18/04/2010

Ciao Brazil, Hola Argentina!

Puerto Iguazzu - a´r rhaeadrau byd-enwog.



Pe bydde Iguazzu Falls yng Nghymru, mi fyse gennon ni air lluosog am Enfys. (siwr braidd fod gennon ni un yn barod, ond mi fyse gennon ni un gwell!).

Dyma ni wedi cael digon ar bartis gwyllt Santa Catarina, a wedi pacio ein bicinis a`n sbectols haul a wedi teithio 17 awr ar fws i`r man lle mae Paraguay, Argentina a Brazil yn cwrdd. Er mwyn cael stamps yn ein passports, dyma benderfynu mynd i aros i`r Ariannin. Roedd pawb yn son fod yr ochr hon o`r rhaeadrau yn well, a´r llety a`r bwyd yn rhatach.

A gwir y gair! Mi ges i eis-loli ddoe am chwe cheiniog yn unig! Ond dad-bacio`r bicinis fu raid - mae hi hyd yn oed yn boethach yma nac ym Mrazil! Ac mae gennon ni glamp o bwll nofio mawr yn yr hostel. A chael digon ar bartio yn Santa Catarina neu beidio, mae`n anodd gwrthod Caphirina bach slei pan dydyn nhw ond yn costio 80 ceiniog yr un - wehei! Ond dwi ar ddallt fod na bobl parchus yn darllen y blog yma bellach, felly dyna ddigon am ein antics yn y bar.

Ddoe, mi groeson ni`r ffin unwaith eto i Frazil - i gael mwy o stamps fyth yn ein passborts mewn gwirionedd. Ond hefyd, roedd son fod gwerth ymweld a´r rhaeadrau ar y ddwy ochr. Roedd y rhaeadrau yn anhygoel - yn olygfa mwy syfrdanol na´r un ´dw i erioed wedi ei gweld (oni bai am yr Eagles ambell i nos Iau). Mae`n anodd esbonio`r hyn a welwyd mewn geiriau ( a dwi`n gwybod eich bod chi`n ysu am luniau- mi gewch chi rei fory, dwi`n addo!). Mae afon llydan Iguazzu yn llifo`n araf deg linc-di-lonc, ac yn sydyn reit mae`r afon gyfan (sy`n filltiroedd o led) yn disgyn i lawr dibyn a grewyd gan lafa neu ddaeargryn ne rwbeth, WYYYYYYSH i lawr i`r pant. Mae yn a raeadrau o bob maint a hyd a lled ymhobman o`ch cwmpas chi mor bell a`r gorwel.



Heddiw, mi aethon ni i weld y rhaeadrau ar ochr Yr Ariannin. Dychmygwch yr uchod, ond ganwaith gwell. Roedd enfys uwchben pob rhaeadr, yn yn disgleirio yn sblashys y rhaeadrau, enfysiaid, enfysyddion, enfysys... (mae`r geiriadur yn cynnig `enfysau` - pah!). O`ch cwmpas ymhobman roedd pili-palas bob lliw a bob llun, tebyg iawn i fod yn Pili Palas Sir Fon, ond heb orfod mynd i`r drafferth o groesi`r bont (Sori Lowri). Roedd yna ryw anifail blewog trwynhir a chynffonhir ymhobman yn dwyn bwyd twristiaid ac yn crafu ei chwain, roedd yna fwnciod yn y coed, a physgod enfawr yng ngodre`r rhaeadrau.

Dyma ni`n tynnu ein dillad i gyd (heblaw am ficini!) ac yn neidio i gwch modur i fynd am dro i weld y rhaeadrau yn agosach. Ac agos iawn yr aethon ni hefyd - reit i grombil un o`r rhaeadrau mwya. Iesu Gwyn o`n i`n meddwl bo fi yn mynd i foddi. Oedd o fel cael rhywun yn taflu bwceidiaid ar ol bwceidiaid o ddwr ar fy mhen, a doedd neb yn gallu agor eu llygaid i weld dim byd. Oedden ni dal yn y cwch? Oeddwn ni yn y llyn? Doni methu anadlu, dim ond agor fy ngheg fel sgodyn aur, a sgrechian - achos mae dyletswydd gymdeithasol dwristaidd arnochi i sgrechian mewn sefyllfaoedd o`r fath. Ond dyma fi wedi goresgyn near death experience arall, eto fyth.

Echnos, mi welson ni darantula yn y toilet. Dim pry-cop mawr, o nage wir. Tarantula blewog, hefo fangs bychain miniog.



Be sy`n rhyfedd am y teithio `ma ydi eich bod chi`n dod wyneb yn wyneb a`r un pobl ymhobman. Yn Rio, mi wnaethon ni gwrdd a 4 o Almaenwyr bach neis, oedd yn rhannu`r un ystafell a ni yn yr hostel. Yna, mi deithion ni 500 milltir i Santa Catarina, a pwy welson ni yn y Clwb Samba (gweler y neges blog ddiwetha am ein ymweliad gwallgo i fanno), ond yr Almaenwyr! Yna mi deithion ni 650 milltir i Puerto Iguazzu, a pwy sydd yma yn torheulo wrth yr haul, ond yr Almaenwyr! Mae un yn dal ac yn dennau ac efo barf a sbectol ac yn edrych fel proffesor. A bob tro `deni`n ei weld o mae o wedi cael mwy a mwy o liw haul - doniol iawn. Y peth doniol arall ydi bo genon ni`m syniad be ydi eu henwau nhw - mae hi rhy hwyr i ofyn bellach, mae wedi pasio`r pwynt lle mae posib mymblo "o sori, be ddudoch chi oedd eich henwau chi, eto?" 3 wythnos yn ddiweddarach. wps.

O´r Ariannin, lle y cewn ni ddechrau ymarfer ein Sbaeneg o`r diwedd, ADIOS!

p.s, mae`r brecwast yma yn dila iawn i gymharu a Brazil. Popeth yn felys, dim ffrwythau anhygoel, dim ham na chaws, dim coffi cystal, trist iawn.

P.s, sori am y sillafu, mae bywyd yn rhy fyr, a does dim modd gwneud to bach.

3 comments:

  1. Waw rhyuadr mawr! uuuuuuuuuuuuu dwin dychrun wrth edrych ar y tralantila (pry cop enfawr mewn geiriau erill)dwin gweld bod yr hostel yn fwy neis nac o tin meddwl (pwll nofio! dwin mega cenfigenus
    gobeithio newchi ddim gweld pry cop arall
    hwyl
    Seren
    xxxxxxxxxxxxxx

    ReplyDelete
  2. it's just a biggish spider

    ReplyDelete
  3. Hoi chi`ch dau, mae hwnne`n darantula go iawn.

    ReplyDelete