Harbwr Ynys Flores |
Ac ar ol No Graciasioi yr holl ffordd nol i`r hostel yn trio osgoi mynd ar drip i`r lleuad, dyma fi`n edrych yn y drych a sylwi mod i wedi llosgi fel lobster pinc tra`n syllu mewn i`r dwr...
***
Heddiw es i i Tikal, sef hen dref enwog hil y Maya yng ngogledd Guatemala. Dwi wedi bod a diddordeb yn hen ninasoedd y Maya ers i mi ddarllen llyfrau taith T.Ifor Rees, a oedd wrth ei fodd yn treulio ei amser sbar yn crwydro o amgylch jyngls Mexico yn chwilio am adfeilion. A dyma fi, meistr self-timer gogledd Cymru a bellach gogledd Guatemala yn sefyll o flaen Teml 1 yn Tikal:
Mae ambell frenin wedi eu claddu dan y temlau, ac ymysg yr enwau boncyrs sy`n gysylltiedig a rhai o frenhinoedd y Maya y mae Chak Tok Ich'aak (Great Jaguar Paw), Siyah K’ak’ (Fire Is Born), Spearthrower Owl, a Yax Nuun Ayiin I (First Crocodile). Targed uwch i chwi rieni sydd wrthi`n galw eich plant yn bethau gwirion bost ar hyn o bryd i anelu tuag ato efallai?
Yn debyg i Machu Pichu yn Peru, does neb yn siwr iawn pam na sut y diflannodd y Maya o Tikal. Diffyg anoddau naturiol, neu afiechyd, neu ryfel efallai. Neu efallai fod gyrr o grocodeilod wedi eu bwyta. Ond allan nhw ddim cwyno am hynna, roedd na sein yn deud doedd?
Reit, off a fi i osgoi`r sunburn police unwaith eto. Dyma i chi chydig o luniau.
Pwsi ddrwg o dwll y mwg |
Mae'r adfeilion yna yn edrach yn anhygoel. Pob lwc! Math
ReplyDelete