26/05/2010

Salar de Uyuni a chyrraedd Bolivia

Dyma hanes tri diwrnod oeraf fy mywydd.

Dyma godi ben bore yn San Pedro de Atacama (Chile), a neidio mewn i`r bws hefo`r criw gwallgo o bobman yn y byd, a dreifio i fyny droedfedd fesul munud i`r Gogledd, ac at Folivia.

Wel os oedd y ffin rhwng yr Ariannin a Chile yn drefnus a llafurus, roedd y ffin rhwng Chile a Bolivia yn anything but, ys dywed y Sais. Y cwbwl oedd y `border control` oedd cwt clai bychan ynghanol diffeithwch y mynyddoedd. Roedd hi`n bwrw eira. Dyma neidio allan o`r bws, a chael ein croesawu gan bicnic bychan ar fwrdd plastic. Ar y bwrdd roedd bara, sbam, caws, iogwrt, a sacheidiau o ddail coca. Y rheswm am y dail coca ydi ei fod yn helpu i atal effeithiau`r uchdwr. Rhaid cymryd llond llaw o`r dail gwyrdd, a`i roi yn eich boch i`w sugno. Erbyn hyn roedden ni i gyd yn tuchan fel ych, a`n pennau yn ysgafn fel balwns, ac yn falch o gael rhyw fath o help.

Wedi stampio ein passports (wehei - mwy o stamps, dwi mor cwl), dyma ni`n rhannu`n grwpiau i ffitio i`r jeeps 4x4 enfawr. Dyma ni`n canfod ein hunain mewn grwp hefo dau Sais - Ben a Sam, a un dyn barfog o Ganada - Brandon. Wel dyna i chi hwyl a sbri. Dau hogyn ifanc o ysgol breifat yn Llundain oedd y Saeson, yn amlwg yn trio rebelio yn erbyn eu magwraeth, gan fod y ddau yn edrych fel rappers o ryw fand punk yn eu capiau ffordd rong rownd a`u shorts lliwgar! Roedd gan Ben gitar racs o Chile, a roedd Sam wedi dwyn bwced i`w iwsho fel dryms, a cwbwl nathon nhw oedd canu a `skankio`(ryw ddawns hollol wallgo) am y tri diwrnod cyfa. Enw ein gyrrwr oedd Walter. Roedd o`n edrych tua 12 oed - llawer rhy ifanc i ddreifio jeep! Doedd ganddo fo`m gair o Saesneg, ond bob yn hyn a hyn roedd o`n cynnig "You want Poppylopp?" ac yn cynnig paced enfawr o lolipops i ni.



Y bore cynta ar y daith mi stopio ni wrth bwll cynnes naturiol yn y ddaear (hot spring). Er ei bod hi`n rhewi tu allan, dyma ni`n stripio i`n bicinis, ac yn jympio i mewn i`r pwll. Roedd o`n gynesach na bath. Roedd o`n ymylu ar fod yn rhy boeth, roedd o`n llosgi! Felly allan a ni, i dymheredd oerach nac oer o`r pwll poethach na phoeth. A dyma`r newid mewn tymheredd a`r uchdwr yn fy hitio fi (a phawb arall) fel dwrn dur, a dyma pobman yn mynd yn ddu. Ond `chydig o ddail coca`n ddiweddarach a roedd popeth yn well, ac i ffwrdd a ni i weld mwy.

Reit `te, dwisho i chi ddallt bo `run ohonon ni wedi cael ein rhybuddio o`r oerfel o flaen llaw. Roedden ni newydd ddod o San Pedro - 30 gradd. Felly dychmygwch y sioc a gafwyd pan oedden ni ynghanol yr elfenau, heb gysgod o fath yn y byd mewn gwynt cythraul a tymheredd dan y rhewbwynt. Roedd hi`n ofnadwy o oer, yn wyntog, yn rhewllyd, yn fain, yn oerach na rhagbrofion Eisteddfod yr Urdd.

