08/05/2010

Bariloche

Dwi byth eto am gwyno am y daith ar yr A470 o`r Gogledd i Gaerdydd. Dwi wedi bod mewn bysus am oriau hir, oriau maith, oriau cas, oriau bwygilydd - dros y paith a drwy ddiffeithdir diflasach na diflas. Do`n i ddim yn disgwyl dim gwahanol ar y daith i Esquel i Bariloche, felly dyma fi`n syrthio i gysgu.

Awr cyn cyrraedd, dyma fi`n cael fy neffro gan griw troed-drwm o blismyn Archentaidd yn trampsio drwy`r bws. Dim byd newydd. Mae`r bysus yn cael eu stopio bron bob taith gan yr heddlu, yn aml yn oriau man y bore a ninnau`n cysgu`n drwm. Ond roedd hi`n ganol p`nawn arnon ni`n cael stop y tro hwn - a diolch iddyn nhw am fy neffro i, achos drwy`r ffenest roedd yr olygfa naturiol mwya syfrdanol ac anhygoel dwi erioed wedi ei gweld yn fy mywyd.

Roedd mynyddoedd yr Andes yn codi`n dal o`n cwmpas ni i bob cyfeiriad. Dim mynyddoedd cyffredin mo rhain - ond mynyddoedd pigog, serth, bygythiol yr olwg, tebyg i fynyddoedd mewn llun plentyn bach. Roedd topiau`r mynyddoedd yn wyn dan eira, fel eisin ar gacen Dolig. Bob ochr i`r ffordd roedd `na goed o bob amrediad lliw hydrefol posibl, o felyn i oren i goch, i wyrdd golau, coed o bob lliw a llun, ac eira yn eistedd yn daclus ar eu brigau, yn edrych mor ysgafn a darnau bach o gwmwl. Ond yr hyn sy`n gwneud yr ardal yn nodedig ydi eu llynnoedd nhw, a`r afonydd glas sy`n cuddio rhwng y mynyddoedd, ac yn gweu eu ffordd heibio`r coed. Mae nhw`n lynoedd mawr, yn lynoedd llonydd, dwfn, hen. Mae yna ynysoedd coediog yn y llynoedd, a golwg wyllt arnyn nhw - pwy a wyr pa greaduriaid sy`n llechu yno!

Dyma gyrraedd ein hostel - ar ddegfed llawr adeilad tal tal yn edrych dros y llyn enfawr. Mi ryden ni wedi dod ar draws hosteli rhyfedd iawn ar ein teithiau, a dyma un rhyfedd arall i ychwanegu ar y rhestr. Mae`r dderbynddyn (ai dyna yw`r term am dderbynwraig wrywaidd?) yn gwisgo crys gwyn a chravat, yn groes rhwng gaucho hoyw, ac gweinydd Ffrengig. Mae`r bylbs golau i gyd yn oren, sy`n rhoi teimlad sinistr a Dwyreiniol rhywsut i bobman. Mae nhw`n chwarae Cerddoriaeth New Age ar loop, ac mae o`n gyrru fi`n boncyrs. Mae yna arwyddion ymhobman. Mi gyfrish i 7 yn y toilet bore `ma. `Do not spend to much in the shower`/ `Turn off the light`/ `Don`t open the Window` ac yn y blaen ac yn y blaen. Mae fel sign central yma.

Ddoe mi aethon ni i`r ffatri siocled. Mae Bariloche yn enwog am eu siocled amheuthun! Roedd y guide bach yn ifanc, yn syth o`r ysgol, a chwarae teg enfawr iddo fo am ddysgu Saesneg, ond mam bach doni`m yn dallt dim gair. Roedd o`n dangos casgliad o hen gwpanau yr oedd y bonedd yn arfer yfed siocled poeth ohonyn nhw i ni. Yr unig beth ddalltish i o`n ddeud oedd `I like this cup most because it is huge.` Yna mi ddangosodd gasgliad o hen jygiau yr oedd y siocled poeth yn cael ei dywallt ohonyn nhw. `I like this jug most because it is huge,` meddai`r guide bach, heb unrhyw facial expresion o gwbwl. Yna mi edrychon ni lawr ar y cynhyrchiant siocled, lle`r oedd llond bwced maint un jac codi baw o siocled ffres. `Dont you just want to jump into the chocolate and lick it all up`, meddai`r guide bach, heb wên, na chwerthin na dim...Dwi`n meddwl ei fod o`n chocoholic.

