01/06/2010

La Paz a Charchar San Pedro


La Paz hefo mynydd Illimani yn y cefndir.

Dwnim lle i gychwyn, wir i chi, mi ryden ni wedi cael wythnos mwya gwallgo ein bywydau. Dwi`n gwbod bo fi`n deud hynne`n aml iawn ar y blog yma, ond y tro hwn dwi`n ei feddwl o, a dwi`n gaddo na i fyth ddefnyddio`r frawddeg eto yn fy mywyd, achos does dim byd yn gallu bod yn mwy gwallgo na torri mewn i garchar enwoca`r byd i dreulio`r diwrnod hefo Llywydd y clwb moto beic anghyfreithlon, Bandidos.

Ond gwibio ymlaen yn ormodol, gadewch i mi gychwyn yn y cychwyn.

Roedd Sucre yn gret - dyma brif-ddinas gyfansoddiadol Bolivia, a roedd o`n lle neis iawn. Mi dreulion ni ddiwrnod cyfa mewn marchnad enfawr, a chael hot dog i ginio. Yna, mi welson ni hyn:



ac ar ol gorfen cyfogi, dyma fi`n meddwl tybed a ydi`r hot dogs yn Bolivia yn llythrennol?

Yna i ffwrdd a ni i La Paz ar fws dros nos. Ro`n i`n falch iawn ei bod hi`n dywyll, gan mai dyma ffordd berycla`r byd yn ol y son - gan ei bod yn troelli yn uchel uwch dibyn serth. Roedd pawb yn nyrfys, heblaw un dyn bach o`m mlaen i a dreuliodd yr 14 awr gyfan yn chwyrnu nerth ei drwyn. Ar deithiau bws hir mae ffilms yn cael eu dangos i ddiddanu`r teithwyr. A wir i chi dwi`n methu a dallt y logic tu ol i`r dewis o ffilm sy`n cael eu dangos. Ar y daith erchyll a pheryglus hon, roedd yn rhaid i`r gyrrwr ddewis dangos Final Destination (i`r rhai ohonoch chi sydd heb weld y ffilm yma, mae hi`n ffilm arswyd sy`n dangos criw o ffrindiau yn cael eu lladd mewn ffyrdd ofnadwy o afiach bob yn un ac un). Wel roedden ni bron a chrio. Ychydig wythnosau yn ol, dyma ni`n cael ffilm oedd yn LLAWN o saethu saethu saethu, cyffuriau, gwaed, popeth afiach a ellir eu dychmygu...a mi roedd na leian ar y bws! Heb son am y degau o blant sydd bob tro yn bresennol. Rhyfedd iawn, ddallta i fyth.

Dyma gyrraedd La Paz am 10am, a hostel gwyllt y Wild Rover. Yn sydyn dyma criw trip y salt plains i gyd yn dod i`r golwg, newydd ddod adre o`r clwb nos. Aha, roedd fama am fod yn hwyl!

Mae bar yn y Wild Rover, a partis gwyllt, a does dim rhaid talu am ddim byd nes y diwrnod olaf. Felly helo tab, ta ta cof a celloedd ymenyddol, a helo parti toga! Ac o fewn ychydig oriau, mae`r camera yn cofio ein bod ni`n edrych fel hyn:




Pwy ydi`r dyn blewog acw?


Y bore wedyn, mi daflais i fyny ar y stryd o flaen plisman Bolifian ar y ffordd i`r banc. Ychydig oriau yn ddiweddarach roedden ni yn y carchar. Ond gadewch i mi esbonio.

Cyn mynd i deithio, mi ofynodd Swyn (fy annwyl gyfneither sydd wedi profi`r gwylltni yma i gyd o`r blaen ar ei thaith i Dde America`r llynedd) i mi os o`n i wedi darllen Marching Powder. Doeddwn i heb. Dyma`r llyfr oedd yn gwneud ei rownds o amgylch y bacpacwyr. Felly dyma ei brynu i fynd gyda fi. Llyfr ydio am smyglwr cyffuriau o Loegr o`r enw Thomas MCFadden a gafodd ei ddal yn trio smyglo cocên via Maes Awyr La Paz. Mi gafodd ei daflu i garchar drwgenwog San Pedro. A dyma`r carchar rhyfeddaf erioed.

Yng ngharchar San Pedro, mae`n rhaid i garcharorion dalu ffi mynediad, ac yna mae`n rhaid iddyn nhw brynu eu celloedd eu hunain, neu rentu ystafell neu ran o ystafell gan garcharorion cyfoethocach. Os nad oes gennych arian, mae`n hawdd iawn llwgu i farwolaeth, neu marw o ddiffyg meddyginiaeth, gan fod yn rhaid talu am bopeth.

