15/08/2010

Cychwyn y California Road Trip

Dyma ni ar ein pythefnos ola un o'n taith - ac yn dechrau cyfri'r dyddiau nes y ca i dost marmait a cael gweld y gath. (Joc - dwi'n edrych mlaen i weld pawb arall hefyd).

Mi ryden ni yn cyfeirio at ein cyfnod yn America fel y 'gwyliau' o fewn y gwyliau. Bwyd neis (wel ok, MC Donalds), traethau anhygoel California, bysus hop on hop off, shopping malls, a dwi'n eistedd yma wrth y cyfrifiadur mewn crys-t gwyn enfawr yn dweud 'I Love LA'. O diar dwi wedi troi mewn i dwrist.

San Diego.
Mi gyrhaeddodd y bws Greyhound San Diego tua 10.30pm. Doedden ni ddim wedi bwcio llety, anamal y byddwn ni'n gwneud o flaen llaw. Ond o edrych yn ol roedd hyn yn gam gwag. Roedd hi'n nos Sadwrn, a phobman yn llawn dop - pob llety'n llawn, a dim stabal ar gyfyl y ddinas. Ond dwi newydd gofio fy mod i wedi dweud y stori yma ar ddiwedd y blog diwetha. Mi gafon ni wely yn y diwedd am $37, mae hynny tua 25punt... am wely... am 10 awr. Ond roedd brecwast am ddim - crempog. Mi futon ni gymaint nes ein bod ni'n teimlo'n sal - i drio cael gwerth ein pres! Nesh i hydnoed smyglo crempog allan yn fy handbag i ginio. (Joc nesh i ddim). Roedd tua 7 fflag yn hedfan tu allan i'r hostel, ac roedd un ohonyn nhw yn fflag Cymru! A tu mewn roedd yna arwydd hefo'r geiriau gwahanol am "ta ta" mewn gwahanol ieithoedd, a roedd o'n dweud "Hwyl Fawr"! Nesh i dynnu sylw'r receptionist at y ffaith yma, ond nath o'm cymryd llawer o sylw ohona i, a doni'm isho ail-adrodd fy hun rhag ofn iddo fo feddwl fy mod i'n ei ffansio fo (mi o'n i).

Y bore wedyn dyma ni'n neidio ar y tram (mae'r Americanwyr yn eu galw nhw yn "trolly", haha), a mynd i Lan y Mor (dwi'n gwbod nad oes llythrennau mawr i lan y mor fel arfer, ond roedd hwn yn glamp o lan y mor) i weld cystadleuaeth codi cestyll tywod. Roedd y safon yn uchel iawn, a phobl yn amlwg yn cymryd y gystadleuaeth o ddifri - roedd o hydnoed ar y newyddion y noson honno! Rhywbeth diddorol arall i nodi oedd fod y tram yn cario mlaen ar ol ein stop ni yr holl ffordd i Mexico! Dyna pa mor agos ydi San Diego at y border. Ond athon ni ddim i Mexico, gan fod o'n un o'r pethau dwi ddim yn cael ei wneud - ynghyd a cherdded i nunlle ar ben fy hun, a chael 'piercing' arall. (Dwi'n gwrando, Mam!).

Mae sw (zoo) ENFAWR yn San Diego - efallai'r Sw mwya yn y byd, (ond fi nath ddyfeisio'r ffaith yna). Mi welson ni banda. Mi welson ni Polar Bear (Arth Begwn?!) (newydd gofio, Arth Wen). Roedd yna cable car enfawr yn cario pobl o un pen i'r Sw i'r llall (wn i fod na ddim llythyren fawr i fod ar gychwyn 'sw', ond roedd hi'n glamp o sw).

