14/06/2010

Machu Picchu - 4 diwrnod

Mae amser ym mywyd pawb lle mae`n rhaid gofyn y cwestiwn, `pa beth sydd bwysicaf: pen-gliniau, ynteu nachos a guacamole?`. Ac yn ein hachos ni, mi benderfynwyd mai nachos a guacamole ydoedd bwysicaf - ac fe wrthodwyd talu $7 am fws i lawr o Macchu Picchu i Aguas Calientes, ac yn hytrach fe`i cerddwyd. Awr o risiau serth. Cannoedd o risiau serth. Miloedd o risiau serth i lawr lawr lawr, a ninnau eisioes bron a llewygu y bore hwnnw wrth eu cerdded i fyny fyny fyny am 3am y bore. Ond fe gyrhaeddwyd y bwyty Mexicanaidd, ac fe gafwyd nachos a guacamole, a litr o win coch. A dyna yn fras pam nad ydi fy mhen-gliniau yn gweithio bellach.

Machu Picchu
Cymeriadau:
Fi : Y teithiwr talog hefo`r fferins blas lemon
Lowri : Y teithiwr talog hefo`r lamp i ffeindio`r toilet
Rhean : Y teithiwr talog hefo`r shampw
Bing : Ein cyd-deithiwr o Lundain, doctor, cwyno am bob dim, ofnadwy o gystadleuol, chwyrnu fel injan, ond yn hogan reit neis.
Miguel : Ein guide tew. Bwli, oedd yn trin ein dyn ceffylau a`r cogydd fel baw isa`r domen, chwyrnu fel dwy injan, chauvinist pur.
Marco : Cynorthwydd Miguel. Ond nad ydio`n cynorthwyo neb na dim mewn unrhyw fodd. Mae o`n gwisgo hoodie mawr coch dros ei ben drwy gydol y trip er gwaetha`r tymheredd o tua 30 gradd. Dydio ddim yn siarad, nac yn codi yn y bore heb i rhywun fynd i`w hanos o.
Casiano : Y cogydd. Un o`r brodorion Quechua, dyn neis, swil ofnadwy, gneud bwyd neis - 3 pryd y dydd a snacs (popcorn), mmm.
Percy: Y dyn ceffylau. Eto, un o`r brodorion Quechua, annwyl ofnadwy, hydnoed mwy swil na Casiano.


Diwrnod 1

Codi yn Cusco, 4.30am. Cael ein gwthio`n ddiseremoni i fws-mini cyhoeddus yn llawn dynion drewllyd yn mynd i`r gwaith. Teithio am oriau ar ffordd gul, droellog, greigiog, a chyrraedd stesion fysus. Aros am oriau, dim math o drefn, ffeindio allan mai`r dyn tew oedd wedi bod yn cysgu ar y bws hefo ni ydi ein guide am y 4 diwrnod nesa, er nad oedd o na neb arall wedi cael ein cyflwyno i`n gilydd. Oherwydd y diffyg trefn a dealltwriaeth, y bws yn cychwyn heb ein bacpac oedd yn cynnwys ein dillad cynnes i gyd ar gyfer y daith hir. Dim syniad gan neb os oedd y bag yn y stesion tren, neu yn Cusco. Dod o hyd i`r bacpac ar dacsi`r cogydd. Diolch byth. Cyrraedd pyllau poeth (hot springs), a treulio awr yn nofio / mwydo yn y dwr brown! Miguel yn stripio i`w dryncs, ac yn dechrau shafio yn y cawodydd awyr-agored, hmmm.

Cael cinio - cawl, bara garlleg, reis, avocado, llysiau, tatws wedi eu ffrio. Dyma`r pryd hyfryd cyntaf o nifer ar y daith, mae`n anhygoel be all y cogydd bach ei wneud gyda stof gas fechan yng nghanol y wlad.

Mi ryden ni`n cerdded ar daith drwy Ddyffryn Lares, yn cerdded i fyny heddiw dros greigiau ac i fyny llethrau gwyrddion y dyffryn. Mae afon yn byrlymu oddi-tanon ni, ac mae`r haul yn danbaid.



Oherwydd ein bod yn ddwfn yn y dyffryn, mae`r haul yn diflannu yn gynnar yn y p`nawn, a dyma ni yn cyrraedd pentref mawr cynhenid yr olwg. Mae`n llawn o dai cerrig toeau gwellt, gyda llamas ac alpacas yn pori rhyngthyn nhw ymhobman. Mae yma gae pel-droed, a degau o fechgyn o bob oed yn chwarae yn eu ponchos a`u hetiau lliwgar.

