23/04/2010

Buenos Aires

Mae Buenos Aires mor cwl nes mae eu siopau nhw ar agor 25 awr y dydd.

Dyma ni wedi dal i fyny a`n cwsg ar ol y daith enbydus o Iguazzu, a dyma benderfynu mynd i ymweld a rhai o atyniadau pennaf BA. Ffwrdd a ni i`r Plaza de Mayo - sgwar enwog ynghanol y ddinas, lle mae pobl yn aml yn hel i brotestio yn erbyn hwn a hwn a`r hyn a`r llall. Ar y sgwar, roedd yna lwyth o faneri gwyn a glas yn gweiddi sloganau ar y canoedd o gerddwyr a twristiaid a oedd yn lownjan o gwmpas yn yr haul. Dyma fi`n estyn am fy phrase book `English-Latin American Spanish` sydd bob amser yn handi yn fy handbag...cyn ei gadw`n reit sydyn gan obeithio na welodd neb o`r protestwyr o. Cyn-filwyr rhyfel y Falklands/Malvinas oedden nhw, a dwi`m yn meddwl y byswn i a`m phrase book bach yn cael llawer o groeso ganddyn nhw, rhywsut.



Bob dydd Iau, mae`r Madres de Plaza de Mayo yn dod i`r sgwar yn gwisgo sioliau gwynion ar eu pennau hefo enwau eu plant wedi ei gwnio arnynt. Diflannodd eu plant yn ystod y 1970`au hwyr a`r 1980`au cynnar, yn ystod teyrnasiad yr unben Jorge Rafael Videla yn yr Ariannin. Roedd ei lywodraeth yn gyfrifol am `ddiflaniad` miloedd o gefnogwyr pleidiau adain chwith, ac mae mae`r Madres wedi bod yn gorymdeithio o amgylch y Sgwar ers 1977 yn mynnu atebion ynglyn a lleoliad a ffawd eu plant.

Mae`r Plaza de Mayo hefyd yn enwog oherwydd y Casa Rosada lle yr oedd yr enwog Peron ac Evita yn anerch eu cefnogwyr o`r balconi. Ar ein hymweliad ni i`r Plaza, mi welson ni falconi tebyg iawn o`r un yn y ffilm Evita - a dyma fi`n mynd i`r drafferth o ganu cytgan, a phennill cyfan o Don`t Cry For Me Argentina, a dyma Lowri yn tynnu llun i gofio`r achlysur. Ond dyma ni`n cael ar ddeall bo ni wedi cael y balconi anghywir, a ein bod mewn gwirionedd a`n cefnau tuag at yr yn go-iawn.

I ddeud y gwir, dyden ni ddim yn gneud yn dda iawn hefo`r busnes `blendio i mewn hefo`r locals``ma. Mae hi`n 20gradd yma, ac i ni mae hynny`n gynnes. Ryden ni yn mynd i bobman mewn fflip-fflops a shorts a phawb arall yn eu cotiau a`u sgeirff.

Nos Fawrth, dyma Lowri a fi yn meddwl bo ni wedi cael llond bol ar yfed lager drwy`r adeg. Felly ffwrdd a ni i chwilio am seidar mewn tacsi. Dyma ni`n cyrraedd San Telmo - pencadlys tango`r ddinas. Dyma archebu seidar, a dyma fo`n cyrraedd, mewn potel champagne, a chorcyn yn mynd POP, a bwced yn llawn dwr oer, a gwydrau gwin sgleiniog a phopeth, a sioe tango bersonol gan nad oedd neb arall yn y lle! Gwych! Ac yno ar ben y bwrdd ynghanol y cytleri arian a`r trimings i gyd yr oedd cath fach ddel yn eistedd, a dyma hi`n dod i iste ar fy nglin, a dyma fi`n meddwl fod hynny bron fel bod adre.

