Y Tywydd
Roedd dydd Gwener yn ddiwrnod trist iawn. Roedd yn rhaid i ni ffarwelio hefo De America, ar ol tri mis hapus iawn o igam-ogamio ei hyd a'i led. Am 2.30pm, dyma ni'n hedfan o faes awyr Lima i Ddinas Panama yng Nganolbarth America.
Alla i 'mond cymharu'r teimlad o gerdded oddi-ar yr awyren i gael slap yn fy ngwyneb gan bopdy. Mae hi'n boethach yma na cegin Leri ar nos Sadwrn brysur yn yr Eagles. Dyma ni'n cyrraedd o Lima yn ein hwdis tew, ein trowsusau hirion a sannau ac esgidiau cerdded, a phobl ymhobman yn edrych yn rhyfedd arnon ni a hithau'n dywydd torri thermomedr.
Ond mae hi'n dymor y glaw yma ym Mhanama. A dyma ni wedi cael ein rhybuddio fod tymor y glaw yng nghanolbarth America yn dymor gwlyb gwlyb - anodd credu pan fo'r awyr yn las fel lapis lazuli a'r haul yn danpeidiach nac y'i gwelais i o erioed o'r blaen. Ond mi gawson ni flas ar y glaw yn ddigon buan! Eistedd allan yn y bar yng nghefn ein hostel oedden ni yn llymeitian cwrw Panama, a'r nos yn ddu a'r cymylau duon yn guddliw. Yn sydyn, mi oleuodd Dinas Panama yn las, a throi yn lawr disgo dros dro dan fflachiadau di-ddiwedd y mellt, a chwyrnu'r tarannau. O'n stafell wely, sydd a balconi yn edrych dros y ddinas - roedden ni'n gallu gweld y mellt yn llyfu lloriau ucha'r sky scrapers - roedd hi'n olygfa gofiadwy iawn. A son am y glaw, mi ddisgynodd fesul bwceidiau, a hynny am oriau maith - gan glirio peth o'r gwres, ond dim i'r fath raddau nad oedd hi'n unrhyw beth ond poeth.
Hostel Luna's Castle
Ryden ni yn aros mewn hostel o'r enw Luna's Castle. Gadewch i mi ddisgrifio'r lle 'ma i chi. Mae yna security guard wrth y drws gan fod no go area dau floc i ffwrdd. Mae hen risiau mawr pren yn arwain i fyny tuag at y dderbynfa, a'r stafell gymunedol. Mae yma fwrdd enfawr lle mae pawb yn eistedd yn bwyta ac yn darllen. Mae yma fwrdd ping-pong, sydd ar y funud a dau Almaenwr yn chwarae yn ddi-dor ers tua teirawr ar ol curo'r Saeson yng Nghwpan y Byd. Mae dau gas llyfrau enfawr yn gorchuddio dwy wal - hwre, llyfrau da o'r diwedd. Mae cegin fawr (rhywbeth prin, yn ddiweddar) lle mae mix crempog yn cael ei baratoi gan yr hostel bob bore i ni gael gwneud ein crempogau banana ein hunain i frecwast. Mae lluniau abstract ar bob wal - lluniau lliwgar neis ofnadwy - dwnim os oes artist yn gweithio yma. Mae tri gitar yn hongian ar y wal, a dyfyniad wrth eu hymlau yn darllen "the woods would be very silent if no birds sang except those that sang best." Uwchben y gitars mae ystol bren, ac mi allwch chi dynnu'r ystol bren i lawr, a dringo i fyny i groglofft fechan fechan sydd hefo beanbags a chwshins i gysgu neu darllen neu chwarae'r gitar. Yn y stafell nesaf mae hamocs yn hongian o'r to rhwng soffas cyffyrddus.
