23/05/2013

Llosgfynydda

Pwll Poeth a Pocohontas

O'n i'n gorwedd ar ochr pwll poeth (hot springs) yn hanner llewygu'n ara deg bach achos fod y dŵr a oedd yn cael ei gynhesu'n naturiol gan y llosgfynydd bron a bod yn ferwedig. Odd o ddigon poeth i goginio cranc. Ac ar fy ngefn yn yr awyr agored, a mhen i'n troi fel top, a'r nos yn dod yn fuan, dyma fi'n clywed arogl stationery. Odd o fel smelling salts. Mi ddeffres i a meddwl, 'Pam goblyn mod i'n clywed arogl stationary?'

Pan o'n i'n fach, o'n i wrth fy modd efo Pocohontas, ac odd gen i lwyth o bethau efo lluniau Pocohontas a'i ffrindiau bach arnynhw, yn cynnwys llwyth o bensiliau, preniau mesur, rwbiwrs, papur sgwennu. Ac wrth edrych ar yr olygfa anhygoel o nghwmpas i yn y pwll poeth, roedd o wedi fy atgoffa i o le oedd Pocohontas yn byw, a dyna mae'n siwr ddaeth a'r arogl stationary cryf na i'n ffroenau i. Rhyfedd o fyd.

Pwll Poeth / Hot Springs

Yr olygfa o'r pwll poeth / mynydd Pocohontas

Laguna y Volcan Chicabal
Mi ddois i Guatemala heb syniad i le o'n i am fynd na be o'n i am ei wneud. Yr unig beth o'n i'n bendant isho ei neud oedd gweld Llyn Chicabal, yn crater Llosgfynydd Chicabal - ar ôl gweld lluniau anhygoel o'r lle ar y we. Felly i ffwrdd a mi i ail ddinas fwya Guatemala - Quetzalenango. Wedi ei enwi ar ôl y quetzal sef aderyn cenedlaethol Guatemala, andros o beth bach tlws:

Dwi wedi menthyg y llun ma o'r we rhag ofn chi feddwl mod i wedi datblygu sgiliau tynnu llun dros yr wsos ddwetha.
Ond diolch byth, mae'r bobl leol yn cyfeirio at Quetzalenango fel Xela yn fyr, ("Shela"). A dyma fi yn Xela efo diwrnod i fynd nes gorfod hedfan am adre, a doni'n methu'n lân a dod o hyd i neb i fynd a fi i fyny'r llosgfynydd. 

Felly mi arhosais yn fy ngwely tan 10am, a phenderfynu mynd i'r sw. A bwyta mrecwast o'n i yn edrych mlaen i weld jiraff, pan ddaeth ryw ddyn bach cynhyrfus ata y bwrdd nesa ata i, a bandej enfawr am ei goes.
"Stingray?" gofynais iddo fo, ar ôl cwrdd â gŵr arall yn Belize efo bandij am ei goes yntau ar ol cael ei drywanu gan stingray wrth sgwbadeifio.
"Stingray??" atebodd yntau'n ddryslyd. Sy'n ddigon teg o ystyried fod Xela yn bell iawn, iawn o'r môr, a bron iawn yn 8,000 troedfedd uwch ben lefel y mor.
"No, I fell out of a bus on the way back from Chicabal."

"CHICABAL?" gwaeddais, yn anwybyddu'r ffaith na allai'r mynyddwr yma fod yn un rhy wych o ystyried ei fod yn disgyn allan o fysus.

"Take me there!" gorchmynais. A felly y bu. Jose oedd ei enw, ac arwain pobl i ben mynyddoedd oedd ei waith. Ar y ffordd allan, dyma herwgipio dyn o'r enw Junior o'n i wedi ei gyfarfod yn y dorm y bore hwnnw, ac i ffwrdd a ni'n tri ar antur.

