06/07/2010

Costa Rica

Unwaith eto Gymry annwyl 'dw i'n eistedd mewn ystafell gyfrifiaduron yng nghanol y p'nawn, hefo storm enfawr yn chwyrlio o gwmpas yr adeilad. Mae pob taran yn ysgwyd y llawr a phob mellten yn gyrru ias i lawr fy nghefn. Mae bwceidiau o ddwr yn disgyn o'r awyr. Dyma Ganolbarth America yn nhymor y glaw.

Ond gadewch i mi roi meddyliau felly i'r neilltu am funud, i mi gael adrodd ein hanes ar ynys Bocas del Toro ym Mhanama.

Bocas del Toro
O un pen i Panama i'r pen arall, i ffwrdd a ni o gwch i dacsi i fws i dacsi ac i gwch arall a chyrraedd ynys o'r enw Isla Colon, neu i'w galw wrth ei henw mwy cyffredin, a'r enw ar yr ardal a prif dref yr ynys - Bocas del Toro. Dyma lle mae pobl ifanc Panama yn heidio yn yr haf i bartio, syrffio ac ymlacio.
Dyma i chi ynys fach dlws. Mae'r bwytai a'r tafarndai i gyd wedi eu lleoli ar ymyl y mor, ac aml i le yn cynnig 'pwll nofio' o ddwr y mor i badlo wrth fwynhau diod neu ddau. Twll yn y decing ydi'r pwll nofio yma mewn gwirionedd, gan fod y patios i gyd yn ymestyn ar piers bychain i'r dwr.
Mae ardal Bocas yn llawn ynysoedd bychain - dim cweit mor baradwysaidd a San Blas, ond yn ail agos. A ffwrdd a ni un diwrnod ar drip ar gwch modur oedd yn bownsio oddi ar y tonnau mewn modd ofnadwy o boenus i'n penolau druan. (Pe bawn i'n darllen y newyddion ar S4C yr eiliad hon mi fyswn i'n torri ar draws y bwletin i nodi fod y storm sydd o nghwmpas wedi cyrraedd ei phinacl a fod y mellt o'n nghwmpas i fel golau disgo a fod y glaw yn disgyn fel pe bai cwmwl wedi byrstio uwch fy mhen. I fod yn gwbwl onnest hefo chi i gyd mi rydw i yn cachu brics.) Ond yn ol i'r hanes: Ynghanol y mor mawr agored dyma'r cwch bach yn dod i stop, a dyma edrych o'n cwmpas yn syn am y rheswm, a dyna lle'r oedd degau o ddolffins yn neidio mewn parau o'n cwmpas ni, wysh wysh wysh. Yn y dwr, roedd yna filoedd o jeli ffish (mae nhw'n dweud wrtha i mai'r cyfieithiad cywir am hyn ydi Cont y Mor, ond mae'n ddowt gen i...) ych a fi.


Ie, dolffin ydi hwn, dim siarc!

Yna, ar ol mwy o wibio'n anghyffyrddus dros y dyfroedd, daeth y cwch i stop eto, a dyma'r gyrrwr yn estyn am offer snorclo i bawb. I mewn a ni dros ochr y cwch bach i'r dwr, i chwilio am berlau dan y don. Roedd y gwaelod yn llawn coral miniog, ond prydferth, a mi gefais sgratsh go boenus ar fy mhen-glin. Roedd un dyn bach od yn mynd a bisgedi hefo fo i drio denu'r pysgod. Gan ein bod ni'n bobl wreiddiol iawn, mi fedyddiwyd y gwr rhyfedd hwnnw yn 'Biscuit Boy' (da de?). Dwi ddim yn teimlo'n gyffyrddus iawn o dan ddwr - snorcl neu beidio, felly nofio o gwmpas a'm mreichiau fel melin wynt nesh i fwy neu lai. Yn sydyn reit, dyma rhywun yn gweiddi "SIARC!", a dyma pawb yn straffaglu nofio nerth eu peglau am y cwch bach. Dwnim os ydech chi erioed wedi trio neidio mewn i gwch o'r mor, ond mae o'r nesa peth i fod yn amhosib. Roedd yr ochrau yn slip, a dim ystol o fath yn y byd i'n helpu ni! A roedd y siarc gerllaw, mamamia. Ar ol i'r gyrrwr fy nhynu gerfydd goes a braich i ddiogelwch y bad, dyma gael fy ngwynt ataf a gofyn ynglyn a'r siarc. A wir i chi, mi roedd yna coral shark yn cuddio dan y garreg, yn aros am damaid o gig. (Wn i ddim os ydyn nhw'n berryg mewn gwirionedd - siwr braidd nad ydyn nhw os daeth y gyrrwr a ni yno i snorclo - ond fel un sydd wedi bod ofn mynd i'r toilet am wsnos ar ol gwylio Jaws do'n i ddim am fentro dim).