Dyma gyrraedd sgubor, yn fawr mwy o gysgod na`r awyr agored, a mewn a ni i gael ein cinio. Ro`n i yn gwisgo 4 top, 1 fleece, 1 hoodie enfawr, cap, sgarff, menyg, legings, trwsus cerdded, sannau hir, sgidiau cerdded a ro`n i dal yn crynu yn bwyta fy nghinio. Yna dyma`r gyrrwyr yn dod i mewn a dweud mai yn fanno y byddai ein llety ni am y nos. O FY NUW. `Oni yn meddwl y byswn i`n deffro yn y bore yn lwmp o rew. Doedd dim ond un peth amdani. Roedden ni wedi dod a 3 litr o win coch, a potel o Pisco (diod cenedlaethol Chile a Pheru) hefo ni. Felly dyma ni yn dechrau yfed, a chanu a dawnsio a chwarae cardiau nes oedd pawb yn teimlo`n ddigon cynnes i deimlo bodiau eu traed eto. Yna i ffwrdd a ni i`n gwlau concrit (go iawn), yn ein dillad i gyd, a 4 blanced a sach gysgu, a ro`n i dal yn crynu fel concrit micsar, ac yn methu cysgu ac yn meddwl tybed a welwn i`r bore.

Mi weles i`r bore. Ac am fore hyfryd oedd o hefyd. Y rheswm am yr oerfel oedd y diffyg cymylau - roedd yr awyr yn las las, a dim byd i`w weld ar y gorwel am filltiroedd. Mi aethon ni i weld cyfres o lynnoedd - llyn coch, llyn gwyrdd, a fflamingos pinc yn sefyll yn eu canol. Y rheswm am y lliwiau rhyfedd oedd algae neu fineralau rhyfedd yn y dwr.

Yr ail ddiwrnod, dyma gyrraedd `hotel` wedi ei gwneud o halen. Mewn gwirionedd, cwt oer arall ei gwneud o slabs halen (nesh i lyfu`r wal i wneud yn siwr, mmm hallt) oedd o. Roedd fama `chydig cynnesach, ond dim lot cofiwch chi. Dyma lle oedden ni i dderbyn ein cawod gynnes ar y daith. Ond roedd hi lot rhy oer i dynnu ein dillad a mynd i mewn i`r gawod.

`Ga i gyflwyno cymeriad newydd i`r stori, sef dyn yr oedden ni yn ein alw yn Frenchy French. Mae o`n dod o Ffrainc, fel mae ei enw`n awgrymu, a dydio`m yn siarad lot o Saesneg. Roedd o`n ddyn doniol iawn yr olwg, efo sbectol a gwallt cyrtens, a roedd pob dilledyn amdano fo yn wyrdd, gan gynnwys ei fack-pack. Mi safodd o tu allan i`r ystafelloedd molchi lle`r oedd pawb yn ciwio i gael cawod, yn chwarae`r harmonica am oriau i ddiddanu pawb yn y ciw. Bob yn hyn a hyn roedd o`n diflannu tu allan, ond i ni ddod o hyd iddo fo yn trio denu lamas hefo brigau a dail i drio eu reidio. Roedd o yn cuddio mewn creigiau a gwrychoedd bob yn hyn a hyn - yn camouflague oherwydd ei ddillad gwyrdd yn gweiddi `IIWWWWWW`. Ddoth o am dro un diwrnod(yn y tywydd oer) hefo twll maint melon yn pen-ol ei drowsus a`i drons ar ddangos i`r byd.

Fin nos, yn yr hotel halen, dyma ni`n cynnau tan yn y wood burner i drio cadw`n gynnes. Ond roedd y mwg i gyd yn dod yn ol i fewn i`r adeilad, a bu`n rhaid i ni ddianc drwy`r ffenest am awyr iach. Dyma ni`n cael fflamingo a chips i swper.

Y diwrnod wedyn, dyma ni`n cyrraedd Salar de Uyuni, sef y salt plains, y gwastadoedd halen, y llyn halen enfawr sych, lle mae pobl yn mynd i dynnu lluniau gwallgo! Hwyl a sbri. Roeddech chi yn chwarae efo pellter a chamera a focus, a thynnu lluniau gwirion fel ein bod yn dod allan o botel o win neu esgid enfawr ac yn y blaen.





