01/07/2010

San Blas Archipelago

Ynys Paradwys
Ddoe, mi adawon ni'r Ynys Baradwys. Alla i ddim dychmygu y bydda i fyth eto'n ymweld a rhywle mor baradwysaidd, mor stereotypical o berffaith.

Oddi-ar arfordir Panama, ar ochr môr y Caribi mae yna dros 365 o ynysoedd bychain o'r enw ynysoedd y San Blas. Mae'r ynysoedd, ynghyd a'r tir ar yr arfordir yn perthyn i'r brodorion y Kuna Yala. Mae'r brodorion yn gwneud bywoliaeth drwy bysgota a hela ar yr ynysoedd, ac mae rhai yn cynnig llety i dwristiaid.

Mi ddewision ni ynys o'r enw Sanidub i fynd i dreulio ychydig o ddiwrnodau yn yr haul. Mi gafon ni wybod fod dau fusnes ar yr ynys yn cynnig llety mewn cabanau i dwristiaid - cabanau Frank neu cabanau Tony. Dyma fi'n dychmygu mai dau Americanwr wedi gweld cyfle i wneud pres oedd y ddau - a mi ges i sioc pan gyrrhaeddon ni a chwrdd a 'Toni'. Yn ŵyr i benaeth ynysoedd yr indiaid, dyma i chi Bocohontas o ddyn - ei wallt yn hir hyd at ei ben-ôl, a dwy blethen fechan ganddo'n hirach fyth. Dyn byr, ei frest yn noeth ac yn sgleinio'n frown. Dwi'm yn meddwl ei fod yn berchen pâr o 'sgidiau, ac roedd ei amryw drowsusau lliwgar yn enghraifft da o'r dillad amryliw mae indiaid y Kuna Yala yn ei wisgo. Roedd Toni'n edrych y math o ddyn a allai neidio i'r môr a dod yn ei ôl hefo pysgodyn yn ei geg. Ac yn wir, un diwrnod mi neidiodd i'r môr a dod yn ôl hefo cimwch enfawr yn ei ddwylo.



Roedd y daith i Sanidub yn brofiad. Bu'n rhaid codi am 4.30am i ddal lifft gan garfan o jeeps, yna taith 4 awr dros greigiau a phontydd sigledig i gyrraedd arfordir anial y Kuna Yala. Yna cwch hir lliwgar fel canŵ mawr am awren dda ar for y Caribi - a mynd yn sownd yng ngwaelod y môr bas, a ninnau yn meddwl mai crocodeilod oedd y boncyff coed oedd yn arnofio o'n cwmpas ni. Ar y môr, ymhobman o'n cwmpas ni roedd yna ynysoedd bychain, yn dywod, yn goed palmwydd, yn gytiau pren ar stilts, a'r brodorion yn taflu picelli i'r dŵr i ddal pysgod oddi ar eu piers personol. Roedd ynysoedd ymhobman, hyd at y gorwel - a'r coed palmwydd ar yr ynysoedd pellaf yn edrych fel eu bod yn arnofio yn yr awyr fel cymylau gwyrddion gan fod y tywodd oddi-tanynt yn amhosib i'w weld.




Dyma ni'n cyrraedd Sanidub. Ynys fechan fechan ydi hi - gallwch gerdded o'i chwmpas mewn 4 munud, a rhedeg o'i chwmpas mewn munud (mi gafodd Rhean a fi ras o'i chwmpas un noson, dyna sut dwi'n gwybod!). Y cwbwl oedd yr ynys oedd lwmp enfawr o dywod gwyn, llond dyrned o goed coconyt, tua 20 cwt pren a rhaff i chwarae volleyball! Dyma ni'n cael ei gwlau am y noson - gwely pren mewn cwt hefo tywod ar y llawr a dail ar y to. Neis iawn, ond wrth drio cael nap yn y p'nawn, mi ddaeth dau genau goeg i chwarae trampolin ar fy mol, a chydig o chwilod enfawr i glic glician ger fy nghlust, a roedd crancod bach melyn yn dod i fyny o dyllau yn y llawr bob yn hyn a hyn i ddweud helo. HELP!



