17/05/2010

Mendoza a cyrraedd Chile

Ymhell cyn cyrraedd Mendoza, roedd jyngl dryms Patagonia wedi bod yn brysur. Mi gefais i ebost gan Benaeth Adran Daeareg Mendoza yn dweud ei fod wedi clywed gan rhywun oedd wedi clywed gan rhywun oedd wedi clywed gan rhywun fod tair Cymraes ar eu ffordd i Mendoza. Roedd yr Athro Dario isho i ni ddysgu Cymraeg iddo fo, a`i wraig, er nad oedd yr un dafnyn o waed Cymraeg yn perthyn i`r un o`r ddau. Yn wir, Almaenes oedd y wraig, a disgynydd i Eidalwyr a phobl y Swisdir oedd y gwr.

Felly dyma gytuno i gynnal dosbarthiadau Cymraeg, yn gyfnewid am lety yng nghartref y teulu bach ym Mendoza. Ffwrdd a ni yn hen hen citroen bach gwyrdd Dario a`n bacpacs i gyd yn y bwt, nes oedd y car yn tagu mwg ac yn methu`n lan a gwneud dros 20 myh i fyny`r elltydd.

Roedd criw o bobl a diddordeb yng Nghymru a`r iaith Gymraeg wedi sefydlu grwp o`r enw Amddiffyn y Ddraig, ac yng nghartref aelod arall o`r grwp oedd y dosbarthiadau i`w cynnal. Vilma oedd ei henw - a roedd hi a`i gwr wedi bod yng Nghymru, ac yn wir yn Llanuwchllyn, y mis Ionawr canlynol. Roedd Cymraeg y grwp yn ofnadwy o dda! Ac yn codi cywilydd ar ein hymdrechion pitw ni o siarad Sbaeneg yn eu cwmni.

Felly os oes unrhyw un yn mynd i Mendoza yn y dyfodol pell neu agos - cofiwch son, i mi gael pasio eich ebost chi i Amddiffyn y Ddraig! Rydech chi`n siwr o gael croeso cynnes, bwyd neis a llety!

Mae Mendoza yn gartref i rai o`r gwinllanoedd sy`n cynhyrchu gwin neisiaf Yr Ariannin. Felly un dydd, dyma ddal y bws i gartref Mr Hugho a`i wraig, sy`n menthyg beic i dwristiaid fel ni. Mi gafon ni ein gwahodd i rannu potel o win coch o amgylch ei fwrdd wrth i`r wraig ddangos map i ni o`r gwinllanoedd yn yr ardal. Ffwrdd a ni - Lowri, Rhean a finnau, a dau wyddel gwallgo (mae gwyddelod gwallgo yn nodweddiadol i bob stori dda) y cyfarfu ni a nhw ar y bws, ar ein beics coch sigledig o amgylch y gwinllanoedd. Ym mhob gwinllan, roedden ni`n cael blasu`r gwin oedd yn cael ei gynhyrchu yno - ac mewn ambell fan yn cael blasu siocled, a gwirodydd a chutneys hefyd. Wrth fynd o fan i fan roedd y beics sigledig yn mynd yn fwy fwy sigledig dan reolaeth y beicwyr! A hithau`n dechrau nosi, dyma heddwas yn dod aton ni ar feic modur ac amneidio ei bod hi`n amser mynd am adre. "Iawn iawn mi ewn ni ar ol y glasied nesa o win..." medde ni. Ond o na, doedd hyn ddim yn digon da, ac mi hebryngodd yr heddwas ni yn ol bob cam (neu droad olwyn) o`r ffordd yn ol i gartref Mr Hugho lle`r oedd criw enfawr o dwristiaid hapus wedi casglu i yfed mwy fyth o win! A hyn i gyd ar ddiwrnod brafiach na braf dan awyr las yr Ariannin.



Roedden ni wedi cael llawer o rybuddion ynglyn a chroesi`r border i Chile. Mae`r heddlu`n ffeindio unrhyw esgus i roi ffeins am drio mewnfudo bwyd, neu chynyrch anifeiliaid, neu bren...roedd y rhestr yn un faith iawn. Ffwrdd a ni mewn bws am 8 awr o Mendoza i Santiago, prifddinas Chile. Ar ol haul mawr braf yr Ariannin, roedd hi`n sioc dod allan o`r bws ar gyfer y border control a ffeindio ei bod hi`n bwrw eira`n drwm, a`i fod o`n chwyrlio i bobman yng ngwynt oer yr Andes. Mi fuon ni yn sefyll mewn ciws yn y border control am gyfanswm o tua dwy awr - yn trio peidio edrych yn euog (o smyglo banana neu afal!) o flaen y degau o heddlu milain yr olwg (sy`n cario gynnau - ych).