I lawr staer mae'r theatr ffilmiau, sydd a sgrin enfawr yn dangos y ffilm sydd wedi cael mwya o bledleisiau yn ystod y dydd. Mae seti wedi cael eu gwneud o bob math o bethau, ac o bob siap a llun a lliw yno. Heibio'r theatr mae'r bar. Mae yma batio mawr agored hefo byrddau pren ac ymbarels mawr, ac mae hi mor boeth nes fod yma ffans trydan - tu allan - yn oeri'r yfwrs. Mae yma ffigyrau metel enfawr yn gelf a chrefft ac yn dal lampiau neu botiau blodau. Mae yma goed palmwydd - "Mae nhw'n amlwg yn rhai ffug, gan fod y goeden yma wedi ei gwneud o bren", meddai Lowri am goed tebyg, unwaith! Mae'r bar ei hun dan do, ac mae yma rhywbeth prin - air conditioning. Mae'n sioc i'r system cerdded o'r tu allan i'r oergell o le yma. Mae happy hour yn cynnig cwrw am 50 cents. Mae nhw yn defnyddio'r US dollar yma ym Mhanama.
Neithiwr, wrth eistedd yn y bar, dyma fi'n dechrau siarad hefo ryw ddyn wrth fy ymyl. A dyma ffeindio allan mai fo oedd bia'r hostel, a'r bar. Roedd o a dau o'i ffrindiau wedi agor hostel yng ngogledd-orllewin y wlad yn Bocas del Toro, a wedi cario ymlaen i brynu hosteli. Mi athon ni allan i ryw glwb, a mi brynodd botel gyfa o vodka i ni. Roedd y dyn werth ei filiynau. Mi ddylswn i wedi ei briodi, a byw yn gyffyrddus am weddill fy oes, ond roedd o chydig ar yr ochr hyll i bethau i ddeud y gwir, a doedd genai'm awydd.
Canal Panama
Heddiw mi aethon ni i weld Canal enwog Panama. Dyma lle'r oedd llong enfawr enfawr yn un o'r locks yn cael ei gostwng i lawr ychydig fetrau i lefel nesa'r Canal. Roedd y llong yn talu $269,000 i gael pasio drwy'r Canal. Y swm lleia i neb dalu i gael pasio drwy'r canal oedd 60 cents - gan ddyn oedd yn nofio hyd y canal i gyd! Roedd y broses o basio drwy'r canal yn cymryd tua 8 awr i bob llong. Roedd y llongau yn cael eu codi, ac yna eu gostwng yn ol oddeutu 29 metr uwch ben lefel y mor. Mi welson ni'r giatiau yn cau ac yn agor. Yr un giatiau oedd yn eu lle yn 1914, pan agorwyd y canal. Cyn ymdrech lwyddiannus yr Americanwyr i adeiladu'r Canal, bu ymdrech gan y Ffrancwyr. O galyniad i afiechydon fel malaria a'r dwymyn felen, a damweiniau, mi fu farw 21,900 o weithwyr yn gweithio ar y project.
San Blas
Fory, mi ryden ni yn gadael am ynysoedd San Blas. Os ydech chi awydd teimlo yn genfigenus ofnadwy ohona i, ewch i google images, a teipiwch San Blas Islands. Fory mi fydda i yn fano, a fyddwch chi ddim. Ond fydda i dal yn eich caru chi.
27/06/2010
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
Hull neu beidio, swni wedi'w brodi fo. Ma'r hostel na'n swnio'n gorjys!
ReplyDeleteHefyd, dwi'n casau ti chydig bach....joc, ond dwin genfigenus iawn. Fory, dwin cal mabolgampau ysgol yn y glaw. Diom rili'n cymharu nadi
xXx
Hei hei! 'Mabolgampau yn y glaw', mae'n swnio fel teitl da i gan!
ReplyDeleteI neud i chi gyd deimlo yn well, mi ryden ni wedi cyrraedd lle o'r enw Bocas del Toro, a mae hi'n tywallt y glaw. Mae hi'n gallu bwrw mwy yma mewn un diwrnod nac mae hi'n ei wneud yng Nghymru mewn wsnos dda. Bw hw, ac mae fy mac-pac yn wlyb socs!!
xx