Y Car (wn i fod ne ddim llythyren fawr ar gychwyn car, ond mae o'n glamp o gar...)
Dyma lle nath yr hwyl gychwyn. Mi athon ni i heirio car i ddreifio i fyny arfordir California. Mi ddewision ni gar bach bach ar yr internet - achos dyna oedd y rhata. Ond wedi cyrraedd y swyddfa, dyma sylwi wrth gwrs na fyddai ein handbags ni yn ffitio yn y bwt heb son am bedwar bacpac! Felly dyma ofyn am upgrade, a dyma'r bwysfil gathon ni -



Jeep 4x4 ENFAWR gwyn sgleiniog!
Dyma daflu popeth i'r bwt, a picio nol i'r swyddfa i ofyn pa ochr i'r ffordd deni fod i ddreifio yn America, a picio nol i'r swyddfa i ofyn sut i ddreifio automatic, a picio nol i'r swyddfa i ofyn am sat nav, a picio nol i'r swyddfa i ofyn lle mae exit y maes parcio, a ffwrdd a ni - dim problem!
Yna mi ddreifion ni at y lan mor cynta y gallen ni ei ffeindio, a bwyta picnic yno yn edrych ar yr arfordir y byddwn ni yn ei ddreifio dros y 10 diwrnod nesa. Roedd o'n brydferth iawn.




Los Angeles.
Mi ryden ni yn stopio mewn sawl tre glan mor hyfryd iawn, ond na i ddim son amdanyn nhw - yr unig beth yden ni yn neud ydi gorweddian ar y traeth a bwyta lot o bicnics, a gwrando ar Radio One Digital - mae clywed Huw Stephens ar radio yn California yn brofiad rhyfedd iawn.

Un peth difyr ddigwyddodd mewn lle o'r enw Oceanside oedd ein bod ni wedi mynd am dro ar y pier, sy'n drwm dan bwysau'r degau o bysgotwyr sy'n treulio eu dyddiau yn chwilio am bysgod. Roedd yna dorf wedi hel o amgylch un pysgotwr, a dyma holi pam. Yn ol y son, roedd y pysgotwr wedi dal clamp o bysgodyn ac roedd yn trio ei rilio i fewn ers dros awr. Yn sydyn, dyma cri fawr yn dod o gyfeiriad y dorf - roedd y pysgodyn yn y golwg, a roedd o'n anghenfil! Ond mi sylwodd y pysgotwr mai Black Seabass oedd o - ac nad oedd o'n cael eu pysgota nhw gan eu bod yn brin - felly bu'n rhaid i rywun ddringo lawr ysgol serth ar y pier i adael yr anghenfil yn rhydd.



Reit, dwi eisoes wedi son fy mod i'n eistedd yma wrth y cyfrifiadur yn fy nghrys I Love LA - a'r rheswm am hyn ydi fy mod i ar hyn o bryd yn Hollywood! Mi yden ni yn aros ar Hollywood Boulevard, ac yn cerdded y Walk of Fame bob bore i nol peint o laeth. Hop ar seren Tom Jones, sgip ar seren Johnny Dep, naid dros seren Anthony Hopkins...



Mi benderfynon ni fynd ar hop on hop off bus i weld Hollywood yn iawn. Roedden ni ar dop bws deulawr, heb do - yn cael ein chwipio gan ddail coed palmwydd wrth i'r gyrrwr gwallgo fynnu dreifio o dan glwstwr o goed bob gafael, a'r haul tanbaid yn ein llosgi'n grimp. Ond roedd o'n wych - wrth gwrs. Mi gafon ni weld yr hotels enwog, a thai pobl enwog a llefydd sydd wedi cael eu defnyddio mewn ffilms, a'r arwydd byd-enwog ar y Hollywood Hills.




Yna mi athon ni allan ar y razzle dazzle i fars a chlybiau Hollywood, a roedd dau rum a coke yn $22!! Dyna'r rownd ddryta brynes i erioed. Y bore wedyn, mi athon ni yn ol ar yr hop on hop off bus, ar ol cael byrgyr yn MC Donalds am 10.30am (hei - ryden ni yn America, dyma sut mae nhw'n gneud pethe'n fama) (ac roedden ni dal yn feddw gaib). Nath Rhean gysgu am ddwy awr ar yr hop on hop off bus, a nathon ni ddim hopio off o gwbwl, jyst aros ar y bws yn mynd rownd a rownd a rownd Hollywood.

A wedyn, nesh i ffeindio Elvis:



That's All Folks!

1 comment: