03/04/2010

Y Favelas a´r Silent Disco

Ro´n i mewn dilema pún ai i fynd ar favela tour neu beidio.
Y favelas ydi´r slums ym Mrazil - lle mae miloedd o dai wedi cael eu codi´n fler ar ben eu gilydd yn blith drafflith ac yn anghyfreithlon. Mae´r bobl dlawd yn torri coed ar ochrau´r mynydoedd o amgylch Rio, ac yn ehangu´r favelas nes ei fod wedi troi´n broblem gymdeithasol enfawr. Dydi´r bobl ddim yn talu trethi na dim i´r llywodraeth - ac felly mae nhw wedi ffurfio eu rheolau aú strwythr cymdeithasol eu hunain. Mae yna dri gang cyffuriau yn rheoli´r favela mwya, ac yn cadw rhyw fath o ´drefn´ ar y lle.
Felly roedd meddwl am fynd ar tour i weld y bobl yn y favelas yn rhyfedd braidd - fatha mynd i Sw Bae Colwyn ond i edrych ar bobl yn lle anifeiliaid. Roedd y pres oedden ni´n ei dalu i fynd ar y tour yn mynd tuag at helpu´r bobl yn y favela, roedd hynny´n rhywbeth.
Felly mynd nesh i, a ffwrdd a ni i waelod yr allt enfawr (roedd y favela yn gorchuddio mynydd cyfa, bron iawn!). A dyma´r tour-guide yn gweiddi ar bawb i neidio tu ol i yrrwr motor-taxi (sef motor-beic taxi. O Mai God. Dyma fy ail near death experience mewn llai ´na wsnos. Yr holl ffordd fyny y cwbwl oni´n gallu feddwl amdano fo oedd pa mor blydi gwirion o´n i i gytuno i fynd ar y blydi moto beic. (os fyse´r tour guide wedi gofyn i fi sticio fy mys yn y tan ayyb...). Felly sori, Mam! Roedd yr allt yn serth serth, a´r motor-taxi yn gwibio heibio i ddwy lori, a dros dyllau enfawr yn y ffordd, a rownd corneli ar ddiawl o gyflymder. Oni yn gafael yn y dyn fel ´tase ne ddim fory, ac yn crynu fel diawl!!
Ond dyne ddigon am y trip moto beic, dwi´n fyw ac yn iach.
Roedd y favelas yn agoriad llygaid. Roedd yne ieir a chwn tennau tennau yn bob man, a phlant bach troednoeth yn rhedeg ymysg y sbwriel (gan nad ydynhw´n talu treth, does dim gwasanaeth casglu sbwriel). Welesh i lygoden fawr wedi marw ar y llwybr, ac roedd hi´n fflat achos fod cymaint o bobl wedi sefyll arnni hi! Doedden ni´m yn cael tynnu lot o luniau achos fod y drug-barons yn cadw lygad barcud arno ni. Roedd pawb yn gweiddi GRINGOS GRINGOS arno ni o ochre´r llwybr! Mi welodd Rhean ddyn efo machine-gun ar gefn un motor-taxi yn dod i´w chwfwr hi i lawr yr allt!
Ond roedd o´n wirioneddol werth mynd.

SILENT DISCO

Wel dyma ni wedi dod i nabod llwyth o bobl o bob man dan haul gan fod yr hostel mewn ryw court-yard lle mae pawb yn cwrdd i yfed cwrw/chwarae gitar ayyb. A dyma si ar led fod yna ´hush hush party´ ´chydig o flocs i lawr y stryd. Be ydi peth fel hyn, medde fi, ai parti cyfrinachol nad oes neb yn fod i wbod am dano fo? Ond nage wir, Silent Disco oedd yno! [I´r rhei ohonoch chi sydd ddim yn gwbod, mewn Silent Disco mae pawb yn cael par o headphones, ac mae na 3 DJ yn transmitio cerddoriaeth gwahanol drwy´r tonfeddi. Felly mae pawb yn cael dewis pa sianel mae nhw isho dawnsio iddo fo. mae o reit ddoniol, achos weithie mae ne bobl yn dawnsio i ryw gan araf tra mae na bobl erill yn head bangio! A be sy´n wych, wrth gwrs, ydi pan dechi´n tynnu´r headphones, mae bob man yn dawel oni bai am bobl yn canu allan o diwn, neu yn gweiddi I`M GOING TO THE TOILET!]
Roedd y toilets fel ryw gytiau anifeiliaid ar y danceflorr (ych!). Roedd honne´n noson ryfedd iawn, oedd wir.

Wel dyne ni am rwan, mae llond y stafell o bobl yn aros am y cyfrifiadur. Gadael Rio fory (bw hw) ac yn symud i Ilha Grande, edrych ymlaen.

Pres yn brin yn barod.

Adios - Leusa

p.s, sori am y diffyg llunie - dydwi methu cael nhw ar y cyfrifiadur eto.

2 comments:

  1. Pawb yn ty ni newydd ddarllen y blogs, swnio fel bo ti'n cal profiadau gwych! Ddim yn siwr am y dyn efo machine-gun ar gefn y motor-taxi chwaith! haa!
    Joia, edrych mlaen i ddarllen gweddill y blogs!
    Lowri xxx (a gweddill y teulu!)

    ReplyDelete
  2. Swnio'n anhygoel! Am drio cael y skype i weithio wsnos yma. Edrych ymlaen i glywed am Ihla Grande. Joia! Grisial xxx

    ReplyDelete