20/06/2010

Tatŵs a phwdin reis

Erbyn diwedd y blogiad hwn mi fyddwch chi´n gwbod os nesh i ffeindio llun hyfryd ar wal yr Irish Pub yn Cusco a´i gael wedi ei datŵ-io ar fy nghefn, neu beidio.

Cusco Cusco Cusco, dyma i chi ddinas hyfryd. Mae plazas mawrion ar bob cornel, a dathliadau a dawnsio ar y stryd ymhobman. Mae fel un parti mawr bywiog. Mae Cusco yn dathlu pen-blwydd, a dyna pam fod y traffig ar stop a´r dre i gyd yn dawnsio.


Noson allan yn Cusco. Joy joy.

Oherwydd y dawnsio, mae bwyd stryd ymhobman - yn rhad, yn flasus, yn llawn bacteria, mmm hyfryd. Mae pres yn brin ar ôl gwario cymaint ar Machu Picchu, a´r tatŵ (os y ces i un, dydw i ddim am ddatgelu hynny eto). Felly i ffwrdd a ni ryw noson i chwilio am swper rhad. Mi gawson ni : cibab cyw iâr, sosej a chaws mewn bater crempog, popcorn a phwdin reis hefo jam i gyd am 4soles a hanner, sydd yn cyfateb i un bunt yn unig am bedwar cwrs. A dyna ni bellach wedi syrthio mewn cariad hefo bwyd stryd, a neith ddim byd arall mo´r tro. Deni´n bwyta doughnuts, reis, brechdanau cyw iâr, lolipops, pob math o bethau - hwyl fawr 5 y dydd, helo stwnsh.

Cusco Cusco Cusco, dyna i chi ddinas hyfryd - ie wir, ond does mond hyn a hyn o fwyd stryd a dawnsio, a rhywun ar bob llaw yn trio gwerthu "massage massage, waxing, pedicure, manicure, sunglasses, painting miss, later maybe miss" all rhywun ei gymryd. A dyma benderfynu gadael. Ond roedd yn rhaid aros un noson fach arall gan fod ffrindiau o´r salt flats yn cyrraedd ar y bws dros nos, a roedd yn rhaid dweud helo a hwyl fawr, unwaith eto!

Felly fe helo-wyd a hwyl-fawr-wyd, a paratowyd i adael am y stesion fysus ac am Arequipa. Ond och a gwae, cafwyd (dwnim pam fo fi wedi sticio yn y don amehersonol yma) sioc a siom pan gafwyd wybod nad oedd y bws yn gadael wedi´r cyfan. Mewn gwirionedd doedd na´r un bws yn gadael am o leia dau ddiwrnod arall, gan fod streic genedlaethol dros nwy yn rhoi stop ar bopeth ym Mheru.

Doedd dim amdani felly ond checkio i fewn i´r hostel am y trydydd tro. Mwy o barti, mwy o fwyd stryd. A ninnau yn Cusco bellach ers wythnos a hanner, a wedi dod yn rhan o´r dodrefn bron yn yr hostel - yno yn hirach na rhan fwya o´r staff byrhoedlog mewn hostels o´r fath. A dyna lle´r oedden ni´n gorfod gwylio gêm y Saeson hefo´n ffrindiau o Loegr yn trio anwybyddu eu clochdar Seisnig, ac yna´n gorfod trio cuddio ein diddanwch pan na lwyddo nhw i sgorio´r un gôl.



Ga i gyflwyno dyn o´r enw Juan i chi - dyn o Buenos Aires, yn wreiddiol, ond yn byw yn Cusco ac yn gweithio yn ein hostel ni yn The Point. Job Juan oedd edrych ar ôl y ddesg yn ystod y nos. Roedd o hefyd yn dawnsio hefo unrhyw un oedd yn pasio´r ddesg fin nos, neu yn gofalu fod pawb yn iawn - "can I get you anything? Tea, coffee, stripper?". Roedd o´n gwisgo hwdi enfawr a´r hwd dros y rhan fwyaf o´i wyneb, a hwnnw´n wyneb hagr oedd yn edrych ar sâl neu´n flinedig o hyd. Bob bore, roedd Juan yn dod i´r ardd ac yn hanner disgyn i´w gadair a sigaret yn ei law, yn cwyno yn ei acen Archentinaidd ddoniol fod y "nasty cleaners think it funny to wake me up again, I get no sleep never." Bob yn hyn a hyn roedd ei hwd yn disgyn, i ddangos ei wallt oedd wedi ei dorri fel mohican. Roedd Juan yn ddyn ofnadwy o ddoniol, ond doedd o byth yn gwenu. Un diwrnod mi ddoth o hyd i mi yn cysgu ar y soffa, a gofyn i mi "Where are more Wales girls, I have found Finding Nemo, let´s watch." Ffwrdd a fo i chwilio am Rhean a Lowri a gwylio´r ffilm fu raid. Mi ath o o amgylch y lolfa yn rhoi blanced dros bawb, a mi nath o lond bwced enfawr o bopcorn. Mae wsnos a hanner yn amser hir mewn un lle pan yn teithio, a mi oedden ni bron a chrio yn deud ta ta wrth rhen Juan.

Yndi mae wsnos a hanner yn amser hir, a beth i´w wneud pan fo wythnos yn hir a chwithau yn styc yn Cusco? Wel cael tatŵ siŵr iawn. Dyma ni wedi dod o hyd i barlwr tatŵ glannach na bathrwm Mr Muscle. Parlwr sheini, lliwgar, proffesiynol yr olwg. Ro´n i wedi gweld llun hyfryd o adar bach ar wal Paddy´s Bar ryw noson, a wedi tynnu ei lun.

Dyma fi´n dangos y llun i Abel, y dyn tatŵ, a gofyn am goeden a seren, a dyma fo´n tynnu llun. Wel roedd o´n berffaith. Felly dyma fi´n cael tatŵ. A dyma Lowri yn cael tatŵ. A dyma Rhean yn cael tatŵ. Dyna i chi hwyl, a lot o boen mewn un diwrnod!



Neithiwr, fe adawon ni am Arequipa, ar ôl ffarwel tristach na thrist hefo pawb. A dyna pryd digwyddodd yr incident. Ar y bws dros nos oedden ni, yn flinedig, yn druenus o gysglyd. A mi ddoth yr hen ddynes fach o amgylch hefo bwyd i ni. Brechdan jam, bisgedi, pwdin reis. PWDIN REIS, mewn bowlen fach bolysteirin a thop plastic. Ond roni yn rhy flinedig i ddelio a phwdin reis ar yr awr honno, felly dyma fi´n ei ysgwyd i wneud yn siwr fod y top yn ddiogel. Diogel. Mi rosh i o yn fy mac-pac. Roedd y ffordd yn erchyll, yn droeadau yn fymps, yn bopeth ond yr amgylchiadau cywir i ofalu nad oedd top y pwdin reis yn aros ar y pot pwdin reis. Ac o´r herwydd, mi ddaeth top y pwdin reis oddi ar y twbyn pwdin reis, a mi aeth y pwdin reis dros bopeth.

Carma am y llaeth yn yr hand-bag incident, efallai? (bydd y darllenwyr ffyddlon a chraff ohonochi yn gwybod am be dwi´n sôn!

1 comment:

  1. wawawiwa!
    ai lyf y tatw - hynod ddel! a ma'r seren 'na mooor ciwt!
    Cusco'n swnio fel dinas hyfryd - dwi'n ofnadwy o genfigenus! Er, ma carma'n hen glomen weithie, a nath y stori pwdin reis neud fi'n drist drist drist.
    Methu tiii! xxxxx

    ReplyDelete