Dydd Mercher, dyma ni`n mynd i ardal Recoleta. Dyma lle mae`r crachach yn byw, ac yn marw - mi aethon ni i weld y fynwent enwog. Dyma lle mae Eva Peron wedi ei chladdu. Dyma fynwent ryfedd ofnadwy. Dim cerrig beddi sydd yma fel mewn rhai arferol, ond llwyth o gampweithiau pensaerniol ar ffurf eglwysi neu dai bychain, hefo pob math o gerrig drudfawr a metelau, a cherfluniau Beiblaidd drud yn addurno man gorffwys y meirw cyfoethog. Mae `tai` yn cynnwys ffenestri a drysau, a gallwch weld yr eirch yn glir fel pe baen nhw ar arddangos i unrhyw un. Roedd pob `bedd` yn fwy rhyfeddol na`r diwetha, fel pe bae nhw`n trio cystadlu a`u gilydd am yr adeilad mwyaf uchel, neu`r un mwyaf drud. Roedd man gorffwys Evita yn eithaf syml i gymharu - marbl du heb lot o drimings.

Nos Fercher, mi gwrddon ni ag Elin, a`i chariad Paul, sydd wedi byw yn BA ers 3 mlynedd a hanner. Mi aethon nhw a ni i fwyty lleol, lle`r oedd y stecs gymaint a phen dyn! Mi gawson ni hefyd drio provoleta, sef caws wedi ei roi ar y barbeciw - hyfryd, a iachus iawn! Mi fyddwn ni fel eliffantod erbyn dod adre.

Dydd Iau - mi athon ni i`r Sw. Dwi ddim isho trio cystadlu a Tudur Owen, ond dyma Sw rhyfedd iawn. Roedd yna ostrijis yn yr un caeau a`r jiraffs, ac yn yr un caeau a`r llamas - a dyma fi`n dechrau amau a oedd ceidwad y Sw yn meddwl eu bod nhw`r un un anifail gan fod gan y tri wddf hir?
Roedd yna hefyd Polar Bear yn y Sw, yn yr Ariannin. Dydw i ddim yn arbennigwr ar anifeiliaid, ond dwi`n siwr nad ydi tymheredd llethol y wlad hon yn gwbwl addas i`r arth druan.


Roedd yna anifeiliaid bychain a oedd yn groes rhwng cwningen, cangarw, a llygoden fawr yn rhydd ymhobman yn bwyta oddi ar y llawr, ac yn torheulo ar y llwybr. Dwi`n ame mai mistec oedd yr anifeiliaid rhain. Roedd ne hefyd wartheg yn y Sw, a ieir. A roedd y jiraffs a`r eliffantod mor agos nes y gallen ni fod wedi mynd am reid ar eu cefnau nhw, pe bae ni ddigon gwirion.



Nos Iau, mi gawson ni swper am ddim yn yr hostel. Mae na reswm pam ei fod o am ddim. AR y plat yr oedd ryw fyrger tebyg iawn i dafod jiraff hefo caws ar ei ben o, a llond llwyed enfawr o smash (tatws mash powdwr wedi ei gymysgu hefo dwr), neis iawn. Mae genna i annwyd, a dydwi`n methu blasu, felly mi fwytes i fwyd pawb arall hefyd.
Yna mi ddaeth dyn bach o`r enw Ivan (a gwrddon ni yn Florianopolis) a`i ffrind Thomas (o Hwngari) i`n nol ni o`r hostel a mynd a ni i weld sioe Tango. Ond cyn hynny dyma nhw`n mynd a ni i fwyty Parilla (bbq). wel daria, roedden ni eisoes wedi bwyta llond ein boliau, ond roedd yn ddigwilydd peidio archebu dim byd, felly dyma ni`n cymryd sbageti bolognese. O diar mi, am llawn. Roedd Thomas yn mynd ar ein nerfau, a mi nath o chwerthin fatha peiriant am ryw hanner awr pan ddwedon ni ein bod ni wedi bod yn astudio Cymraeg yn y brifysgol. Twmffat o foi.

Roedd y tango yn wych - a band anhygoel yn chwarae i`r dawnswyr. Mae hi`n ddawns anhygoel o glos, a`r ddau fel pe bae nhw yn sownd yn eu gilydd tra`n symud. Dyma ni`n penderfynu derbyn cynnig ryw ddyn tew a oedd yn honni bod yn athro Tango i fynd am wersi dydd Sul nesaf, o diar mi. Dydio`m yn swnio`n syniad cystal heddiw rhywusut.

Mae hi`n oeri yma, wedi prynnu het, ac yn poeni am y tywydd yn Patagonia. Mam, mae yma ddillad a bagiau anhygoel, a phopeth yn rhad!

Sori am y llith,
Leusa.

No comments:

Post a Comment