05/05/2010

Patagonia

Helo ffans! (fel mae George Huws yn ei ddeud) - dyma ni wedi cyrraedd Patagonia.

Puerto Madryn
Fel yr ymfudwyr o Gymru yn 1865, ein stop gyntaf ninnau ym Mhatagonia oedd Puerto Madryn. Ar ol hystl a bystl Buenos Aires roedd cyrraedd rhywle mor anial yn sioc i`r system, a roedden ni`n disgwyl gweld tumbleweed yn chwythu heibio i ni ar y stryd unrhyw foment. Doni`n methu stopio meddwl am y Cymry druan yn glanio mewn rhywle mor ddifaith, ar ol deufis caled o fordaith ar y Mimosa. Doedd yna ddim byd yn eu disgwyl nhw - dim bwyd na thir na dim byd o gwbwl.
Yn lwcus i ni, mi roedd yna hostel bach clud yn ein disgwyl ni - a thrip natur i Peninsula de Valdes. Dyma`r man i fynd i edrych am forfilod, a chanoedd o bengwins, a morloi. Yn anffodus, roedden ni yno yn y tymor anghywir, a welson ni`r un morfil, a welson ni mond tri pengwin, ac un wedi marw. Roedd yn siom enfawr ar ol ein trip i`r Sw yn Buenos Aires!

Os graffwch chi'n ofalus, mi welwch bengwin ar y dde!

Yn ol yn Puerto Madryn, dyma ni`n mentro dros y traeth mawr ac anelu am lle y glaniodd y Mimosa am y tro cyntaf. Erbyn hyn, fflag yr Ariannin sy`n chwifio yn y gwynt yno ar y clogwyn. Roedden ni`n ofni quicksand ar y traeth, felly mi naethon ni hyd 3km o star jumps, jyst rhag ofn. Daethon ni ar draws amgueddfa fechan, a heb lawer o ddisgwyliadau, i mewn a ni. A myn cacen i, roedd yr arwyddion i gyd yn Gymraeg!! Amgueddfa yn cofio`r glaniad, ac yn dathlu gwreiddiau`r Cymry oedd hi. Wedi mentro ymhellach i`r dre, mi welson ni lot o arwyddion Cymraeg, a phlaciau yn dathlu`r hyn a`r llall. Profiad rhyfedd iawn o ystyried ein bod ni mor bell o Gymru!



Y Gaiman
Os oedd gweld Cymraeg ym Mhuerto Madryn yn sioc i`r system, doedd o`m byd i gymharhu a`r hyn ddigwyddodd yn y Gaiman. Roedden ni wedi cael ebost yn dweud wrthon ni fynd yn syth i gartref Sybil - dynes annwyl iawn y bu fy chwaer yn lletya a hi oddeutu 8 mlynedd yn ol. Dyma Sybil yn agor y drws ac yn gweiddi mewn acen Archentinaidd, "Dewch i miwn, dewch i miwn, cymrwch chi baned o de?". Dyma`r croeso cynhesaf gafodd neb erioed mewn lle mor bell oddi cartref! Mae ei thy wedi ei arddurno a memorabilia Cymreig, o fflagiau i lwyau pren addurniedig a jariau.
Roedd y llety yn llawn yn nhy Sybil, felly ffwrdd a ni i dy cymdoges iddi i gysgu.
Dyma lle y cafon ni ein croesawu gan ddynes fechan fechan nad oedd yn cyrraedd ymhell talach na fy nghlun. "Negra" oedden ni i`w galw hi, ac er ein bod ni chydig yn betrus o hyn i ddechrau, ymddengys fel mai dyna oedd pawb, gan gynnwys ei hun, yn ei galw hi! Roedd ganddi gi bach du o`r enw "Negrita".
`Dydi Negra ddim yn siarad Saesneg na Chymraeg, a ninnau er ein hymdrechion yn dal yn cael trafferth mawr hefo`n Sbaeneg! Felly mi dreulion ni`r tridie nesa yn gwennu fel giat arni ac yn´nodio ein pennau fel pengwins ac yn ateb "Si! Si!" i ba bynnag beth anealladwy yr oedd hi`n drio ei ddweud neu ofyn. Cywilydd mawr i ni wir.
Un pnawn, dyma Sybil yn cael galwad ffon yn dweud fod Luned Gonzales yn mynd a ni am dro yn ei char i weld yr ardal. Ffwrdd a ni yn y car bach gwyn, yn igam ogamio ar hyd ffyrdd anwastad y Dyffryn o fferm i fferm ac o gapel i gapel, a choed melyn anhygoel yn gwibio heibio`r ffenestri.
I gartref Luned wedyn i gwrdd a`i chwaer, Tegai. Dyma lle y cawson ni baned arall hyfryd o de. Roedd y ty yn anhygoel, yn llawn hen bethau y gellid disgwyl dod o hyd iddynt mewn ffermdy Cymreig.

Luned a Tegai.

Ar ol parilla (barbeciw) yn 'Cornel Wini´ un noson, a oedd yn cynnwys coluddyn buwch a sosej gwythienau´(!) mi fentron ni i far o´r enw ´Signo'. Roedd hi bron yn hanner nos, a dim son am neb bron yn y dafarn. Yn sydyn dyma'r lle yn llenwi yn sydyn, a dyma ni'n canfod ein hunain mewn ryw glwb yn Trelew efo Clwb Kayakio'r Gaiman. Rhyfedd iawn.