Mae Miguel y guide anrhefnus wedi anghofio trefnu hefo Casiano a Persi lle yden ni am gwrdd a nhw. Mae nhw, wrth gwrs, wedi gwibio o`n blaenau ni efo`r ceffylau a`r paciau, i godi`r pabelli ac i baratoi bwyd. Ar ol awr o gerdded drwy`r pentref yn gweiddi "CASIANO", mae Miguel yn dod o hyd iddyn nhw, ac yn rhoi llond pen iddyn nhw, er mai ei waith o ydi trefnu pethau, mewn gwirionedd. Twmffat.

Cael ein gwahodd i gartref Persi a`i wraig am swper. Dim ond 18 ac 19 ydi`r ddau, ond mae nhw eisoes yn cadw tŷ, ac yn trin eu gwesteion mor aeddfed a pe bydden nhw`n llawer hŷn. Ond mae nhw hefyd yn swil ofnadwy, ac yn gwrthod ymuno a ni ar eu bwrdd bwyd eu hunain, er mawr annifyrwch i ni. Ryden ni yn eu gwahodd dro ar ol tro, ond mae`n well ganddyn nhw eistedd ar lawr. Trist iawn. Mae camu i`r ty yn union fel camu i un o hen dai cynhenid Sain Ffagan. Mae`r waliau yn gerrig a mwd, a´r to yn wellt. Mae yna groglofft lle mae nhw`n cysgu. Dim ond un ystafell sydd heblaw am hyn, ac mae`r wraig yn coginio uwchben y lle tan cerrig yn y gornel. Llawr mwd sydd, ac mae nhw`n taflu unrhyw ddwr neu barion llysiau ar lawr y ty. Mae`r drws ffrynt led y pen ar agor, a pob math o anifeiliaid yn mynd ac yn dod. Cath, cwn, ieir, ac ymhobman o amgylch y tŷ - ymhob twll a chornel mae moch cwta (guinea pigs) yn cysgu ac yn rhedeg o gwmpas. Mae yna oddeutu 15 ohonyn nhw. Mae nhw`n pesgi`r anifeiliaid, ac yna eu eu gwerthu er mwyn eu bwyta. Dyma fwyd cenedlaethol Peru.
Mae Miguel yn gweiddi ac yn arthio ar Persi a Casiano drwy gydol y pryd bwyd, yn galw am hyn a`r llall, heb air o ddiolch nac os gwelwch yn dda.




Amser gwely - 7.30pm! Mae`r haul wedi machlud, felly does dim amdani ond mynd i glwydo. Mae`r toilet mewn caban sheet sink tu allan i`r tŷ - twll yn y llawr ydi o, camp enfawr yn y tywyllwch. Mae hi`n noson oer. Rydwi`n mynd i`r gwely mewn 3 trowsus, 2 bar o sannau, 6 haen o ddillad ar y top, het, mennyg, sgarff, sach gysgu arbennig wedi ei benthyg o Cusco, a`r llinyn wedi cau yn dynn amdana i. Rydw i dal yn crynu drwy`r nos, ac yn methu cysgu. Mae hi`n ddieflig o oer. Bore wedyn, am 6am, mae Casiano yn dod i`n deffro ni hefo paned o de Coca poeth. Mae tu allan y dent yn rew gwyn drosti, ac mae`r past dannedd wedi rhewi.

Diwrnod 2
Mae hi`n cymryd dwyawr i mi allu teimlo bysedd fy nhraed unwaith eto ar ol y noson oer o gwsg. Dyma ddiwrnod anoddaf y daith. Ryden ni yn dringo i uchdwr o 4,200 metr, ac yn methu anadlu. Ryden ni yn dringo i fyny am 3 awr i fwlch yn y dyffryn. Mae o`n anodd iawn. Ryden ni yn pasio gyrr o llamas ac alpacas yn agos, agos. Mae nhw`n edrych yn ddoniol iawn. O`r diwedd, cyrraedd top y bwlch, ac edrych i lawr - a dyma weld y llyn glas glas yn gwenu arno ni ac yn gweiddi, "dewch i lawr i gael cinio"! Felly i lawr a ni, zig-zag, dow dow, ac ambell i ffarmwr yn ei ddillad lliwgar a`i het yn ein pasio gyda cheffylau, mulod, llamas, ac alpacas, yn rhedeg!



