20/04/2010

Avacados

Dau flogiad mewn llai na dau ddiwrnod, wwww dwiǹ eich sboilio chi, mai jyst fel Dolig, wwww!

Ond sgeni lot i ddeud, dim ond un peth ofnadwy o ddiddorol-

Ryden ni`n dlawd iawn. Felly ar ein noson ola ni yn yr hostel yn Puerto Iguazzu dyma niǹ penderfynu coginio pasta i swper, unwaith eto. Ond ryden ni wedi buta cymaint o basta bellach nes ein bod ni bron iawn a throi mewn i basta.
Tu allan i`n stafell ni roedd ne goeden dal, ac un diwrnod wrth gerdded oddi-tani dyma rhywbeth caled yn disgyn reit o mlaen. Wel myn cythgiam i, be di hwn, medde fi wrth fy hun. Dyma ne ddyn bach o Argentina yn sgipio draw yn chwerthin arna i yn edrych yn syn uwch fy mhen ar y goeden. `ffrwyth ydio`! medde`r dyn bach mewn Sbaeneg. A myn cacen i, avocado oedd o. Felly tra o`n i yn coginio pasta, dyma Rhean a Lowri yn mynd i gasglu avocados, a dyna niǹ cael pasta a guacamole i swper. Bendigedig.
Felly mae`r blogiad yma i chi, Rhean a Lowri - DA IAWN CHI.

Tra mod i ar y testun o fwyd, gadewch i mi adrodd hanes rhywbeth rhyfedd iawn nath ddigwydd i ni neithiwr. Roedden ni wedi dal bws o Puerto Iguazzu i Buenos Aires, 19 awr, gydag addewid o swper am ddim. Dyma 9pm yn cyrraedd, a dal dim son am swper. Wel myn brain i, roedden niǹ llwgu, a Buenos Aires yn teimlo`n bellach a bellach bob munud. Tua 10pm, yn sydyn ac heb rybudd, dyma`r cerbyd enfawr yn dod i stop mewn gorsaf. Dyma ne ddyn bach Argentinaidd yn gweiddi, `pawb allan`, a ffwrdd a ni, yn hanner cysgu, fel mewn breuddwyd, i`r nos, gan ddilyn rhip o deithwyr i mewn i ryw adeilad.
Wel myn avocado i, welesh i rioed ffashwn beth. Dyna lle`r oedd stafell smart yn llawn o fyrddau a llieniau bwrdd melyn, a chyllill a ffyrc arian yn sgleinio, a bowleni o fara blasus yn gwennu arno ni. Dyma gael ein harwain at ein seddi gan waiters mewn tei-bo, a chael cynnig gwin.
Dyma`r cwrs cyntaf yn cyrraedd - empanada, sef ryw pastry bach cig blasus tu hwnt. Yna dyma`r prif gwrs yn cyrraedd - stecen mewn saws hefo reis a llysiau. Yna dyma`r pwdin yn cyrraedd, ryw gacen felys hefo caramel a siocled. O fewn 20 munud roedd y bwyd wedi ei lowcio a phawb wedi sgramblo`n ol i`r bws.

Dychmygwch hynne`n digwydd ar wasanaeth yr X32 gan Arriva. Mam bach. Ond efallai na ddigwyddodd o o gwbwl, cofiwch. Efallai mai breuddwyd oedd y cyfan...

1 comment:

  1. Ddigwyddodd rhywbeth tebyg i hynna i ni ar y ffordd dros y Bannau - gawson ni frechdan gig moch ac wy wedi ffrio, madarch, nionod a thomato, bara saim - o! a gwydraid bach o Chardonnay - wedyn aethon ni i gysgu- a dyma'r ferch yma'n codi o'r llyn a gofyn os oedden ni wedi gweld y fan byrgyrs. A dyna pam y gelwir y lle bellach yn Llyn y Fan Byrgyrs. xxxxx
    Mam
    Mam a Sion

    ReplyDelete