Trevelin
Roeden ni ofn cael ein perswadio i fynd i kayakio, a fel dwi eisoes wedi son mewn blog o'r blaen, mi ges brofiad digon anifyr mewn kayak unwaith ar wyliau yn Croatia... Amser hel pac felly. Ar ol ffarwelio'n ddigon digalon hefo Sybil a Negra a Luned, ffwrdd a ni ar ein taith fws waethaf eto.
Roedd y bws yn hen gronc o beth, a dyma ni'n canfod ein hunain yn eistedd wrth ymyl pobl digon rhyfedd. Roedd Rhean yn eistedd wrth ymyl clobyn o ddyn, a oedd yn mynnu rhoi ei law ar ei choes bob tro roedd o'n mynd i 'gysgu'. Yna pan oedd o'n effro, roedd o'n siarad pymtheg y dwsin yn Sbaeneg am oriau, a hithau'n ateb, 'dwi ddim yn dallt. No entiendo´ bob tro, ond dal i siarad a gofyn cwestiynau oedd o. Ro'n i yn eistedd wrth ymyl ryw ddyn gwallt hir oedd yn drewi o gwrw ac yn cysgu ai ben yn pwyso ymlaen fel pyped. Roedd o'n edrych fel ryw benaeth ar lwyth Indiaid, ac mi ddiflanodd i'r nos rhywle ynghanol y paith, ar un o'r degau o stops anesboniadwy'r bws o ystyried nad oes nunlle ar y map rhwng y Gaiman ac Esquel...

Deg awr o uffern ar y bws, ac mi gyrhaeddon ni Esquel am 6am. Dal bws arall wedyn am Drevelin. Ond doedden ni'm yn gwybod lle oedden ni fod i ddod i ffwrdd! Mi lanio ni mewn ryw ysgol ynghanol y wlad, ymhell o nunlle, a'r gyrrwr bws yn gweiddi ac yn rhegi arno ni mewn Sbaeneg! Mi adawodd ni yn rhywle, a ffwrdd a ni i'r tywyllwch, hefo'n bacpacs trwm ar ein cefnau yn meddwl be ar wyneb y ddaear newn ni rwan?!

I dorri stori hir yn fyr, mi lanio ni yn ein llety Casa Verde, a fano mewn tywyllwch. Ar ol torri i mewn, a chysgu ar y soffa am ryw awren, mi ddaeth dynes fach i'r golwg. O damia, roedd hi'n rhy fore i drio esbonio mewn Sbaeneg be ar wyneb y ddaƩar odden ni'n ei wneud yn ei ystafell fyw hi ar awr mor dywyll. "Helo! Croeso! Fyse chi'n hoffi mynd i ymlacio?" meddai'r ddynes, mewn Cymraeg perffaith (gydag acen Sbaeneg), a mi arweiniodd hi ni i'r gwlau mwya cyffyrddus, mwya croesawgar, mwya clud a gysgais i ynddo erioed. Roedd y cwbwl yn teimlo fel breuddwyd, a mi gyson ni tan amser cinio.

Ond dim breuddwyd oedd o. Bibiana oedd enw'r ddynes, a pherchenog Casa Verde, yr hostel. Er nad oedd ganddi unrhyw gysylltiad a Chymru, mi roedd hi wedi penderfynu mynd i Lanbedr i ddysgu Cymraeg er mwyn cael croesawu teithwyr o Gymru i'w chartref!

I ychwanegu ar y sefyllfa ryfedd hon, roedd na ferch arall yn cysgu yn yr un ystafell a ni. Lois oedd ei henw hi, ac roedd hi'n dod o Ruthun! Byd bach!



Y diwrnod wedyn mi aethon ni i fenthyg beics, ac am dro i weld y dam sy'n cynyrchu trydan i'r Cwm. Roedd o'n hyfryd - Sion mi fyse ti yn dy seithfed nef - mynyddoedd gwyn yr Andes, ffordd syth, dail hydrefol y coed, awyr oer crisp, gauchos ar geffylau ar y ffordd. Ond roedd y daith yn bellach nac oedden ni wedi ei dychmygu, a 30km yn ddiweddarach, dyma ni'n cyrraedd yn ol, mewn coblyn o boen. Dwi dal mewn poen rwan hyn, ac yn methu eistedd i lawr.




´Wel dyna ni am rwan, amser siesta. Roedd yne Almaenes yn ein stafell yn chwyrnu neithiwr, a does ne run ohon ni wedi cysgu.
Adios am y tro,
Leusa.

p.s, unrhyw gwestiynau?!!

2 comments:

  1. O waw! Dwi yn genfigennus! Mae genna i lun bron iawn yn union yr un fath o Indeg yn Peninsula Valdes yn posio hefo pengwin!Gobeithio fod Sibyl a pawb yn ok, a dwi'n edrych ymlaen am fwy o luniau. Lle ewch chi nesa?

    ReplyDelete
  2. Mwynhau darllen yn arw iawn Leusa - mae hi'n amser Pethe Penllyn eto - wyt ti am i mi fachu darne o hwn neu sgen ti amser i sgwennu rhywbeth dy hun? Cofia fi at bobl Esquel pan gyrhaeddi di yno.

    ReplyDelete