cynnwys anifeiliaid, ymhobman uwch ben y seti, yn y llwybr canol, ar linniau, ar bennau pobl - bysus gwallgo.



Yna bws mini am hanner awr, ac at fws cyffyrddus am ddeg munud at fan lle roedd y ffordd wedi cau. Roedd pont enfawr wedi dymchwel i mewn i´r afon. Nol felly i gefn jeep, i lawr ochr llethr serth, y llwybr yn greigiog ac yn fwdlyd. Yn ol wedyn mewn i fws mini at y border rhwng Guatemala a El Salvador. I mewn i tuc-tuc bach wedyn, a´r beiciwr yn pedlo nerth ei allu a ni o un swyddfa mewnfudo i´r llall.



Cerdded wedyn dros bont enfawr, yn gwegian yn y gwres a dan bwysau ein bagiau trwm. Yn ol mewn i chicken bus wedyn, a dyma lle nes i syrthio i gysgu ym mlaen y bws, tu ol i´r gyrrwr, a´m mhen ar y set. Roedd gweddill y merched reit yn y set gefn. Mi gyrhaeddodd y bws ben ei daith, a mi adawodd y teithwyr, a´r merched - yn methu a fy ngweld yn nunlle ac yn meddwl fy mod wedi mynd allan. Ro´n i´n cysgu´n drwm, a pwy a wyr lle fyswn i wedi glanio os na fyse´r gyrrwr wedi sylwi arna i, a gweiddi ar Lowri i ddod i fy neffro! Yna yn ol ar fws cyffyrddus am awr nes cyrraedd El Salvador, a thacsi melyn wedyn i´n hostel. Mi gyrhaeddon ni am 2.30pm. Gret!


Mwynhewch y Steddfod bawb, - rydw i´n jelys iawn. Rydwi´n aros am awyren i L.A, ac am orfod mynd i foddi fy ngofidiau yn Las Vegas. A oes heddwch?!

1 comment: