09/06/2010

Llyn Titikaka

Helo, a titicaca i chi gyd.

Bu`n rhaid ffoi o La Paz, roedd fy nghelloedd ymenyddol yn brysur ddiflannu. I ffwrdd a ni ar fws DIY yr olwg, a`r gyrrwr yn taflu ein bacpacs i do´r cerbyd (a ninnau´n croesi´n bysedd y bydde nhw yno ar ddiwedd y daith). Ar ol awr neu ddwy o deithio, daeth y bws i stop ar lan llyn/afon (neu rhyw fath o ddwr - yn sicr dim mor, o gofio ein bod ni ym Molivia). Oedden ni wedi cyrraedd pen ein taith yn gynnar? Wel nagoedden ddim. Dyma`r gyrrwr yn ein hel oddi-ar y bws a phwyntio ar y dwr. Dyma ddilyn pawb arall, a canfod ein hunain mewn cwch bach yn croesi`r dwr. Dyma edrych yn ol yn bryderus am ein bagiau, a dyna lle oedd y bws enfawr ar ryw fath o blatfform arnofiedig yn siglo ei ffordd ar ein holau.

Cyrraedd Copacobana, a glan llyn enwog Titikaka. Tref ar allt yn arwain tuag at y bae, a`r canoedd o gychod bychain sy`n cynnig teithiau i`r miloedd o dwristiaid sy`n dod yma bob diwrnod. Dyma dre liwgar ofnadwy, a channoedd o siopau lliwgar yn gwerthu hetiau, sgeirff, leg warmers, sannau, masgiau bob ochr i`r strydoedd.

Roedden ni`n llwgu, a dyma ddod o hyd i fwyty oedd yn cynnig pryd tri chwrs am 18 boliviano, sef punt wythdeg. Cawl, Sbageti Bolognese a Chrempog i gyd am ddan ddwybunt. Dyna sy`n gret am Bolivia, mae´n rhad fel baw. Ond mae gan bawb ddiorreah.

Dyma adael am 8am ar y cwch i´r Isla del Sol, ar lyn Titikaka. Wedi cyrraedd, dyma hogyn ifanc 11 oed yn dod atom ni, ac yn gofyn mewn Saesneg perffaith - "You want hostel? I got hostel for you. Hot showers. Come with me." Felly i ffwrdd a ni, hefo`n bacpacs 15kg ar ein cefnau (yn tuchan dan effaith yr uchdwr, eisoes) i fyny canoedd o risiau serth i fyny i`r pentref o`r harbwr. Roedden ni`n gorfod stopio yn llythrennol bob 5 eiliad i gael ein gwynt, a`r hogyn bach - yn aros yn amyneddgar amdanon ni, ac yn hel perlysiau i drio helpu efo`n trafferthion ni! Roedd o´n cynnig carrio ein pac i ni yn aml, ond doedd o mond tua 4 troedfedd, a`r bag enfawr yn dalach na fo - bron!

O`r diwedd, dyma gyrraedd yr hostel - stafell wag, oer hefo gwelyau a blancedi budron. Ac am y gawod boeth - bron i fi golli fy nannedd yn crynnu cymaint yn trio molchi oddi-tani. Ond beth ar wyneb y ddaear oedden ni`n ei ddisgwyl, mewn gwirionedd? Roedden ni ar ynys 3 awr i ffwrdd o`r tir mawr, gyda cwmni dim ond 800 o frodorion yr ynys. Doedd dim ceir o gwbl, na golau stryd - dim ond gyrr o fulod (haid o fulod? criw o fulod? haid o fulod?) yn iiiiiooooo-ian eu ffordd i lawr y llwybrau creigiog yng nghwmni merched yn eu gwisgoedd traddodiadol. Yn eistedd yng ngardd yr hostel, roedden ni`n gweld golygfa anhygoel o´r llyn enfawr glas, a mynyddoedd hefo´u copaon yn eira trwm ar y gorwel.



Mae yna nifer o olion yr Incas ar yr ynys, felly ffwrdd a ni i chwilio am Deml yr Haul. Roedd y llwybr yn galed, unwaith eto oherwydd fod ocsigen yn brin yn yr uchdwr. Roedd yr haul yn danbaid, a ninnau´n agosach ato nac erioed o´r blaen. Ond o´n cwmpas ni ymhobman roedd y merched yn gweithio´n galed yn y caeau yn cynaeafu planhigion dieithr, a mulod lliwgar yn ein pasio ni yn rhesi. Roedd yna bob math o drychfilod yn y gwrychoedd, yn lindys, pryfaid cop, nadroedd cantroed a phryfaid ehedog lliwgar a phili palas. Roedd perlysiau ymhobman, a oglau gwellt yn neud i fi deimlo fel bo fi yn ol yn Alltgoch. Roedd o fel taith berffaith mewn stori i blant bach. Mi gyrhaeddon ni lan y llyn, a rhoi ein dwylo yn y dwr i gael dweud ein bod ni wedi cyffwrdd a Llyn Titikaka.

Y bore wedyn, ar ol noson iasoer - fe godon ni i olygfa ddieithr iawn - glaw! Wel os oedd dringo`r grisiau serth yn sych yn sialens, roedd ceisio dringo i lawr a´r grisiau fel afon yn gan gwaith gwaeth. Roedd pob cam yn slip, a`r bagiau trwm yn gwneud ein pengliniau deimlo fel jeli. Cyrraedd y bae, a gweddio fod cwch yn gadael am 8.30am yn ol yr addewid. O`r diwedd, canfod ein hunain ar gwch hefo twr o bobl leol, a´u llwythi trymion o nwyddau yn barod i werthu i bobl y tir mawr. Mae`r brodorion yma yn gwisgo hetiau crynion duon ar eu penau - yn wyr ac yn wragedd, a doniol oedd eu gweld yn y glaw yn gwisgo bag plastic ar ben eu hetiau i`w hatal rhag gwlychu. A son am wlychu, gwlychu nathon ni ar y cwch bach. Roedd glaw a dwr mor yn dod i mewn drwy graciau`r ffenestri, gan wlychu`r seti, a`r llawr a phopeth, a ninau`n methu a symud, fel criw o sardins poeth, chwyslyd ynghanol y bobl a`r bagiau. Roedd yr holl wres yn stemio`r ffenestr gymaint fel nad oedd y gyrrwr (oedd ar gefn y cwch) yn gweld i lle oedd o´n mynd. Ro´n i ym mlaen y cwch, ac felly yn gorfod sychu´r ffenestr efo tywel llwyd-a-fu-unwaith-yn-wyn bob pum munud.

Mi gyrhaeddon ni, a mi ddiflanodd y glaw. Mae Llyn Titikaka yn llawn brithyll. Yn ol yn Copacobana, yn wlyb ac yn llwglyd, dyma basio`r degau o stondinau oedd yn gwerthu`r brithyll. "Trucha! Trucha!" mae`r merched yn gweiddi o`u stondinoedd, ac yn rhedeg ar ol twristiaid hefo brithyll marw a´i lygaid sgleiniog yn syllu arnochi o fowlen i drio profi fod eu brithyll nhw yn well na brithyll pawb arall. Fedrwch chi fyth ddeall entrepreuneriaith yn iawn nes y dowch chi i Folivia neu Peru. Mi fedr y bobl hyn werthu trons budr ail-law i chi pe bydden nhw isho. Dyma gael ein rhwydo gan un werthwraig frithyll, ac i mewn a ni, a chael pryd anhygoel o troucha con papas fritas con limon. MMMM. I gyd am lai na dwybunt, eto.

Dyma wario pob boliviano ar anrhegion (er fod y bacpac yn orlawn yn barod, bydd rhaid i rhywbeth gael fflich, beryg), a ffwrdd a ni i Peru.

Stop cyntaf Peru - Puno. Tref arall ar lan Lyn Titikaka. Dyma wlad ddrytach, o beth. Mi gawson ni drio Alpaca (math o llama). A plat o chinese am ddwybunt. Mae yma rickshaws ymhoban, i gyd yn canu corn ac yn ymladdd hefo´r tacsis gwallgo am y ffordd. Màe o´n wirioneddol beryg bywyd trio croesi´r ffordd.

Enghraifft arall o entreupreneuriaith - mae`r dyn casglu tocynau ar y bws i Puno wedi ein perswadio i aros mewn hostel benodol ar ol cyrraedd. Dyma gyrraedd, a dyma`r dyn yn ein hel i mewn i dacsi, ac yna yn neidio i mewn i boot y car. Cyrraedd yr hostel, a mae`r dyn yn rhedeg i fyny i´r hostel, ac yn ploncio ei hun tu ol i´r ddesg. Wedi llwyddo i`n cael i aros yn yr hostel, mae´n trio gwerthu tour i lyn Titikaka i ni. Mae´n llwyddo, ac yn diflannu mewn cwmwl o fwg. Pwy ydi´r dyn hwn? Ai gweithiwr bws? Ai perchenog hostel? Ai trefnwr teithiau? Ai ffrind i bawb a phopeth? Trwy gydol hyn oll mae yn clebran ar ei ffon symudol, yn sibrwd geiriau o gariad ac addewidion i ryw ferch lwcus...cyn i`r ffon ganu unwaith eto, ac yntau yn esgusodi ei hun y tro hwn gan esbonio "it`s the bloody wife".

Y bore wedyn, i ffwrdd a ni ar gwch unwaith eto, ar ochr Peru i Lyn Titikaka, am yr ynysoedd sy`n arnofio.

Mae degau o ynysoedd man-made yn arnofio ar Lyn Titikaka. Mae nhw wedi cael eu gwneud gan flociau o fwd, a gwiail ar eu pennau. Mae brodorion y llyn yn adeiladu tai ar eu hynysoedd, ac yn magu teuluoedd a chychwyn busnesau gwerthu crefftau i dwristiaid. Mi gyrrhaeddon ni´r ynysoedd anhygoel hyn, a chael ein croesawu yn yr iaith Quetchua gan ferched mewn ffrogiau llachar o lliwgar a phlethu duon hirion i lawr eu cefnau. Roedd y llawr yn sbwnji, yn rhyfedd iawn, ac yn hawdd iawn dychmygu fod y llyn o fewn chydig metrau dan ein traed. Mae`n rhaid i´r brodorion adnewyddu´r llawr yn gyson, rhag ofn disgyn drwy dwll i´r llyn! Mae nhw´n teithio ar gychod bach i nol gwiail i adeiladu´r ynysoedd. Does dim trydan yma - ond mae ganyddyn nhw solar panels, a mi welson ni hyd yn oed teledu bach mewn un bwthyn. Mae´r ynysoedd yn fychan iawn, dim ond ychydig fetrau sgwar o arwynebedd. Pan fo gwynt, mae peryg i`r ynysoedd gael eu chwythu filltiroedd oddi-wrth eu cymdogion. Felly, mae`r ynyswyr yn angori eu hynysoedd i lawr hefo llinynau o phegiau!

Ymlaen a ni mewn cwch wedyn i ynys naturiol, o`r enw Amantani. Fama, roedden ni´n cael aros noson hefo teulu ar yr ynys. Mae gan frodorion yr ynys fywyd syml iawn - yn ffermio, pysgota a gweu i wneud bywoliaeth. Yn ein cartref dros-dro ni roedd y mam a´r tad, dau fab, nain a hogan fach (gafon ni`m esboniad pwy oedd hi) yn byw. Roedd y stafelloedd yn hollol syml, unwaith eto. Dim golau, ond canwyll. Concrid ar y llawr, drws sheet sinc. Roedd llysiau yn sychu ar y lloriau ymhobman, math gwahanol o datws bob un - mae son fod dros 200 math gwahanol o datws ym Mheru. Roedd y toilet ar waelod yr ardd - dim fflysh, dim papur, dim tap na sebon na dim. Doedd dim dwr yn rhedeg yn nunlle, sut oni fod i olchi fy nanedd?!

I ginio, mi gafon ni reis, tatws, tatws o fath gwahanol, a lwmp o gaws sych. Yna paned o ddwr berwedig hefo perlysiau o`r ynys ynddo - fel te mint cryf, oedd i fod i helpu tuag at effeithiau`r uchdwr.

I swper mi gafon ni gawl quinoa, reis a mwy o datws o bob math.

Doedd dim cig, na physgod na dim math o amrywiaeth oni bai am lysiau a mwy o lysiau.

Yn y prynhawn, dyma gyhoeddi fod rhaid i ni ddringo mynydd. MYNYDD!! A ninnau yn colli`n gwynt hydnoed yn taro rhech. Roedd y ganwyll hyd yn oed yn cystadlu am ein ocsigen ni hyd yn oed. Pachadada oedd y mynydd - Y Tad Daear (a chymar Pachamama, Y Fam Ddaear). I fyny a ni, a cherdded am oriau maith i fyny´r llwybr igam ogam, yn meddwl tybed faint o amser a gymerai i´n cyrff ni benderfynu nad oedd posib cario ymlaen heb ocsigen a disgyn yn swp yn fwyd i`r mulod a´r lindys. Ond mi gyrhaeddon ni`r top. Dyma fan mwya anghysbell y byd, mae`n rhaid. Ar taith hirfaith i Puno, taith bell arall ar y cwch dros lyn enfawr, a chyrraedd ynys bellenig, a cherdded am oriau dros gaeau dros wrychoedd, i fyny ochr serth y mynydd... dyma ddod wyneb yn wyneb a degau o ferched brodorol hefo`u stondinoedd yn gwerthu blydi Snickers. I give up.

Fin nos, dyma ni`n cael cyfarwyddyd i wisgo yng ngwisg draddodiadol y brodorion, a dod i neuadd y dref am barti. Felly dyma ni i gyd yn gwisgo mewn sgertiau lliwgar, a blows a siol, a baglu dros greigiau a mulod a lindys yn y tywyllwch dudew du i gyrraedd neuadd y dref. I mewn a ni. Roedd llawr y neuadd yn wag. O amgylch y llawr roedd stolion. Ar y stolion roedd llond dwrn o dwristiaid blin a blinedig yr olwg, yn edrych yn stiwpid mewn gwisgoedd brodorol - y gwyr mewn ponchos a hetiau lliwgar. Roedd ambell dwrist hen yn hepian cysgu dan ei het. Roedd y neuadd mewn tawelwch llethol, heblaw am abell i swn dylyfu gen, neu fflash camera. Roedd yna far yn y gornel - bwrdd pren yn dal dwr, coke, a poteli cwrw truenus yr olwg, hefo hen ddynes oleia cant oed yn eistedd tu ol i`r bwrdd yn aros yn eiddgar am gwsmeriaid. Roedd yr holl beth yn reit pathetig a deud y lleia. Roedd o`n fy atgoffa i o`r bennod o Inbetweeners lle mae`r hogiau yn mynd i`r Caravan Club (cofio!!!). Roedd ne hyd yn oed un twrist twmffatlyd yng nghanol y neuadd yn ei poncho a´i sbectols pot jam yn dawnsio´r robot i gyfeiliant tawelwch.

Mi adawon ni ar ol chwarter awr.

Tu allan, roedd yr awyr yn drwch o ser. Yn y tywyllwch naturiol yma, roedd pob un sbecyn o olau yn y nos yn dangos yn glir, ac yn gwneud y daith yn ol i`r tyddyn yn anoddach fyth gan fod ein llygaid wedi eu hoelio i fyny yn hytrach nac ar y llawr.



Mi ryden ni wedi cyrraedd Cusco bellach. Mi gafodd ein bws ei stopio am ddwyawr ar y ffordd, gan fod y bobl yn cynnal protestiadau led led y wlad. Mi gafodd bws ffrind i ni ei atal fin nos echnos, a bu`n rhaid iddo gerdded teirawr i Cusco gyda´í facpac ar ei gefn yn y tywyllwch i gyrraedd pen ei daith. Bu pobl yn taflu cerrig at fysus yn mynd i Machu Picchu ddoe.

Fory, ryden ni yn cychwyn taith 4 diwrnod o gerdded tuag at Machu Picchu. Pachamama mia!

No comments:

Post a Comment