Mae yna fwytai yn y carchar a siopau, a charcharorion yn ceisio gwneud bywoliaeth drwy unrhyw fodd bosib gyda`r sgiliau sydd ganddynt. Does dim gwisg benodol gan y carcharorion, a dydi`r guards ddim yn ymyryd prin ddim, oni bai am ambell i raid am gyffuriau, ffonau symudol neu unrhyw beth arall felly. Mae`r guards yn gwybod yn iawn fod y pethau hyn ymhobman yn y carchar, wrth gwrs. Ond drwy`r raids mae nhw`n gallu gwneud pres o`r cynyrch mae nhw`n ei gymryd, ac yn cael elwa o ffeinio`r carcharorion.

Mae gwahanol rannau i`r carchar, yn amrywio o rannau tlawd un seren, i`r rhan cyfoethoca a drytaf pum seren - lle mae`r carcharorion gwleidyddol dylanwadol, a`r barwniaid cyffuriau mawr yn byw.

Mae ffatrioedd a labs cynhyrchu cocên o fewn y carchar ei hun, ac mae`r carcharorion yn delio cyffuriau gyda`r tu allan. Mae son fod y cocên puraf yn cael ei gynhyrchu yma, gan eu bod yn cael llonydd i`r gynhyrchu, gan dalu i`r guards eu hanwybyddu. Mae gwragedd a phlant y carcharorion yn byw yn y carchar hefyd, ond mae rhwydd hynt iddyn nhw fynd a dod fel y mynnent. Dyma wrth gwrs sut mae dodgy dealings yn digwydd, fel y cewch weld yn y man, wrth i blant smyglo cyffuriau a negeseuon i`r tu allan.

Tra yn garcharor yn San Pedro, (ar ol blynyddoedd o uffern) mi lwyddodd Thomas MCFadden i sefydlu ei hun fel Tour Guide yng ngharchar San Pedro. Roedd yn gwahodd tramorwyr i`r carchar, gan dalu`r guards yn hael, a mynnu fod yr ymwelwyr yn perthyn iddo mewn rhyw fodd. Yn ystod diwedd y 1990au, roedd y tour o amgylch y carchar wedi tyfu yn ei boblogrwydd i`r fath raddau nes cael ei gynnwys fel un o`r `pethau i`w gwneud` yn La Paz yn y teithlyfr dylanwadol Lonely Planet.

Yna, mi ryddhawyd Thomas o`r carchar yn 2000, ac mi daeth y tours mwy neu lai i ben, gyda`r carchar yn atal ymwelwyr.

Hyd nes yn diweddar, hynny yw.

Roedd rhywun yn rhywle wedi cael gafael ar rif ffon un o`r carcharorion, a dyma ffonio, a gofyn plis a gewn ni ddod i mewn. Dim problem, medde fynte, byddwch wrth y gornel hon a hon am hyn a hyn o`r gloch, a mi yrra i rhywun i`ch nol chi.

Roedd hyn oll yn swnio yn rhyfedd iawn i fi. Ond dyma fynd at y gornel, ac yn wir i chi dyma wraig fach Bolifian yn dod i`n ol ni, a ffwrdd a ni yn nes at y carchar. Ond mae`n anghyfreithlon mynd i`r carchar, wrth gwrs. Felly roedd yn rhaid i ni loitran am awr a mwy ar stryd brysur wrth i`r ddynes druan lechu wrth y gornel yn aros i`r stryd fod yn wag, ac roedd yn rhaid mynd bob yn ddau neu dri i osgoi codi cwestiynau.

Yn sydyn reit, dyma ni drwy`r drws dur enfawr, ac i fewn i`r carchar. Dyma`r plismyn yn edrych trwy ein pocedi, ein bagiau ac o dan ein dillad i wneud yn siwr nad oedden ni yn smyglo dim i mewn. Drwy ddrws enfawr arall wedyn, a dyma ni i iard fawr yn llawn carcharorion yn chwarae volleyball.

Dyma Jose yn dod i gwrdd a ni, ysgwyd ein llaw ni a`n gwahodd ni i gell i eistedd. Doedd o`n gwrthod dweud am ba drosedd oedd o yno, ond roedd o`n brolio mai fod oedd i fewn am yr ail drosedd waetha yn yr holl garchar. Fyse chi byth yn deud, roedd o`n ddyn neis iawn i`w weld.

Dyma ni`n dringo grisiau sigledig, ac i fewn i un o gelloedd dryta`r carchar yn yr ardal 5 seren. Dyma gartref Pepe a`i bodyguard. Y peth cynta yr oeddech chi`n ei sylwi ar Pepe oedd fod ei glust wedi mynd, roed o wedi ei thorri i fwrdd rhywbryd yn rhywle. Dwnim os oedd o`n meddwl mai Vann Gough oedd o ne rwbeth. Ond wir i chi roedd ne olwg perryg arno fo! Dyn mawr mawr tywyll heb wddw, dim ond cyhyrau. Ond roedd o`n chwerthin fel hogyn bach! Pepe oedd cynrychiolydd y grwp motobeics drwgenwog Bandidos yn Ne America, sydd a`u moto "We are the people our parents warned us about" yn ddigon i neud i unrhyw un lenwi ei drowsus. Roedd o`n heirio aelodau ifanc o`r carchar i ymuno a`r Bandidos, ac roedd o`n edrych ar eu holau gan gynnig llety a bwyd iddyn nhw, ac ambell job (doedden ni`m isho gwbod be - roedd o`n ffrindiau efo sawl hit man ayyb).

