28/04/2013

Tikal a The Sunburn Police

Harbwr Ynys Flores

O`n i`n isde ar ymyl harbwr Flores yn mwynhau eiliad o dawelwch, pan yn sydyn y daeth Americanwr croch heibio a gweiddi dros bob man, "You`re getting sunburnt!!!!", so nesh i weiddi arno fo "WHO ARE YOU, THE SUNBURN POLICE?". Y craze mawr ar yr ynys ar hyn o bryd ydi cowbois. Dim Cowbois Rhos Botwnnog, sori os gathochi siom yn darllen hynna jyst rwan, dachi ddim wedi ei gneut hi yn Guatemala eto. Ond nage, cowbois go iawn. Ma`r dynion yn edrych yn hollol hurt mewn hetiau a boots cowbois gwyn llachar, a`u gynnau ar eu beltie lledr wrth gwrs, a mwstash coes brwsh dan eu trwynau a ma nhw am y gorau i fod a swagger fel Jagger. Ond mae dynion Guatemala a habit od o rowlio gwaelod eu crysau i fyny at eu brest i drio cadw`r gwres i ffwrdd, fel Britney Spears yn ei oes aur. Felly allwch chi ddychmygu pa mor od ma nhw`n edrych. A mae pob un ohonyn nhw yn berchen ar unai cwch neu tuc-tuc, ac am y gore i drio gwerthu trip i fi i rhywle ´dw i´m isho.

Ac ar ol No Graciasioi yr holl ffordd nol i`r hostel yn trio osgoi mynd ar drip i`r lleuad, dyma fi`n edrych yn y drych a sylwi mod i wedi llosgi fel lobster pinc tra`n syllu mewn i`r dwr...

***
Heddiw es i i Tikal, sef hen dref enwog hil y Maya yng ngogledd Guatemala. Dwi wedi bod a diddordeb yn hen ninasoedd y Maya ers i mi ddarllen llyfrau taith T.Ifor Rees, a oedd wrth ei fodd yn treulio ei amser sbar yn crwydro o amgylch jyngls Mexico yn chwilio am adfeilion. A dyma fi, meistr self-timer gogledd Cymru a bellach gogledd Guatemala yn sefyll o flaen Teml 1 yn Tikal:

Mae ambell frenin wedi eu claddu dan y temlau, ac ymysg yr enwau boncyrs sy`n gysylltiedig a rhai o frenhinoedd y Maya y mae Chak Tok Ich'aak (Great Jaguar Paw), Siyah K’ak’ (Fire Is Born), Spearthrower Owl, a Yax Nuun Ayiin I (First Crocodile). Targed uwch i chwi rieni sydd wrthi`n galw eich plant yn bethau gwirion bost ar hyn o bryd i anelu tuag ato efallai?

Yn debyg i Machu Pichu yn Peru, does neb yn siwr iawn pam na sut y diflannodd y Maya o Tikal. Diffyg anoddau naturiol, neu afiechyd, neu ryfel efallai. Neu efallai fod gyrr o grocodeilod wedi eu bwyta. Ond allan nhw ddim cwyno am hynna, roedd na sein yn deud doedd?



Reit, off a fi i osgoi`r sunburn police unwaith eto. Dyma i chi chydig o luniau.


Pwsi ddrwg o dwll y mwg













1 comment:

  1. Mae'r adfeilion yna yn edrach yn anhygoel. Pob lwc! Math

    ReplyDelete