22/08/2010

Cyrraedd San Franciso

Wel mi ddaeth ac mi aeth y California Road trip - motels, sandwijis a microwavable meals, traethau, shopping malls...a daeth y diwrnod i ddychwelyd y car i faes awyr San Francisco.

Mae gan bawb laptops, neu ffonau symudol hi-tech yn America. Mae ffeindio cyber caffes felly bron yn amhosib. Roedd angen i ni ddod o hyd i hostel yn San Fran - felly dyma chwilio a chwilio a dod o hyd i gyfrifiaduron ac internet am $5 am 20 munud. Felly dyma wario ein pres swper ar 20 munud o internet i chwilio am lety. Roedd hi'n dasg anodd o beth wmbreth, yn enwedig gan fod pawb hefyd isho checkio ebyst a facebook wrth gwrs. Felly yn y diwedd mi lwyddon ni i fwcio hostel yn San Francisco yn 2 funud ola ein internet time, ac oherwydd fod ein amser wedi dod i ben nathon ni'm llwyddo i sgwennu cyfeiriad yr hostel yn llawn, na chael cyfle i ddarllen reviews ar y lle. Dyna'r cyflwyniad i hyn ddigwyddodd wedyn:

Cyrraedd San Francisco yn y Jeep mawr gwyn.
"Avoid driving in San Francisco at all times". Dyna farn y guide book Lonely Planet. Ond roedd genon ni ein Sat Nav, doedd? A roedd ein hostel ar Union Street yn rhywle... Dyma gyrraedd Union Street. Roedd hi'n filltiroedd o hyd. Dyma'r golau coch yn dod mlaen yn dweud fod ein petrol ar fin dod i ben. Doedd genon ni'm syniad lle i ffeindio internet i gael cyfeiriad yr hostel. Roedd y car i fod yn ol yn y maes awyr ymhen ychydig oriau. Roedd trams yn gwibio i fyny ac i lawr ac ar draws strydoedd San Francisco. Roed y ffordd yma yn one way, y ffordd acw yn bus only, y goleuadau coch a gwyrdd yn fflachio, yn newid, yn troi. Mama mia! Dyma barcio'r car (ar ol chwilio am oes am rywle i wneud hynny), a phenderfynu cerdded chydig o Union Street i chwilio am yr hostel. Roedd hyn fel trio ffeindio nodwydd mewn tas wair, roedd gennon ni filltiroedd o stryd i gerdded. Give up.
O'r diwedd, dyma Rhean a Jeni yn chwarae'r damsels in distres a chael gafael ar Americanwr i estyn am ei laptop, a chwilio am yr hostel. Doedd yr hostel ddim ar Union Street yn y diwedd. Blydi hel. Ond o leia roedd gennon ni gyfeiriad. Sat Nav amdani, a dyma ddod o hyd i'r hostel! Dyna ddiwedd ar ein problem gyntaf. Ond dyma gychwyn ein ail broblem.


Yr hostel - Union Square Backpackers Hostel.

Dyma ambell ddyfyniad gwir o adolygiadau o'n hostel oddi-ar yr internet:

Union Square Backpackers Hostel is not in very good repair. There doesn't seem to be any security and the place is rundown and dirty. The people staying there are sketchy at best and everything is disorganized.


The location is near Union Square but actually in the Tenderloin area, which is an area with homeless people. It is not safe to walk around during the night. The actual hostel is at the end of an alley.


The bedrooms have mattresses with duct tape holding them together. Sheets and towels are not provided. The bathrooms are not cleaned regularly but management indicates that they are in the process of updating and repairing them. The dorm rooms are small and cramped with a bad smell and are located on various floors of the building. The stairs are steep and narrow, so it is hard to cart up lots of gear. There is no air conditioning and the windows may not shut completely. The entire hostel is in need of refurbishing.


The people staying at this hostel are middle aged men and seem to be long-term residents. The atmosphere is not especially friendly and the guests themselves are pretty dirty and rundown.


O diar. Y peth cynta y sylwon ni ar yr hostel oedd ei fod drws nesa i le o'r enw Les Nuits de Paris Massage and Sauna Parlour. O diar. Roedd o i lawr llwybr tywyll, dead-end, oedd yn llawn biniau sbwriel.

Mi gerddon ni mewn i'r dderbynfa lle roedd dyn megis bwgan brain gwallt gwellt hefo sigaret yn ei geg yn plygu sheets gwely. "I'll be with you now, I'm just inspecting for rips..." medde fo. Dyma i chi ddyn gwallgo os y gweles i un erioed. Mae o'n cymryd cyffuriau yn y toilet, ac yn panicio os oes mwy na un person yn dod at y dderbynfa ar yr un pryd. OS ydi'r ffon yn canu ar yr un pryd mae o'n edrych fel ei fod ar fin pasio allan.

Mi gawson ni ein llofft - dau fync bed, a tua dwy fedr sgwar o lawr ar ol i ni gadw ein bagiau, a cymryd ein tro i sefyll - mae sbrings y gwlau yn sticio drwy'r matras, a mae twll enfawr yn y cyrtens, sy'n gorchuddio'r ffenestr fudur sy-ddim-yn-cau a sy'n edrych dros y massage parlour.

Dyma holi un o weithwyr yr hostel - dyn di-gartref sy'n cael cysgu yn y common room gan ei fod yn glanhau'r toilets - oes oes bed bugs yn yr hostel. "Which room are you in?" medde fo. "twelve" medde ni. "erm...no I think you're fine in twelve", atebodd y dyn, gan godi ei draed ar y soffa a mynd yn ol i gysgu am weddill y diwrnod.

Dyma fi'n deffro bore ma, a mentro i'r coridor i giwio am gawod. Dyna lle roedd Captain Jack Sparrow wedi pasio allan ar y carped, yn make-up a gwallt hir i gyd.

Ond wyddoch chi be? Deni wedi cael llefydd gwaeth i aros ar y trip. Felly hei ho.

Dim on 5 diwrnod nes ein bod ni'n dod adre rwan. Plis ga i gam a thatws mash i swper nos Iau neu nos Wener, plis? Diolch!

No comments:

Post a Comment