Chicken Bus - sef hen fysus ysgol o'r UDA wedi cael eu pimpio  'fyny efo slogans tebyg i Dios es Amor (Duw yw Cariad) a'u peintio, a'u plastro efo sticars o gartŵns. Dyma fysus cyhoeddus De a Chanolbarth America, boncyrs o brofiad cael reid mewn un ohonyn nhw.
Felly ar ôl cael ein sgwosho a'n brysho mewn i dri chicken bus gwahanol dyma lanio ar waelod llosgfynydd Chicabal, a gweld arwydd oedd yn gofyn i ni ofyn i greawdwr y byd am ganiatâd i'w ddringo:


O'n i wedi cymryd tua tri cam i fyny'r llethr 45gradd ac ar fin dechrau cwyno fod y daith yn amhosib pan ddudodd Jose,

"I had a bunch of tourists the other day complaining that the walk was steep! It's a volcano! What did they imagine, that it was going to be flat? Ha ha!"

"HAHAHA" medde fi ychydig yn rhy uchel, a defnyddio gwerth dau funud o ocsigen yn y broses.

Roedd o'n drec drwy fforest gwmwl i ddechrau, a gwe pryf cop fel llinnellau terfyn bach eironig yn fy nal bob cam. A doedd y daith yn mynd dim haws wrth i ni agosau at uchdwr o bron 9,000 troedfedd. 

I wneud pethau'n waeth roedd niwl trwchus yn cau amdanon ni fel gwlan cotwm, a finnau'n dechrau digaloni na fydden ni'n gweld y golygfeydd anhygoel oedd wedi nenu fi at Lyn Chicabal yn y lle cynta, a finne'n dychmygu gorfod dwyn lluniau Google i'ch diddanu chi.

Ond medde Jose ei fod o'n gallu synhwyro fod natur yn ein hoffi ni, ac y bydde hi'n glir erbyn i ni gyrraedd y top. Odd hyn yn bur anhebygol, ac finnau wedi arfer hefo'r Guatemalaid a'u tafodau aur yn troi pob melyn yn drysor. Erbyn cyrraedd y Mirador (yr olygfan)...roedd na gymaint o niwl nes oedden ni'n edrych fel hyn:

Fi a Jose mewn niwl garw
"Esperar... (aroswch)" meddai Jose yn hyderus, a fi'n chwerthin yn meddwl amdan yr hen guide bach dal i ddeud clwyddau wrthan ni, hyd yn oed ar ôl i ni dalu am ei wasanaeth, ac wedi cyrraedd top y llosgfynydd. 

Ond wir i chi, o fewn munud, roedd y niwl yn codi.

Llyn Chicabal o'r el Mirador
Mae Llyn Chicabal yn sanctaidd i bobl y Maya, a mae nhw'n credu mai Duw ydi'r dŵr. Felly does dim hawl gan neb i nofio na physgota ynddo fo. A roedd yn hawdd coelio fod na rhywbeth goruwchnaturiol ynglŷn â'r llyn wrth i'r niwl godi a gostwng bob dau funud am yr awr gyfan y buon ni yno.

Wythnos cynta Mai mae twristiaid yn cael eu gwahardd rhag dringo Chicabal, gan fod pobl y Maya yn casglu yno i gynnig offrwm i'r Duw, gan aberthu ieir a geifr, a gosod torchau o flodau ar lan y dŵr. Roedden ni'n lwcus i fod yno ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, a dyna di'r esboniad am y lluniau isod. 






Rŵan dwi wedi cyrraedd adre i Gaerdydd. Dwi di cal stopio googlo 'What time is it in Guatemala' achos bo fi wedi anghofio watsh. Mae fy mhigiadau mosgito bron a diflannu. A dwi di cael aduniad emosiynol hefo'r potyn Marmite.

Felly diolch am ddarllen, ac adios tan tro nesa.

Hollol Bananas

Marchnad Quetzalenango

Gorsaf Fysus Xela

Cyrion Xela




















No comments:

Post a Comment