21/05/2010

San Pedro de Atacama

Dyma ni wedi teithio hanner hyd Chile i`r Gogledd, a chyrraedd tref lychlyd ynghanol anialwch sycha`r ddaear.

Mae San Pedro yn llawn cytiau bach clai sgwar, ac mewn un o rhein mae ein hostel ni. Mae yna iard gymunedol yn y canol lle mae tan yn cael ei gynnau bob nos, gan fod y tymheredd yn disgyn o tua 30 gradd yn y dydd i dan y rhewbwynt ar ol machlud haul. Dwi mewn gwely rhyfedd iawn- dwi ar top y bync bed, heb ysgol i fynd fyny (unwaith eto), a pan dwi yn llwyddo i fynd i fyny a gorwedd ar fy nghefn does yna ond gap o 15cm rhwng fy nhrwyn a`r nenfwd. Mae o`n boncyrs, dwi yn hitio fy mhen yn y to bob tro dwi`n tishan. O`r iard gymunedol, mi allwn ni weld llosgfynydd enfawr yn y pellter. Llosgfynydd marw dwi`n meddwl, dwi ofn gofyn i rhywun rhag ofn iddyn nhw chwerthin ar fy mhen i.

Ddoe, mi athon ni ar drip i Valle de la Luna (Dyffryn y Lleuad), hefo guide gwallgo gwallt cyrtens oedd yn gweiddi esboniadau yn Saesneg ac yn Sbaeneg brysiog bob yn ail. O`r herwydd, ddeallish i ddim o gwbwl o`r esboniadau daearegol. Ond dwi wedi ffeindio`r wybodaeth yma os oes gan unrhyw un ddiddordeb. Oherwydd effaith y tywydd ar y graig roedd y dyffryn yn debyg i arwyneb y lleuad. Mi gerddon ni i fyny twynen (be ydi`r ffurf unigol o twynni?)dywod i weld y machlud dros greigiau`r dyffryn. Mae`n swnio`n hyfryd iawn, ac mi oedd o. Ond roedd yna gymait o bobl eraill yno roedd o fel ffair.

Neithiwr mi aethon ni i barti mewn cae. Heddiw mae`r anialwch sycha ar wyneb daer yn ymddangos yn sychach.

Fory, mi yden ni`n mentro ar daith 3 diwrnod o hyd mewn land-drovers enfawr i weld llynnoedd halen Salar de Uni ym Molivia. Yn gwmni, bydd gennon ni 4 Sais, 3 Canadian, 1 Denmarkes, 1 Ffrancwr, a 3 Swisiad.

Roedd Ffrans o Wlad Awstria...

No comments:

Post a Comment