08/08/2010

The US of A




Mae noson mewn hostel yn The US of A yn costio'n ddrytach na mis mewn hostel yn Bolivia.

Mae pryd o fwyd yn America yn ddrytach na wythnos o brydau bwyd yn Guatemala.

Mae taith mewn bws yn yr Unol Daleithiau yn costio cymaint a tair taith yn Honduras.

Dim ond fast food sydd yn America. Athon ni ar drip i weld y Grand Canyon. Mi stopiodd y bws yn MC Donalds am frecwast, Pizza Hut i ginio, a MC Donalds eto am swper.

Mae pobl America yn union fel pobl America ar y teledu. Mae nhw'n boncyrs. MAe nhw'n siarad fel Americans, yn edrych fel Americans ac yn wallgo. Nesh i weld un ddynes dew efo tatws (tatooes dim potatoes) ar bob darn o'i chorff yn gweiddi ar ei mab bach, a oedd yn chwarae gem saethu gynnau mewn arcade, "Brick, come the hell on!". Nesh i chwerthin, lot.

-----------------------

Mi gychwynodd trydydd rhan o'n taith bacpacio drwy'r Americas yn chwithig iawn. Ar ol cyrraedd y Maes Awyr yn El Salvador - dyma Lowri'n cael ei gwrthod ar yr awyren gan nad oedd ganddi Visa i ymweld a gwlad Yncl Sam. Trychineb. Roedd bagiau'r gweddill ohonon ni eisoes ar eu ffordd i grombil yr awyren. Felly dyma ffarwelio yn betrus, a threfnu man cyfarfod yn Los Angeles. Y diwrnod wedyn, mi gyrhaeddodd Lowri ein hostel, wedi cael lot o strach, ond wedi cael hedfan buisness class!

Yn y cyfamser, roedden ni mewn hostel mewn ardal amheus iawn o L.A. Dyma un o drigolion y ddinas yn dweud wrthon ni, "Get the hell out of here while you can." O diar! Dyma Jeni yn deffro ben bore, a roedd ei gwely yn forgrug i gyd. Wedi mynd i gwyno, dyma'r twmffat o reolwr yn dweud, "They're God's creatures. What do you expect me to do - call God and tell him to take away the ants?". Wir i chi - dyna oedd yr unig ymateb i'r broblem! Roedd pob aelod o staff yn bobl afiach - yn ochneidio bob tro roedden ni yn mynd i ofyn am help, yn ddiog, yn anghygyfeillgar ac anghroesawgar. Roedd hi'n gem dda iawn trio eu gwylltio nhw fwy fyth drwy fod yn neis neis, a gwenu fel giat tra oedden nhw'n iste yn gwgu arno ni fel Mrs Computer Says No.

Las Vegas
Wel allwn ni ddim mynd yr holl ffordd i L.A heb bicio i Vegas, na fedrwn? I ffwrdd a ni ar y Greyhound, saith awr dros anialwch Nevada i'r ddinas ynghanol nunlle - y ffrwydriad golau llachar ynghanol y tywod. Roedden ni wedi bwcio ystafell mewn hotel o'r enw Excalibur - caledfwlch! I mewn i dacsi a ni, $22 am ddeg munud o reid, o diar. Yna dyma gyrraedd yr hotel - a methu chredu ein llygaid. Dyma lle roedd castell y Brenin Arthur yn ei holl ogoniant gwyn, coch a glas!!



Roedden ni yn aros yn Twr 1, Llawr 26 ac Ystafell 71. Rhif ein stafell oedd 22671. Mama mia! Roedd yna ddau wely enfawr, bathrwm hyfryd, tywelion glan, teledu enfawr, a'r holl bwysig Air Conditioning. Pam holl bwysig AC, gofynwch chi? Wel achos fod Vegas y lle poetha dwi erioed wedi bod ynddo fo o'r blaen, yn cynnwys Panama. Roedd hi'n 40 gradd selsiws. Roedd yna bwll nofio ENFAWR, a llwyth o byllau nofio llai y tu allan, a thywelion ffresh neis am ddim wrth i ni basio'r mynediad.

Roedd yna rollercoster yn yr hotel.

I lawr staer yn yr foyer roedd yna Casino ENFAWR (peirianau ping, byrddau black jack, poker, byrddau deis, olwynion yn troi ayyyyyyyb). I lawr staer eto roedd yna ffair. I fyny'r staer roedd yna bob math o fwytai, wel - dwi'n deud pob math, ond mewn gwirionedd dim ond fast food. Roedd unrhyw beth nad oedd yn fast food yn rhy ddrud i hydnoed cydnabod eu bod nhw yno. Mi fuon ni yn byw ar salads 2 for 1 am y pedwar diwrnod, a dwi bellach wedi troi yn gwningen.

OOO Vegas Vegas Vegas. Not my kind of place, dyma fi'n meddwl wrth fy hun. Ond dwi'n meddwl ei fod yn amhosib peidio licio'r lle. Mi dreulion ni'r rhan fwyaf o'n amser yno yn y gwely, yn gwylio MTV gan fod y stafell mor neis i gymharu a'r hostels deni wedi bod yn cysgu ynddyn nhw am y 4 mis a hanner diwetha. Mi dreulio ni'r gweddill o'n hamser yn crwydro'r 'strip', ac yn crwydro i mewn ac allan o'r gwahanol hotels ENFAWR. Roedd pob hotel yn fwy na Bala. Roedd canoedd o siopau a bwytai, a chasinos, a phyllau nofio, a sbas (be di mwy na un sba?). Ond be oedd yn gneud pob hotel yn anhygoel o anhygoel oedd y themau gwahanol oedd ym mhob hotel -

Excalibur - ein hotel ni. Castell Brenin Arthur. Roedd yr holl adeilad ar ffurf castell enfawr, gan gynnwys y dwr mawr o'i amgylch, a phont, a giat fawr bren yn hongian o'r to wrth groesi'r bont. Roedd addurniadau castell ymhobman.

