07/07/2010

Fforest law Monteverde

Ddoe, mi dreulion ni ddiwrnod cyfan yn archwilio Fforest Gwmwl enfawr Monteverde, a hynny drwy ddulliau eithaf anghonfensiynol a dweud y lleiaf. Mi aethon ni i´r fforest ar gefn unicorn... na, joc, dim mor anghonfensiynol a hynny, ond fel o´n i´n dweud:

Hefan Uwch Ben y Fforest.
I ffwrdd a ni ben bore i grombil y fforest i ganolfan o´r enw Adventure 100%, a dyna yn wir oedd o´n blaenau ni - antur 100%! Fe´n gwisgwyd ni mewn harnesi a helmedau, ac i ffwrdd a ni i´r coed, ac i fyny set o risiau metel serth i´r platfform cyntaf. Dyma lle´r oedd y zip-line cyntaf, sef llinyn dur hir yn ymestyn o goeden i goeden, degau o fetrau uwch ben y ddaear. Yna, roedd y guides yn ei clipio i´r llinyn ac yn ein gwthio oddi-ar y platfform, ac yn sydyn roedden ni uwchben y fforest, ynghanol y coed, a brigau a dail yn gwibio ar gyflymder heibio ein pennau. Roedden ni´n gwibio yn gynt na´r gwynt o un goeden i´r llall a´r guide ar y pen draw yn gorfod gweiddi arnon ni i frêcio rhag i ni hedfan yn slap i foncyff coeden. A gadewch i mi ddweud wrthoch chi fod brêcio, gan ddefnyddio eich dwylo yn unig, ddim y peth hawsa´n y byd pan eich bod yn teithio ar gyflymder aderyn drwy´r awyr tuag at anghenfil o goeden dew.

Dydw i ddim yn hoff o uchder. Dydw i ddim mor ofnus a Ceri Phillips na Mam, mae hynny´n wir, na Nedw ´se hi´n dod i hynny, ond mi rydw i ofn uchder. Ond rhywsut roedd gwibio ar hyd y llinynau dur yn teimlo´n ddiogel, a wedi concro tair neu bedair ohonyn nhw, a´r platfforms yn mynd yn uwch ac yn uwch bob tro, ro´n i yn dechrau ymlacio. Ond yn sydyn reit, dyma gyrraedd diwedd un llinyn, ac i gyrraedd y ddaear roedd yn rhaid disgyn 15 metr, fel ryw bynji jymp fechan. "You will fall in to the vacuum helped by a 15 meter vertical rope , for this activity you will be helped and instructed by our guides", meddai eu gwefan am y profiad. Helped and instructed my arse. Mi gyrrhaeddes i´r top, edrych lawr, gweiddi "I don´t want to do it!", ac eiliad yn ddiweddarach ro´n i hanner ffordd i lawr gyda chydig o ´help llaw´. Mi ddoth fy nghalon i allan trwy fy ngheg i, bron iawn.

Ond roedd gwaeth i ddod. Dyma gyrraedd y Tarzan Swing. A dyma lle mae´r rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi bod yn gachgi. Yn llwfr. Yn ddi-asgwrn-cefn. Mi wrthodais i gymryd rhan, a´r tro hwn mi fyse´n rhaid i´r guides fod wedi fy nghario i i fyny tair set o risiau, fy strapio yn sownd i linyn elastic a fy nhaflu 30 metr i´r llawr ac i glwstwr o goed, oherwydd dyna oedd y Tarzan Swing. Dyma fersiwn llai o bynji-jymp. Roedd yn rhaid neidio o´r platform, cyn i´r llinyn eich tynnu yn ol i´r awyr, ond i chi fod yn swingio fel pendil cloc am ychydig funudau gyda choed yn gwibio o fewn ychydig fodfeddi i´ch corff chi. Mi ath Lowri a Rhean amdani, ac am hynny, mi fydden nhw´n arwyr i mi am byth. Mi aeth lot o blant bach tua 4 oed hefyd. A hen ddynes. Cywilydd.