Reit dwisho cyflwyno mwy o bobl i`r stori. Hefo ni, roedd cwpwl o`r enw Rachel a Stuart. Roedd Stuart yn fyddar. Roedd Rachel wedi gwneud cwrs sign reading a wedi cwrdd a Stuart yn fuan wedyn. Roedden ni ar y salt plains yn tynnu lluniau o hyn a`r llall, pan ddaeth Rachel aton ni a dweud, "I want your help to do something crazy". Wel be all hyn fod, tybed? Dyma hi`n gyrru Stuart i sefyll yn y pellter ar gyfer un o`r lluniau clyfar, a dyma hi`n tynnu llond llaw o gerrig man o`i phoced. "I want you to help me spell `Will you Marry Me?` with the pebbles", medde Rachel. WEL MYN CACEN I! Roedden ni wedi dychryn, ac yn gofyn trosodd a drosodd, "what?? Are you sure? Are you crazy?", ac oedd mi oedd hi`n siwr. Felly dyma wneud hynny. Yna mi dynon ni lun o Rachel a Stuart, a`r ysgrifen ar y ddaear yn gofyn os y byddai o`n ei phriodi. Wrth gwrs doedd gan Stuart ddim syniad beth oedd yn mynd ymlaen gan ei fod yn rhy bell i ffwrdd i weld dim byd, ac yn methu clywed.
Yna dyma Rachel yn rhedeg at Stuart, a dangos y llun iddo fo. WEL AM GROEN GWYDD! Mi ddywedodd o `Gwnaf`, diolch byth, a dyma ni i gyd yn clapio a gweiddi hwre i`r cwpwl hapus.

Yna mi aethon ni i ynys ynghanol y llyn halen, oedd wedi ei gorchuddio gan cactus o bob maint. Roedd un cactus yn 900 oed. Roedden nhw`n enfawr, yn droedfeddi o uchder.

Yna mi ddaethon ni i ddiwedd y daith ym Molivia, i le o`r enw Uyuni. Roedden ni`n oer, yn flinedig, yn ddryslyd, yn fudur. Roedd Uyni yn oer, yn flinedig, yn ddryslyd ac yn fudur. Ond aros wnaethon ni, a ffarwelio hefo pawb oedd yn ddigon gwirion (neu dewr) i ddal bws yn syth i Potosi. Dyma ni`n cael motel. (Dwnim be ydi`r gwrthwyneb i`r gair clud, ond dyna beth oedd y motel). Dyma ni i gyd yn mynd i`r gwely i grio - yn dal yn ein dillad i gyd, er ein bod ni wedi eu gwisgo nhw ers 3 diwrnod yn barod.

Y bore wedyn, dyma ni`n dal bws i Sucre. Cyn cychwyn, dyma dyn yn anerch y bws am chwarter awr. Dydi fy Sbaeneg dal ddim yn gret, ond roni yn trio fy ngorau i drio dallt be oedd o`n ddeud rhag ofn fod yna rybuddion iechyd a diogelwch. Ond tua diwedd yr anerchiad, dyma fo`n tynnu paced allan o`i jaced - trio gwerthu Cod Liver Oils oedd o i`r teithiwyr, a mi lwyddodd i werthu pacedi i bron bawb ar y bws.

Dyna`r daith fws waetha dwi erioed wedi bod arni. Roedd y ffordd yn garegog, yn lympiau, yn fryniog, heb darmac na dim. Roedd y bws yn ysgwyd cymaint nes fod fy ymenydd yn crynu yn fy mhenglog. Roedd hen Folivian wedi rhoi sach o flawd ar y silff uwch ein pennau a roedden ni`n cael cot o flawd ar ein pennau, fel rhoi eisin ar gacen, am oriau. Doedd dim ond lle i un cerbyd ar y `ffordd` a bob tro oedden ni`n mynd rownd y gornel roedd y gyrrwr yn dal ei law ar y corn am hir hir - dyna swn i godi ias. Yna roedden ni`n troelli ac yn gweu ar hyd llethrau mynyddoedd,a dibyn serth yn codi`n fygythiol oddi-tanom ni.

Dyma ni wedi cyrraedd Sucre, yn un darn, o`r diwedd, a chael stafell glyd, gynnes, o`r diwedd. Hwre!

No comments:

Post a Comment