Mae parti yn Bocas yn hwyl, ond mae gennon ni 5 wythnos i ymweld a 6 gwlad a hynny i gyd dros dir - tasg anodd iawn. Felly ar ol dwy noson yn unig, dyma godi pac a gadael Panama.



Costa Rica
Roedd pethau'n argoeli'n ddrwg braidd pan welson ni'r border rhwng Panama a Chosta Rica, ac roedd o'n edrych fel hyn:



Ond wedi cyrraedd ochr arall y bont (tua'r un hyd a phont Bermo, minus planciau ar y llawr, gyda dos ychwanegol o fear factor) dyma ni'n dechrau ymlacio. Mae'n anodd peidio ymlacio yng Nghosta Rica. Mae hi'n union fel y gwnes i ei dychmygu hi - haul, coed palmwydd, a chaeau a chaeau o goed bananas bob ochr i'r ffordd. Wedi hanner awr o deithio mewn cerbyd dros ffordd dyllog a chreigiog, dyma gyrraedd pentref bach diog ar lan y mor.

Puerto Viejo
Pe bydde rhywun yn rhoi mwgwd dros eich llygaid, yn eich herwgipio, a dod a chi i Puerto Viejo, yna tynnu'r mwgwd a dweud wrthochi eich bod yn Jamaica, mi fyswch chi'n eu coelio nhw. Rhaid hefyd nodi fod y tebygolrwydd o hyn yn digwydd yn slim to none. Mae trigolion y pentref i gyd yn edrych fel replicas o Bob Marley - yn ddynion ac yn wragedd, eu gwalltiau mewn dreadlocks, eu dillad yn fawr ac yn lliwgar, a phawb yn smocio mwg drwg fel be bae'r peth mwya cyffredin ar wyneb daear. Mae cerddoriaeth y Caribi yn chwarae drwy ffenestri'r tai a'r busnesau bach lleol sydd ar bob llawr ar hyd y stryd fawr fechan sy'n arwain ar hyd lan y mor. Mae stondinau pren yn gwerthu gemweithiau, hetiau, gwasanaethau plethu gwalltiau a gwneud dreadlocks, a phopeth yn lliwiau'r rastafferians. Mae oglau bwyd anhygoel y Caribi yn dawnsio ar hyd y strydoedd, a dyma fochyn cyfa yn cael ei rostio ar y stryd.



Un diwrnod dyma ni'n penderfynu rhentu beics, a reidio ar hyd yr arfordir i ymweld a lan y mors ar y ffordd. (Beth ydi mwy na un lan y mor, buryddion iaith? Glannau Mor? Lan y Moryddion? Glanyddion Morol...?!!). Roedd hi'n boeth, yn ofnadwy o boeth. Roeden ni'n wlyb gan chwys, hefo eli haul yn wyn ac yn stici ar ein gwynebau, a thywod wedi sticio i bopeth a'n gwallt dros ein dannedd. Mi driais i dynnu ambell i action photo, a mi ddisgynais i'r gwrych. Yn hwyr neu'n hwyrach mi gyrhaeddon ni lan y mor, a hwnnw 10km i ffwrdd. Roedd o'n hyfryd, ac yn llawn Bob Marleys bychain yn syrffio o'n blaenau ni. Mae'r ardal yn enwog am don enfawr o'r enw y Salsa Brava - sy'n denu syrffwyr o bedwar ban i thrio ei choncro. Roedd arwyddion enfawr yn y coed yn darllen "Warning, Thieves in the Bushes". Waaaa!


Fi yn reidio beic yn noeth. Roedd hi'n boeth iawn.

Oherwydd y glaw sy'n disgyn yn yr ardal mae jyngl yn tyfu ochr yn ochr a glan y mor. Mi gerddon ni drwy'r jyngl un diwrnod, roedd hyn fel cerdded i mewn i fyd gwahanol, ro'n i'n teimlo fel Mowgli o Jungle Book, a mi driais i gario fy mhotel ddwr ar fy mhen a phopeth. Mi welson ni fwnci - un rhyfedd oedd yn gweiddi swn iasol o'i frigyn uwch ein pennau. Mi welson ni filoedd o fadfalloedd o bob maint. Mi welson ni garfan o forgrug, yn cerdded yn eu miloedd yn cario blodau melyn i rhywle. Roedd tyllau bach yn y ddaear ymhobman, ac wrth aros yn llonydd am chydig roedd crancod bach oren yn dod i'r lan, yn ddegau ac yn ganoedd. Wrth iddi hi nosi, roedd gwe pryfaid cop yn mynd yn dwchach a thwchach nes ein bod yn cosi i gyd.



Mae Costa Rica yn le anhygoel, ac mae'r storm wedi pasio bellach. Ryden ni wedi gadael Puerto Viejo a wedi croesi hyd y wlad i ardal y fforest law i le o'r enw Monteverde.

I ffwrdd a fi i sychu fy ngwallt!

No comments:

Post a Comment