27/04/2010

Ta ta BA

Y Stêc
Pe bydde`r stêc gesh i futa noson o blaen yn ddyn, mi fyswn i yn ei briodi. Pe bydde`r stêc yn gar, mi fyswn i yn dreifio i bobman. Pe bydde`r stêc yn dŷ, mi fyswn i yn ei brynu, yn symud i mewn, a fyswn i byth yn gadael, dim hyd yn oed i fynd i`r siopau. Dyna pa mor neis oedd y stêc gesh i noson o`r blaen, a nath o mond costio 3 punt.



Boca Juniors
"Don`t show any support for the visiting team. It`s a matter of life and death." Dim exclamation mark, sylwer. Dyna`r rhybudd y cafon ni ar ein taflen o reolau ar gyfer ein hymweliad a stadiwm y tim Archentaidd enwog, Boca Juniors. A hefo`r wybodaeth yna, ffwrdd a ni i`r stands i weld y tim yn chwarae gêm yn erbyn San Lorenzo.



Roedd o`n wallgo, roedd o`n brofiad chwalu pen go iawn. Dyna lle oedden ni`n sefyll o dan cefnogwyr y tim arall, a roedden nhw`n taflu pob math o bethau lawr arno ni, gwydrau, poteli `dwr`, balwns (!!), pob math o stwff. Roedden ni`n gwynebu cefnogwyr hard-core Boca, nathon nhw ganu a neidio i fyny a lawr am y 90 munud cyfan. Roedd ganddyn nhw ddrymiwrs samba yn chwarae drwy`r gem, yn cadw rhythm i`r caneuon gwallgo oedd yn son am pa mor wych ydi Boca, a sut mae nhw eisiau lladd tim yr hen elyn, River Plate.
Dwi ddim yn licio pel-droed, ond mi fyswn i`n mynd i weld gem Boca eto`n syth. Roedd yr awyrgylch mor anhygoel, a`r ffans yn ymddwyn mor rhyfeddol nes nad oedd angen edrych ar y gem o gwbwl!! Nath Boca ennill, 2-0. Gret - ond roedd yn rhaid i ni aros yn y stadiwm am awr, i aros i ffans y tim arall adael yr ardal.

La Bomba
Mi yden ni yn BA ers wythnos bellach, a wedi blino yn lan. Fel y dudes i yn y blogiad dwetha, mae siopau BA ar agor 25 awr y diwrnod. Does ne neb yn cysgu. Dydi dydd a nos ddim yn golygu dim yma. Dydi`r Archentwyr ddim yn bwyta eu swper nes ei bod hi`n tua 10-11pm. Dydi`r party animals ddim yn mynd allan tan ei bod hi`n hanner nos, a ddim yn mynd i`r clybiau nes ei bod hi`n 2 neu 3 yn y bore. Mi yden ni angen cwsg. Ond cyn mynd, roedd teithwyr eraill wedi deud fod yn rhaid i ni fynd i weld sioe ddrymiau La Bomba. Felly aros nathon ni am noson ychwanegol.
Wel wel sut alla i esbonio be ddigwyddodd neithiwr, yn enwedig o gofio fod na bobl barchus iawn yn darllen y blog `ma? Alla i eich trystio chi i stopio darllen? Newch chi roi eich dwylo dros eich llygaid nes brawddeg ola`r blogiad? Wel nanewch siwr, dwi wedi dal eich sylw chi bellach.
Felly i dorri stori hir ac amharchus yn fyr a pharchus...
Ffwrdd a ni yn un criw enfawr o`r hostel, efo dyn bach blewog tebyg i Che Guevara hyperactive yn ein harwain ni ac yn gweiddi VAMOOOOOOOOS dros bob man tra`n hanner cerdded, hanner hopian fel broga tuag at y tren tanddaearol. Dyma ni i gyd ar y tren, eto i gyfeliant galwadau bachog Sbaeneg y blew-ddyn. Cyrraedd La Bomba wedyn, a fanno yn llawn i`r ymylon o bobl yn neidio i fyny ac i lawr i o flaen y band dryms samba ar y llwyfan. Roedd o fel Samba Bangor, ond yn well.
Am 20 peso, roedden ni`n cael litr o stella. Do, dyna fi newydd ddeud litr o stella. Ac am 20 peso, roedd yn rhaid cael un arall wedyn.
Gorffenodd y drymio, yn swyddogol, ond allan i`r stryd a ni wedyn, lle roedd y parti ond yn cychwyn! Mewn a ni i fysus yr oedd yr hostel wedi eu gyrru i`n nol ni, a`r dyn blewog yn gweiddi `Invite EVERYONE back! Plenty of room on the buses!`. Roedden ni`n cael mwy o gwrw ar y bws - am ddim - mwy o stella, waaaaa. Roedd y bysus (roedd ne ddau, dwnim lle ddoth yr un arall) yn orlawn. Pobl yn eistedd ar ben ei gilydd, pobl yn iste ar ben y bws (cyn iddo fo symud), degau o bobl yn sefyll, a tua 5 drym yn chwarae samba. Roedden ni i gyd yn bangio to y bws efo`r dryms, roedd o fel parti samba enfawr symudol a`r ffenestri i gyd ar agor. Fel boom box ar olwynion. Dwi`n siwr bo ni wedi torri ryw fath o record am faint o bobl sy`n gallu ffitio mewn bws.



Cyrraedd tu allan yr hostel wedyn, roedd yn rhaid cael parti ar y stryd, wrth gwrs! Dyma ni i gyd yn dawnsio/drymio/neidio/hopian/canu draw i`r hostel, erbyn hyn wedi casglu llwyth o bobl random oddi-ar y stryd i ddod i ymuno a`r parti, weheeeei..



Wel, dwi am stopio yn fanne. Dwi`m yn cofio lot mwy eniwe i fod yn onnest.

Mae`n rhaid i ni adael BA heddiw. Dyden ni methu handlo dim mwy o hyn. Ffwrdd a ni i Batagonia, 20 awr arall ar y bws. Gobeithio bydd y bws yma`n dawelach na`r un gathon ni neithiwr...

1 comment:

  1. Falch o glwad bo chi'n mwynhau!

    Dewch a stêc nol fo chi i fi plis - swnio'n lyfli! Neith litr o stella os dosnam stêc ar ôl!

    ReplyDelete