Y llinyn dur olaf oedd yr un mwyaf anhygoel. Roedd y llinyn yn 700 metr o hyd, ac 60 metr uwch ben y ddaear. Roedd yr olygfa oddi tanon ni yn angyhoel(o´r eiliadau byrion yr oedd posib gweld y llawr, gweler isod), a choed yn edrych yn fach a´r llawr yn edrych yn fygythiol o bell. Dwi eisoes wedi esbonio ei bod hi´n bwrw drwy´r adeg yma, yn tarannu o hyd, yr awyr yn olau gan fellt drwy´r adeg. Wel doedd heddiw ddim yn eithriad. A finne 60 metr yn yr awyr, ar linyn dur, uwch ben y coed, roedd hi´n storm enfawr. Roedd hi´n clecian, yn fflachio, a roedd yna gwmwl enfawr llwyd o´m mlaen. Doedd dim posib gweld heibio 5 metr o gychwyn y platfform. Roed hyn yn destun pryder, cael eich taflu i´r awyr ar linyn dur sy´n anelu am y goedwig, ar gyflymder eithriadol o gyflym, a chithau´n methu a gweld dim byd. A dyna gychwyn fy mhryderon, yn sydyn reit, dyma fi yn hedfan yn syth i mewn i´r cwmwl glaw. Fuoch chi erioed mewn cwmwl glaw? Reit ynghanol cwmwl glaw? Ydech chi yn cofio fy stori (tua mis Ebrill) amdana i yn mynd mewn cwch bach modur i ganol un o raeadrau Iguazzu Falls? Ydech chi´n cofio fi´n disgrifio pa mor anodd oedd hi i anadlu? A´i fel bod bwceidiau o ddwr yn cael ei daflu i fy ngheg, fy llygaid, fy nhrwyn a fy nghlustiau? Wel roedd bod mewn cwmwl glaw rhywbeth yn debyg, heblaw fy mod y tro hwn 60 metr uwch ben y ddaear, a fod cadw fy llygaid ar agor er mwyn gweld y signal i frêcio yn golygu´r gwahaniaeth rhwng cael fy llarpio gan foncyff coeden neu beidio.

Dychrynllyd, bobl bach, dychrynllyd. Ond er y dychrynllydedd (ydi hwn yn air, dywedwch i mi? Tyff, roedd T.H. Parry-Williams yn cael defnyddio geiriau gwneud, felly finnau hefyd), roedd o´n brofiad gwych!

I grombil y fforest yn y nos.
Gan fy mod eisoes wedi cyfaddef fy mod yn berson llwfr, mi ga i gyfaddef fy mod hefyd yn byw mewn ofn arswydus o bryfaid cop. Ok, a chwilod... a phryfaid...ac unrhyw beth mewn gwirionedd sydd a mwy na pedair choes, neu llai na dwy. Felly beth ddoth dros fy mhen i, dywedwch i mi, pan benderfynais i fynd am daith o amgylch y fforest gwmwl yn y nos?

Rhag ofn nad ydech chi yn dal heb ddeallt pa mor aml y mae hi´n glawio yma, roedd hi´n bwrw glaw yn drwm iawn. Dychmygwch y glaw trymaf welsoch chi yng Nghymru erioed a dyblwch hynny. Dyna sut oedd y glaw y noson honno, a doedd gen i mond Mack in a Sack o Millets (mae nhw´n crap gyda llaw, peidiwch byth a phrynu un. Mi fyse´n waeth i chi drio amddiffyn eich hun gyda dail letys na dibynu ar y darn o gachu yma sy´n cael ei labelu fel côt law). Mi gafon ni lamp yr un, a dyma´r lamp waethaf dwi erioed wedi dod ar ei thraws hefyd. Mi fyse´n waeth i mi fod wedi dod a carbod rolyn papur toilet a peintio ei flaen yn felyn ddim. Ond er gwaetha´r elfenau, i mewn a ni i´r goedwig hefo guide, wrth gwrs. Roedd y llwybr yn anwastad, a gwreiddiau´r coed enfawr am eu gorau i´n baglu ni. Roedd brigau a deiliach yn drwm uwch ein pennau yn cosi ein clustiau ac yn gwneud i ni feddwl fod creaduriaid ar ein gwarthaf. Ac wrth gwrs, roedd hi´n dywyll fel y fagddu. (Gyda llaw, gan fod y cyfle wedi codi i mi ofyn hyn, beth ydi´r fagddu yma sy´n cael ei yngan mor aml, ond sydd a´i ystyr mor gymylog? Ac ai´r fersiwn heb dreiglo ydi bagddu? Ai gair cyfansawdd sydd mewn gwirionedd yn golygu Bag Du ydi o? Ac os felly, onid tywyll fel bagddu y dylse fo fod?).