Yn y stafell roedd ganddo fo wely i`w warchodwr, sawl soffa, teledu a chyfrifiadur. Mi gerddon ni i mewn, ac roedd oddeutu 20 o dwristiaid eraill yn eistedd o amgylch y stafell yn yfed cwrw, yn smocio, yn sniffian cyffuriau ac yn siarad a gwahanol garcharorion.

Roedd y ffi i ddod i mewn i`r carchar yn 550 Bolivianos (tua 55punt), sydd yn ddrud, ond roedd y pres yn cael ei rannu yr holl ffordd i fyny cadwyn pwer y carchar o`r guards di-nod i`r bos mawr ei hun. Ond roedd hwn yn chwyddiant enfawr o`r ffi roedd Thomas MCFadden yn ei godi yn y 90`au (10 Boliviano!!).

I wneud mwy o bres iddyn nhw eu hunain o`r twristiaid, roedd y carcharorion yn gwerthu cwrw (4punt y can), gwirodydd (fesul potel), canabis(3 punt y sbliff), cocen (1o punt y gram) a dwr (2 punt y litr), a llun ohonon ni yn y carchar (1.5 punt). Roedden nhw`n cynnig gwasanaeth smyglo cyffuriau o`r carchar hefyd, drwy dalu i blentyn neu wraig sefyll ar gornel y stryd tu allan i wneud y cyfnewidiad. Roedd y ffi mynediad wedi talu i unrhyw blismon ar y tu allan i droi ei lygaid i`r cyfeiriad arall.

Yna mi aethon ni ar daith fechan o amgylch y rhan `cyfoethog` o`r carchar i weld y lle. Doedd o`m yn neis iawn. Doedden ni``m yn cael mynd i`r rhan dlawd gan fod y ddwy ochr wedi cael rhyfel efo bomiau petrol bythefnos yng nghynt.

Yna i ffwrdd a ni o`r cachar, gan ffarwelio efo`n ffrindiau newydd heb gofio tan wedyn eu bod nhw`n rhai o`r bobl waetha sy`n bodoli yn y byd yma.

---------

Fin nos, dyma pawb yn son fod yn rhaid ymweld a`r clwb Route 36. Roedd `na ryw buzz rhyfedd ynglyn a`r clwb, a neb yn siwr iawn pam na beth i`w ddisgwyl. Mi gawson ni gyfeiriad, a ffwrdd a ni. Ond doedd dim son am unrhyw arwydd na drws yn arwain i`r clwb yma. Mi gyrhaeddon ni yn oriau man y bore, a meddwl mae`n rhaid ei fod o wedi cau a fod shutters yn cuddio`r arwydd. Ond yn sydyn reit dyma criw o heddlu yn dod i`n cwfwr ni. Dyma ni`n petruso, a meddwl oo diar a ddylse ni fod yn y lle rhyfedd yma, pan ddaeth plismon atan ni a gofyn yn Saeseg, `Do you want to get in?`. Doni`m yn gwbod os mai tric oedd hyn felly dyma ni`n cadw`n dawel. Dyma`r plismon yn ochneidio, a tynnu walkie talkie o`i boced ac yn mymblo rhywbeth. Yn sydyn reit, dyma ddrws mawr a shutters yn agor ar y stryd, a dyma dyn o`r tu mewn yn gweiddi, "get in get in, quickly", ac i mewn a ni i ryw goridor tywyll du. Unwaith oedden ni i gyd mewn, dyma`r drws ar bendraw`r twnel yn agor, ac yn llenwi`r lle a golau llachar a cherddoriaeth uchel. A dyma ni mewn yn Clwb Nos Route 36, gwallgo.

Dyma ni allan ychydig oriau wedyn i`r stryd, a hithau yn 8am ac yn olau dydd, ac yn meddwl tybed ai breuddwyd ryfedd oedd yr holl 24 awr wedi bod?

2 comments:

  1. Leusa dwi'n sori, ond dwi'n gwybod y gwir felly ma rhaid i mi ei rannu efo'r byd.

    Ti jesd yn gneud hyn i fyny wan.

    Siriys ddo, blaw bodo'n hollol wallgo, chi'n swnio fatha bo chin cal amser gwych. cariwch ymlaen achos dwi'n edrych mlaen i ddarllen y blog bob tro mana un newydd x

    ReplyDelete
  2. Waw! Swnio lot gwell na'n tour ni o La Paz! (Er, nathon ni fethu'r bws ar yr ail stop ar ol mynd am fechdan.) Byddwch yn ofalus a dal i joio. Pob lwc ar Machu Pichu, cnoi digon o ddail ydi'r tric. Grisial xxx

    ReplyDelete