Cael picnic hyfryd (poeth) ar lan y llyn. Cychwyn cerdded unwaith eto. Cyrraedd ein llety am y noson - y pabelli wedi eu codi gerllaw tri tŷ hyd yn oed yn fwy cynhenid na thŷ Persi. Bwyta ein swper mewn tŷ tywyll, heb unrhyw fath o ddodrefn oni bai am ffwrdd sigledig pren - gyda golau chanwyll. Cnocio ar ddrws tŷ drws nesaf a gofyn os oedd modd talu i gael menthyg blancedi - menthyg blancedi trwchus trwchus, hwre!

Dim toilet ar gyfyl y lle. Gorfod cuddio ymysg cerrig mawrion i wneud ein busnes yn yr awyr agored!! Bob yn hyn a hyn, pobl yn pasio, a gorfod cogio edmygu`r olygfa lle ein bod yn cael ein dal yn mynd i`r toilet!

Diwrnod 3
Deffro ychydig cynhesach na`r noson flaenorol. Paned o goca yn y dent, a chrempog i frecwast, mm! Cerdded i lawr ffordd greigiog - cael trafferth peidio llithro. Cwrdd ag ambell i blentyn bach ar y ffordd, a chael eu cwmni am ychydig o filltiroedd. Un - David - yn chwarae gyda thop hen-ffasiwn a llinnyn, ac mae`n dangos ei dric yn ddiflino am filltir oleiaf. Teithio heibio i goedwigoedd, a phlanhigion lliwgar.

Cwrdd a hen ddynes yn gwehyddu matiau ar ochr y ffordd gerrig ynghanol cae ymhell o bobman. Mae hi`n gwerthu diodydd, hetiau, defnyddiau. Mae ganddi fabi bach sy`n eistedd yn y cae yn ei het liwgar yn edrych yn syn. Mi ryden ni yn prynu ychydig o bethau. Yna mae Miguel yn cymryd pwrs bach defnydd del ac yn ei roi yn ei boced, ac yn dweud yn Sbaeneg ei fod yn haeddu anrheg am ddim gan ei fod wedi arwain grwp o brynwyr at yr hen ddynes. Ryden ni yn dadlau, ac yn dweud y dylai o roi arian i`r ddynes am y pwrs, ond mae o`n ein hanwybyddu ac yn cario mlaen i gerdded. Twmffat.



Cinio - chips, myn cacen i! Chwarae teg i Casiano, rhen foi. Tipio Casiano a Persi yn hael oherwydd eu bod wedi gweithio mor galed, a fod Miguel wedi eu trin mor ddrwg, a ffarwelio a nhw. Dal bws i Olytaitambo. Rhyfedd bod yn ol mewn lle mor boblog a thwristaidd ar ol cerdded drwy fannau mor anghysbell. Dyma dref lle mae pobl yn dal tren i Aguas Calientes sydd yng ngwaelod Machu Pichu, felly mi allwch chi ddychmygu`r caffis a`r siopau a`r bobl sydd yma. Aros am sbel am ddynes o`r cwmni i ddod a tocynau i ni. Clywed bloeddiadau yn dod o gaffi gerllaw - mae`r Saeson yn chwarae pel-droed yn erbyn yr Americanwyr. Osgoi`r caffi fel y pla du. Esbonio wrth Bing ein bod ni`n cefnogi Honduras ac nad yden ni am ddod i wylio`r gem efo hi sori mawr.

Ffarwelio efo`r twmffat tew, a penderfynu peidio rhoi ei dip iddo fo, gan ei fod wedi fy ngwylltio gymaint. Mynd am fwyd, i wario`r tip arno ni ein hunain, hehehe!