Wedyn mi athon ni i kayakio. Wel mae rheini ohonoch chi sydd yn fy nabod i`n gwbod bo fi wedi cael profiad drwg iawn mewn kayak rhywle ar y mor yn Croatia un tro... Felly ro`n i yn poeni chydig, rhaid cyfadde. Ond ar fy ngwir, roedd y llyn mor llonydd a glasied o laeth (heblaw`r glasied o laeth cyflym iawn y nesh i golli mewn i dy handbag di cyn mynd i deithio, Mam - sori am hynne unwaith eto). Roedd yr awyr yn las fel lapis lazuli, a roedd popeth yn gret.

Beicio wythnos diwetha, kayakio ddoe, felly dyma benderfynu heddiw mynd i ddringo mynydd. Sion, dwi`n gwbod dy fod di wedi bod yn yr Himalayas, a dy fod di wedi bod am dro i ryw fynydd bach o`r enw Mont Blanc ryw unwaith neu ddwywaith... ond dydi hynna`n ddim byd i gymharu a`r mynydd yr esh i i`w gopa heddiw.

Cerra Otto oedd enw`r bwystfil, a roedd y daith i`w gopa yn serth. `Mae pob mynydd yn serth!` clywaf chi`n deud. Pe na bai`r mynydd yn serth, nid mynydd fyse fo, ond cae! Ond ymddengys fel bod y gair serth wedi cael ei ddyfeisio`n arbennig i ddisgrifio`r daith i gopa Cerra Otto. Roedden ni`n cropian fel defaid penysgafn, yn llithro i lawr y llethrau fel llysywod, yn crafangu am unrhywbeth oedd yn sownd i`r llawr - yn ddrain, yn goediach peryglus o ystyried fod nadroedd yn byw yma... Os oes yna ffasiwn le ag uffern, mi fydd yn rhaid dringo rhywle tebyg i Cerra Otto i`w gyrraedd o. Dwy awr o hyn y buodd raid i ni ei ddiodde, a`r haul yn ei anterth a ninnau heb ddiferyn o ddwr.

Mi ddigwyddodd rhywbeth tebyg i`r anturiaethwr T. Ifor Rees rhywle ar lethrau llosgfynydd yn Nicaragua. Roedd ei geg yn sych grimp, a dyma fo`n cofio fod ganddo dun o binafal yn ei fag. Ond och a gwae mi gafodd o siom - tun o sosejis oedd o yn y diwedd, "stwff i greu syched, nid i`w ddiwallu" medde fo.
Dyma fine`n cofio fod genai oren yng ngwaelod fy mac-pac. Tyrchu amdani aì philio - ond och a gwae, ro`n i wedi prynu grawnffrwyth mewn camgymeriad, ych a fi.

Dyma gyrraedd top y mynydd serth, a beth oedd yno...ond bwyty! Jyst fel y Wyddfa. I mewn a ni, ac archebu diod oren (dim grawnffrwyth), a sylwi fod y llawr yn troi! Na, do`n i ddim yn benysgafn ar ol yr esgyniad. Roedd y llawr yn troi. Roedd y llawr yn troi go iawn. Y syniad oedd fod cwsmeriaid yn cael cyfle i weld yr olygfa gyfan o gylch y mynydd, heb godi o`u seddi! Dyna`r bwyty mwya rhyfedd y bum i ynddo erioed.

Mi adawa i chi hefo llun o`r machlud fel y gwelais i o o`r degfed llawr yn ein hostel rhyfedd awr yn ol -


Mi yden ni yn gadael am Mendoza fory. Ryden ni yn mynd i ddysgu Cymraeg i ryw broffesor a`i wraig. YMLAEN!

No comments:

Post a Comment