MGM - Roedd yna lewod yn byw yn yr hotel mewn cawell gwydr mawr i ddiddanu'r gwesteion.

Belagio - Roedd sioe ddwr enfawr y tu allan i'r hotel, a'r ffowntens yn codi i uchdwr gwesty 20 llawr.

Mirage - Roedd yma losgfynydd cogio y tu allan i'r hotel.

Luxor - Roedd yr hotel ar thema'r Aifft, hefo pyramid ENFAWR mwy na'r louvre y tu allan yn sheinio golau i'r nos - filltiroedd i'r awyr.

New York New York - Roedd tu mewn yr hotel fel dinas fechan fechan (miniture) hefo'r siopau a'r bwytai ar ffurf adeiladau New York yn yr 20'au. Roedd yna arwyddion stryd bychan ffug, a ffenestri siopau ffug.

Shopping Mall - Roedd y ganolfan siopa hefyd ar ffurf dinas fechan fechan, a'r to wedi ei beintio fel awyr las hefo cymylau, roedd o fel cerdded drwy set deledu. Bob hanner awr roedd hi'n bwrw glaw yn y ganolfan uwch ben pwll pwrpasol.

Swni yn gallu mynd ymlaen ac ymlaen. Roedd sypreisus yn cuddio ymhobman ar y strip - a phobl wedi gwisgo fel cymeriadau o bob math ar y stryd, er gwaetha'r gwres llethol.




------------

Un noson dyma ni'n mynd allan ar y razzle dazzle yn Vegas ar ol cael VIP pass i glybiau nos yn hotel y Palms. Mi brynson ni sodlau uchel newydd pwrpasol - swni byth yn maddau i fy hun am fynd allan i Vegas mewn fflip fflops! A ffwrdd a ni. Wel am hwyl. Roedd y clwb nos i fyny yn lloriau uchel - tua'r 50fed llawr, a dyna lle roedd balconi yn edrych allan dros y ddinas. Roedden ni'n dawnsio ar y balconi, a dyna lle roedd y lleuad siap gewin mwyaf oren a welais i erioed. Roedden ni'n meddwl mai lleuad ffug oedd o, gan fod popeth arall yn Vegas mor ffug.



--------------------

Mi athon ni weld y Grand Canyon. 300 milltir yno, a 300 milltir yn ol. Trip diwrnod 18 awr. Roedd o'n anhygoel. Roni'n sefyll yna yn edrych ar y ffurfiant cerrig coch, yn meddwl am T.H.Parry-Williams yn sefyll yn yr union fan yn cyfansoddi ei soned. Doedd T.H ddim yn deithiwr bodlon iawn, doedd dim llawer yn ei blesio - a'r dieithrwch o fod mor bell o'i fro annwyl yn ei ddychryn. Ond roedd o wedi mopio hefo'r Grand Canyon, a pwy na fyddai'n gwirioni ar y fath ryfeddod naturiol?



Mi fuodd T.Ifor Rees yma hefyd rhywbryd yn y 30'au. Roedd yr holl ardal wedi ei gorchuddio gan eira mawr, a mi gafodd siom gan na fedrodd mynd lawr i waelod y Canyon oherwydd y tywydd. Anodd oedd dychmygu'r lle 'ma dan eira, a ninnau yno mewn gwres llethol.

-------

Mi adawon ni Vegas bore ma, trist iawn very sad - gadael y castell mawr a'n gwlau cyffyrddus. Mi ryden ni newydd gyrraedd San Diego - hwyl a sbri. Mi gyrhaeddon ni Downtown am 10.30pm, a mi fuon ni yn chwilio am lety am awr. Mae pob llety yn llawn gan ei bod hi yn nos Sadwrn. Roedden ni ar fin cysgu yn y steshon, ond daeth achubiaeth ar ffurf 'Hostel USA'. Mae ein stafell yn costio $37 am noson - GO IAWN. Dwi am orfod mynd i chwilio am fag papur i anadlu iddo fo, neu chwilio am gitar i fynd allan i ganu am fy mara.

3 comments:

  1. Wnaethoch chi ddim ennill eich ffortiwn yn Vegas felly i dalu am 'ch stafell chi yn San Diego?!

    Dwi'n gobo bo ti di egluro, ond dwi dal i weld y ddynas na yn datws (potatoes) i gyd!

    ReplyDelete
  2. naddo, trist iawn feri sad. oedden ni wedi bwriadu gweddill ein pres, ac ennill digon i gychwyn y trip o'r cychwyn yn Brazil - ond nathon ni'm betio ceiniog yn y diwedd!

    ReplyDelete
  3. Ma'r llunia yn hollol wyllt! Neu, yn fwy cywir, mae'r lle yn edrych yn hollol wyllt yn y lluniau!

    ReplyDelete