Ond mi gafon ni fynd a`n traed yn rhydd, a chyrraedd Santiago. Dyma hostel od iawn arall y cafon ni aros ynddo fo. Roedd o`n enfawr - fel palas, a chandeliers ar y to a phob math o addurniadau aur a choch. Roedd gwlau gwaelod y bync-beds i gyd wedi mynd, felly top amdani. Ond doedd `na ddim ysgol i fynd i fyny! A mi oedden nhw`n fync-beds ofnadwy o uchel, ac roedd hi`n cymryd oriau i fynd i`r gwely fin nos.

Y diwrnod wedyn mi aethon ni ar `Free Walking Tour` o amgylch y ddinas. Roedd craciau i`w gweld mewn sawl adeilad ar ol daeargryn mawr gychwyn y flwyddyn, a nifer o`r adeiladau pwysicaf wedi cau er mwyn cael eu trwsio. Mi gafon ni weld y `palas arlywyddol` lle y cafodd yr Arlywydd Allende ei saethu`n farw (neu efallai y saethodd o`i hun - does neb yn gwybod) mewn coup gan y rhai a roddodd yr unben drwgenwog Pinochet mewn grym.
Yna mi aeth y guide a ni i weld Caffi `Caffe Con Piernas`. Yn llythrenol mae hyn yn golygu `coffi hefo coesau`. Mi esboniodd y guide nad oedd coffi Chile yn gallu cystadlu a choffi Brazil neu Colombia - felly fod y Chileans wedi dyfeisio `rhywbeth gwell` - sef caffis sydd a gweinyddesau mewn bicinis yn gweini`r coffi!! Bob yn hyn a hyn roedd y rheolwr yn cyhoeddi `happy minute` a roedd y bicinis yn dod i ffwrdd!! Ofnadwy. Amser hel ein pac o`r lle gwallgo yma dwi`n meddwl. A dyma ni wedi cyrraedd Valparaiso.

Efallai fod enw`r lle yma`n gyfarwydd i chi - mi fuodd T.H.Parry-Williams yma yn 1925 - mi gafodd o ei ddenu yma gan hud yr enw. Meddai Mam ar y ffon fod llongwyr o Borthmadog yn arfer hwylio yma hefyd.
Mae Valparaiso yn lliwgar ofnadwy, a phob ty ar y degau o fryniau sy`n codi gyferbyn a`r mor wedi i beintio mewn lliwiau llachar. Mae celf a chrefft a dyluniau yn gorchuddio pob cornel o`r dref. Ond allai`m deud fod y lle yn lle neis oherwydd hynny chwaith, rhywsut. Valparaiso ydi prif-ddinas cachu cwn y byd, mi fyswn i`n dweud. Mae cwn strae yn addurno`r strydoedd - cwn o bob maint a lliw, yn drewi i`r uchelfannau, yn friwiau, yn chwain, yn dwmpathau blewog niwsans dan draed. Weithiau mi welwch grwpiau o ddeg ci hefo`i gilydd yn swnian, neu yn cysgu, ac mae fel pe bae nhw`n mynd yn wallgo wrth i`r haul fynd i lawr, a mae nhw`n rhedeg ar ol ceir, ar ol pobl, yn cyfarth a chadw swn.
Ond mae`n lle neis, er gwaetha`r cwn.



Fory, mi yden ni yn gwneud rhywbeth gwallgo, munud ola...mi yden ni am ddal bws 24 awr i ogledd Chile i ganol yr uchdwr mawr a`r llosgfynyddoedd.

Hwyl am y tro,
Leusa.


Dyma un o fwydydd cenedlaethol Chile - chips, grefi, sosej a chig, a wyau wedi eu ffrio!!

2 comments:

  1. Hahaha! 'coffi hefo coesau'! Hwna, offishali ydi'r peth mwya ffyni dwi erioed di clywed (erioed = yn ddiweddar)!
    Dwi am dy e-bostio heddiw i ddeud ein hanes diweddar (digon diflas o gymharu!)
    cariads xxx

    ReplyDelete
  2. Cen-fi-genus.
    Iawn.

    Gobeithio y gariwch chi mlaen i gael amser gwallgo iawn - mae'n braf darllen amdano!

    ReplyDelete