Dal tren i Aguas Calientes (ond fod rhaid dal bws mini i ddechrau oherwydd y difrod a wnaed i`r rheilffordd yn ystod y tirlithriad enwog yng nghychwyn y flwyddyn). O`r diwedd, 9.39pm, cyrraedd hostel, a chawod. Ond...och a gwae, cnoc ar y drws. Dyma ein guide ar gyfer Machu Picchu, Edwin, wedi dod i chwilio amdanon ni i fynd a ni i fwyty i esbonio`r dref ar gyfer y bore canlynol. Dyma ni y meirw byw yn shyfflo ein ffordd i`r bwyty. Archebu bwyd. Edwin yn treulio deg munud yn esbonio fod angen cwrdd a fo yn dderbynfa am 4am, a dim llawer mwy, ac yna yn ein gadael ni. Aros hanner awr arall am y bwyd, a doedden ni`m hyd yn oed isho bwyd, blydi hel.
Cyrraedd gwely toc wedi 11pm, sy`n gadael chydig dros 4 awr o gwsg.
Deffro ar ol dwy - Bing yn chwyrnu.

Diwrnod 4
Codi 3.30am. Cwrdd ag Edwin 4am. Cychwyn cerdded, a chodi tua 30 mwy o bobl ar y ffordd. Tywyll tywyll tywyll. Cerdded am hanner awr tuag at gychwyn y llwybr i Machu Picchu, heibio afon, dros bont, i fyny fyny. Cyrraedd gwaelod y llwybr - grisiau. Canoedd o risiau. I gyd yn y tywyllwch, yn gerrig rhydd, yn blanhigion sy`n plygu ac yn cosi clustiau. I fyny a ni i fyny`r grisiau, allan o wynt, yn brin o ocsigen, yn tuchan yn cwyno, yn sychu trwyn ac yn gweddio ein bod ni bron a chyrraedd, ac yn gweddio y bydden ni yn cyrraedd Machu Picchu cyn y bysus cyntaf. O`r diwedd, cyrraedd y top. HWRE! 5.45am. Goeliwch chi. Bron i ddwyawr o gerdded i fyny grisiau. Grisiau mawr mawr cerrig. Sori bengliniau.

Y rheswm dros ddod yn gynnar gynnar ydi mai dim ond 400 o docynau y diwrnod sydd ar gael i ddringo Huyana Picchu, sef y mynydd mawr a welwch yn y llun isod o Machu Picchu.




Ar ol cerdded i Machu Picchu, y peth ola o`n i isho oedd cerdded mwy. Dydi Huyana Picchu ddim hyd yn oed yn edrych fel fod posib ei ddringo. Ond mae pawb yn dweud ei fod werth y boen! Mi gafon ni`n tocynnau (cael a chael oedd hi - Rhean yn y toilet unwaith eto!). I mewn a ni i Machu Picchu. Waw wi. Roedd o`n edrych fel mae o yn y post cards. Mi welson ni`r wawr yn torri. Roedd y ddinas goll yn edrych mor berffaith - y tai bach yn sgwar ac yn edrych fel tai! Mi welson ni demlau o bob math.

Roedd 6,000 o`r Incas yn arfer byw yma yn y 15Ganrif, ond mi nathon nhw ffoi pan ddaeth y Sbaenwyr i Cusco, a chwalu`r llwybrau oedd yn arwain tuag at y ddinas fel nad oedd posib i neb ddod o hyd i`r ddinas Sanctaidd. Ddoth neb o hyd i`r lle tan 1911.

10am, a hithau eisoes yn teimlo fel amser gwely, mi aeth Rhean a fi i fyny Huyana Picchu, taith hanner awr. Roedd o`n serth ofnadwy, a rhaff ddur yn ein helpu ni i fyny rhai darnau. Ond roedd o`n cwl hefyd, a golygfa anhygoel i`w weld o`r top.

I lawr wedyn, dweud wrth grwp o Americanwyr tew mai dim ond awr a hanner oedd tan y copa (hehehe, wyps dwi ddim gwell na`r Twmffat Miguel). A brechdan ham, caws, avocado a mayonaisse i ginio, picnic gwerth chweil.

Yna, mi redodd llama ar ein holau ni dipyn, mi welson ni fwy o`r tai, fyny a lawr mwy o risiau, torheulo chydig, neidio chydig, a phenderfynu fod yn gwerth aberthu ein penegliniau am nachos a guacamole. I lawr a ni, roedd o`n boenus iawn, yn bell iawn.

Dwi di cael llond bol ar sgwennu`r blog yma i ddeud gwir, dwi wedi blino, dwi`n brifo. Felly i dorri stori sydd eisoes yn rhy hir o lawer yn fyrrach, mi gyrrhaeddon ni nol yn Cusco am 2.30am, bron 24 awr ar ol codi. A dwi dal heb gysgu lot. Felly ta ta.

No comments:

Post a Comment