Dyma´r guide yn esbonio nad oedd llawer o nadroedd yn byw yn y goedwig, whiw, ond fod y rhai prin sydd yno yn cael eu hystyried fel y rhywogaethau peryglaf a mwyaf gwenwynig o nadroedd ar y ddaear, gret. Yna dyma droi ei lamp bwerus (ooo oedd, mi oedd gan y guide lamp wych) ar wrych a dangos chwilen enfawr maint tanjarin i ni, a´n rhybuddio i fod yn llonydd gan eu bod yn gallu hedfan amdanon ni. Yna dyma ddod o hyd i fath o sioncyn y gwair, a´i gorff yn edrych yn union fel dail er mwyn bod yn guddliw.

Yna dyma ni´n dod o hyd i clwstwr o goed bananas. Dim ond 10 mis y mae hi´n gymryd i goeden fanana dyfu i´w maint llawn a dwyn ffrwyth. Wedi i´r bananas ddisgyn (neu gael eu casglu), mae´r goeden yn disgyn. Dim ond unwaith mae´r goeden yn blodeuo. Mae boncyff coeden fanana, yn wahanol i´r goel, wedi ei gwneud yn llwyr o ddail, a dim pren. Mae´r dail yn amsugno cymaint o ddwr nes fod y goeden yn tyfu yn gryf ac yn gyflym. Mi gawson ni fanana ffresh oddi-ar y goeden, roedd o´n blasu yn bur ac yn gwbwl wahanol i fananas sy´n cael eu pwmpio gan gemegion yn yr archfarchnad. Yna, ger y clwstwr bananas, mi welson ni bryf copyn enfawr - Banana Spider. A dyma fi´n dechrau mynd i feddwl am y ffilm Arachnaphobia, a bron iawn i fi ddechrau crio.

Yna, mi welson ni darantula. Roedd y Banana Spider yn edrych fel cyrent i gymharu a´r bwystfil yma. Orange Knees Tarantula oedd o - roedd o´n cysgodi mewn twll, ac yn eistedd ar glamp o sach fawr wen yr un un maint a fo ei hun. Yn y sach roedd 100 o fabis tarantula, yyyyyyyych!!