Roedd y môr o amgylch yr ynys yn fas ac yn gynnes braf, ac yn llawn sypreisus fel ser môr a chrancod a physgod anferthol mewn lliwiau llachar. Roedd hi mor boeth nes roedd yn rhaid treulio'r diwrnod cyfa yn nofio. Roedden ni'n cael tri pryd y diwrnod gan Toni a'i deulu, doedd dim amseroedd pendant - roedden nhw'n canu'r gragen-gorn, a roedd pawb yn rhedeg o'r môr tua'r cwt bwyta. Y diwrnod cynta mi gafon ni ben pysgodyn i ginio, ei dafod a'i lygaid a'i ddannedd bach miniog yn dal arno fo! Yn y nos roedd y cwt bwyd yn troi yn far, a phawb yn hel i yfed gwin coch a gwrando ar y miwsig reggaeton oedd Toni yn ei chwarae.

Un diwrnod dyma Toni yn cyhoeddi ein bod ni'n mynd am drip, felly mewn a ni i'r môr ac i ryw gwch bach, a ffwrdd a'r cwch ar gyflymder golau i ynys o'r enw Isla Perro (Ynys y Ci). Roedd fama hyd yn oed yn fwy paradwysaidd na Sanidub gan nad oedd yna gytiau ymhobman, dim ond traeth a choed a môr. Roedden ni'n cael menthyg masgiau i snorkelo, a dyna lle'r oedd cwch wedi suddo i waelod y môr a physgod o bob math wedi symud i mewn. Mi arhoson ni yno yn torheulo a nofio am y pnawn, a buta coconuts ffresh oddi-ar y coed.

Allan o'r 30-ish o bobl ar Sanidub, roedd tua 22 ohonyn nhw yn Israelis. Mae lot lot o deithwyr yn Ne America a Chanolbarth America yn dod o Israel. Mae nhw'n mynd i deithio ar ôl gorffen eu stynt gorfodol yn y fyddin. Mae'r Israelis yn dueddol o sticio hefo'i gilydd, ac yn gyffredinol yn teithio mewn niferoedd enfawr. Felly dyna lle'r oedden ni yn eistedd yn y cwt bwyta/bar yn methu'n lân ag ymuno yn yr hwyl Hebraeg oedd yn mynd ymlaen o'n cwmpas ni. Felly dyma ni'n eistedd o amgylch bwrdd bach hefo Toni a tri Sais i chwarae cardiau. Yn sydyn reit, dyma Toni y brodor bach Kuna Yala yn troi i rownd a gweiddi rhywbeth ar yr Israelis mewn hebraeg. A dyma'r tri Sais yn troi rownd ac yn ymuno yn y sgwrs - yn hebraeg. Wel myn cacen i, dyna ryfedd, roedd Toni wedi dysgu'r iaith gan fod gymaint o Israelis yn ymweld a'i ynys, a roedd y tri Sais yn Iddewon, a wedi dysgu Hebraeg yn yr ysgol. Rhyfedd o fyd!

Dyma benderfynu gadael bore Mercher, a mi gafon ni ein deffro gan y gragen-gorn am 7am. Dyma agor fy llygaid a meddwl be oedd y sŵn chwyrnu enfawr o nghwmpas i - ai Lowri oedd hi? Nage wir, ddim y tro hwn. Storm enfawr oedd yn chwyrlio o'n cwmpas ni, a glaw yn tywallt o'r nefoedd gan wlychu'r pysgod hyd yn oed, a throi'r ynys baradwysaidd yn le diflas iawn. Roedd y daith ar y ffordd yn ôl yn brofiad reit ddychrynllyd, a'r môr yn ein codi i fyny ac i lawr ac o ochr i ochr gan fygwth troi'r cwch bach ar ben i lawr.

Wel dyma ni wedi cyrraedd pen arall Panama yn ddiogel, a wedi cyrraedd ynys arall eto fyth o'r enw Bocas del Toro. Mae hi'n anioddefol o boeth, a dwi'n chwysu gymaint nes fod perygl i fy nhatŵ ddod i ffwrdd. Felly i ffwrdd a fi i chwilio am ryw Banamanian bach del i chwifio dail palmwydd uwch fy mhen, hasta luego!

No comments:

Post a Comment