06/04/2010

Y dilyw mawr yn Ilha Grande


"Ha Ha! Glaw!" ´dwi´n eich clywed chi´n chwerthin o flaen eich cyfrifiaduron yn eich tai mawr cynnes o flaen y tan. Ac mae´n boendod meddwl i mi orfod cyfaddef ein bod ni ynghanol dilyw enfawr yma yn yr Ardd Eden a elwir Ilha Grande.

Ond rhag i chi fynd i deimlo yn rhy smyg, dyma gychwyn efo´n dyfodiad i´r ynys anhygoel hon...

Dyma ni´n cyrredd Ilha Grande ar gwch digon sigledig a oedd yn reidio´r tonne yn reit wyllt, felly dyma fi´n penderfynu mynd i gysgu am yr awr o daith rhag ofn i fi wagio cynwys fy stumog dros sgidiau ryw bac-paciwr anffodus. A dyma fi´n cael fy neffro i olygfa anhygoel - o´m mlaen yr oedd yr ynys fwya prydferth yn y byd (hyd yn oed yn well na Ynys Mon, wir yr). Roedd y traethau yn felyn, y cychod bychain yn lliwgar, y bryniau serth yn wyrdd ac yn drwm gan goed palmwydd...A ffwrdd a ni yn syth i nofio yn y mor, a oedd yn gynnes fel bath. Mae yma siopau bach hyfryd ymhobman, a stondinau lu fin nos yn gwerthu pob math o bethau yn rhad.

Mae yna lwybrau yn arwain trwy´r ynys, a phob llwybr wedi ei rifo ar y map i nodi ei bellter, pa mor anodd ydi´r daith ayyb. Felly yng ngwir ysbryd y teithiwr talog yr ydwyf...dyma fi´n penderfynu dilyn y llwybr byrraf, a ffwrdd a ni i´r goedwig. Ar yr ynys hon, mae yna nadroedd a phob math o anifeiliaid gwyllt yn cuddio yn y goedwig, felly roedd yn rhaid cadw llygaid ar y gwrychoedd o bopty rhag ofn...
Yng nghrombil y goedwig, ar ol cerdded drwy afon a dros gerrig camu slip a uwch ben rhaeadr, dyma ni´n dod ar draws hen adfail. Dyma adfeilion hen ´garchar´ a letyai mewnfudwyr o Ewrop i´r Byd Newydd, a oedd dan amheuaeth o fod yn sal o un o´r afiechydon niferus a blagiai Brazil yn cyfnod mawr yr ymfudo. Alla i ddim dychmygu man mwy dychrynllyd i gael fy ngharcharu nac ynghanol y goedwig dywyll hon...
Roedd dail a phlanhigion wedi llyncu´r adeilad bron yn gyfan-gwbl, a cael a chael oedd i ni ddod o hyd i´r carchar ar y llwybr. Yn sydyn, a ninnau ar fin dychwelyd i lan y mor...dyma ni´n clywed swn clic-clic-clic yn dod o´r carchar...Dyma ni´n nesau at ddrws yr hen garchar, a phipian i mewn yn ofnus, a dyma fi´n gweld y peth mwya afiach dwi erioed wedi ei weld (gwaeth na´r pry cop mawr yn y ty haul, Mam). Ym mhorth y carchar, fel ryw frenin yr oedd cranc mawr glas. Cranc enfawr glas. Cranc mor fawr, nes y gellid ei alw´n ryw fath o ddeinasor. (o.k, ychydig o or-ddeud fane. Roedd o mor fawr a phel ffwtbol.) AFIACH!! Iesu nesh i ddychryn am fy mywyd. A roedd gwaeth i ddod, dyma ni´n rhedeg i ffwrdd, a roedd yna grancod bob lliw ymhobman, rhai enfawr yn y gwrychoedd, ar y llwybr, yn y coed...?! (na, ddim yn y coed, dydi nhw ddim yn gallu dringo).

Ar y ffordd nol, dyma´r glaw yn cyrraedd. Glaw mawr, glaw dieflig, glaw´r dilyw, glaw yr ysgrifennir amdano mewn llyfrau hanes.

Dyma´r glaw yn cipio´r cyflenwad trydan, a dyma ni´n styc yn yr hostel efo 3 Brazilian, 1 Denmarkian, 1 Almaenes, 1 dyn dutch, 1 Switserlandest, a un dyn bach o Peru sydd wedi bod yn teithio ers 7 mlynedd, yn y tywyllwch, am oriau. Felly dyma ni´n dysgu Ffrans o Wlad Awstria iddyn nhw. Be arall oedden ni´n fod i neud mewn sefyllfa o´r fath?

Letrig yn ol bellach (12 awr yn ddiweddarach, a´r glaw wedi tawelu chydig, ond trip i lan y mor ddim yn opsiwn). Mae fy nghoesau yn bigiadau mosgito i gyd.

Leusa.

3 comments:

  1. O nefi blŵ mae'r crancod yn swnio fatha rhywbeth o Avatar. Wel mae hi'n ddilyw yma hefyd - wedi bod yngNghastell Deudraeth yn cael cinio efo Elin, Bethan Non, Siaron ac Anwen Wigli, ac mi fwriodd fel o fwced felly wnaethon ni ddim byd ond bwyta.
    Ti'n gwybod y dyn bach yna o Periw sy'n trafeilio ers 7 mlynedd - paid a meddwl g'neud run fath achos mae'n siwr ei fod o'n gwybod fersiwn pawb trwy'r byd o Ffrans o wlad Awstria erbyn hyn.
    Cymer ofal,
    Mam XXXX

    ReplyDelete
  2. Gwell na Sir Fôn- wir??? sgyno ni'm crancod glas!!!! swnio dy fod yn cal profiada diri! cofio dysgu am y Favelas yn rysgol- nyts meddwl fy fod di bod yno! joio darllan dy hanas- cym ofal, edrach mlaen am y bennod nesa!!!
    Hwyl a chranc a chofion at rhen Lowri J
    Lowri xx

    ReplyDelete
  3. Ha jelys! Rili joio' dy di flog dwd!xxx

    ReplyDelete