Yna, mi gafodd y guide alwad brys ar ei walkie-talkie, roedd guide arall wedi dod o hyd i rhywbeth arbennig. "Are you feeling fit?" gofynodd y dyn, a cyn aros am ateb, dyma fon dechrau rhedeg nerth eu beglau drwy´r goedwig dywyll ddu, drwy wrychoedd trwchus, a´r llawr yn fwd ac yn wreiddiau a cherrig, heb ddilyn unrhyw lwybr, a ninnai yn llithro heb unrhyw fath o oleuni i´n harwain ni ond goleuni gwan ei lamp o yn diflannu yn y pellter. Roedd o´n gwibio mynd, a ninnai yn ofni am ein bywydau cael ein gadael ar ol, heb un syniad sut i ddychwelyd o´r jyngl. Roeden ni´n rwbio yn erbyn y gwrychoedd, a ninnau eisoes wedi bod yn archwilio´r canoedd a miloedd o bryfaid cop a chwilod trwchus oedd yn drwm ar y dail. (Seren, wyt ti´n cofio ti yn rhedeg trwy we pry cop a´r pry cop melyn yn aros ar dy jympyr di? Dwi´n meddwl fod hynna wedi digwydd i mi lot o weithie, ond roedd hi´n rhy dywyll i mi weld, diolch byth!).
Yn sydyn, dyma Guto Nyth Bran yn dod i stop. A dyma fo´n chwifio ei lamp uwch ein pennau ni, ar er gwaethau´r dafnau enfawr o law oedd yn disgyn i´n llygaid ni, mi welson ni cip ar borcupine. Doni erioed yn gwybod fod porcupines yn dringo coed, ond yndyn wir. Mae nhw´n perthyn i deulu´r llygod, a mae ganddyn nhw sbeics mawr pigog ar eu cefnau i´w hamddiffyn.
Wrth ymyl y porcupine roedd yna 3 sloth. Sôn am ladd dau dderyn hefo un garreg, mae hyn yn rhywbeth anarferol iawn - dau fath o anifail yn yr un ardal agos. Ond yn fwy anghyffredin fyth 3 sloth gydaí gilydd - mae nhw´n byw ar ben eu hunain, a mond yn dod at ei gilydd i atgenhedlu. (Pam fod 3 yno, felly, sy´n gwestiwn ar ben ei hun). Mae sloths yn byw fyny´r goeden, ar ben i lawr am y rhan fwyaf o´u hoes. Mae nhw´n bwyta dail, ac felly ychydig iawn o egni sydd ganddyn nhw. O´r herwydd mae nhw´n symud yn araf deg iawn, 2 fetr y funud, a 4 metr pan eu bod mewn perygl! Unwaith yr wythnos, mae nhw´n dod yn araf deg i lawr y goeden, yn gwneud twll yn y llawr, ac yn pw pw. Yna mae nhw´n dringo´r goeden yn araf deg ac yn aros yno´n llonydd am wythnos arall.
Ymlaen a ni i´r goedwig. Yna, dyma´r guide yn gofyn i ni ddiffodd ein lampau. Doedd hyn ddim yn gwneud gwahaniaeth beth bynnag gan fod mwy o egni yn dod allan o fy mhen ôl i pan dwi´n rhechen nag oedd yn fy lamp. Ond roedd ei lamp o fel un o floodlights Stadiwm y Mileniwm, a pan ddiffoddodd o honno roedd o fel bod golau´r byd wedi diffodd. Doedden ni´m yn gweld ein bysedd o´u chwifio o flaen ein llygaid. Yr hyn oedd o eisiau ei ddangos oedd madarch oedd yn goleuo yn y tywyllwch. Roedd o reit anhygoel i ddweud y gwir. Roedd y madarch yma yn microscopic ac yn amhosib eu gweld yn ystod y dydd. Ond fin nos roedden nhw´n goleuo, i ddenu moths er mwyn i´r moths fynd atyn nhw a chario eu paill i weddill y goedwig. Mi driodd y guide ein cael ni i gerdded y llwybrau yn y tywyllwch drwy wneud cadwyn ddwylo (ok, gafael yn nwylo ein gilydd, ond mae hynna´n swnio´n fabiaidd), a roedd o´n ddychrynllyd. Dim bwys am y trychfilod, dydw i ddim ofn be na alla i ei weld. Ond roedd yna ddibyn llithrig ar un ochr, a choed caled yn gwyro i lawr dros y llwybrau yn barod i´n labio yn ein pen be bydden ni ddigon gwirion a thrio cerdded ar eu traws yn y tywyllwch.

Afraid dweud na barodd hyn yn hir. I ffwrdd a ni yn ol am yr hostel, yn wlypach na pe bawn i wedi bod mewn bath yn fy nillad. Roedd fy nhrowsus yn glynu´n oer i nghoesau i fel cling film, a fy nghamra druan ym mhoced y Mack in a Sack yn damp.

Boycottiwch Millet! Ewch i Cymdeithas Meirion!

No comments:

Post a Comment