12/04/2010

Santa Catarina, helo haul!


Dyma ni wedi cymryd sawl bws dros nos ac wedi cerdded sawl milltir yn y glaw efo´n bagiau trwm (10kg oedd un fi, gyda llaw) ar ein cefnau drwy llifogydd enfawr Brazil... Ac o´r diwedd, mi ryden ni wedi ffeindio y lle mwya anhygoel yn y byd, ac yndi - mae´r haul yn gwenu! Ond cyn cyrraedd Santa Catarina a´í draethau anhygoel, mi fuon ni yn aros mewn tref o´r enw Paraty.
Mae Paraty yn enwog am eu strydoedd - gan fod y llawr yn hollol anwastad ac wedi ei gwneud o gerrig mawrion, sy´n gneud cerdded y strydoedd yn dasg beryglus ac anodd, yn enwedig yn y glaw. Ac ie, glawio oedd hi yn Paraty, a ninnau wedi cael hostel reit ar lan y mor, a hithau´n ben-blwydd arnai. Bw hw, canwch y feiolins. Ond roedd yna hamoc yn yr hostel, a fano y buon ni yn yr hamoc yn yfed cwrw ac yn gwylio adroddiadau BBC News am y llifogydd enfawr yn Rio.
O Paraty, dyma benderfynu dal bws dros nos i arbed arian, a ffwrdd a ni am 11.40pm i le o´r enw Curitiba, via Santiago. Wel mam bach, dyma´r bws yn cyrraedd pen ei daith yn llawer rhy fuan, a dyma ni´n landio yn gorsaf fysiau mwyaf De America am 4 o´r gloch y bore! (Mae hyn yn rhyfedd iawn, achos dros y pythefnos diwethaf ryden ni wedi dod i ddallt fod cysyniad y Brazilians o amser yn gwbl wahanol i´n un ni. Mae nhw bob amser yn hwyr i bobman, ac does dim math o frys arnynhw mewn siopau a caffis, ayyb. Deni´n cael ein cynghori i ofyn os ydi rhywbeth yn Brazilian Time neu yn Everyone-else Time.
Doedd Curitiba ddim yn gret, a roedden ni wedi blino ar ol teithio dros nos. Felly dyma ni´n checkio mewn i´r hostel mwya dinji dwi erioed wedi ei weld. Ac ar nos Sadwrn dyna ni´n tair yn ein gwlau yn bwyta swper iachus o frechdan mayonnaise, doritoes, chocolate, a chan o lager tra´n gwylio MTV. Ydwi´n troi i mewn i Jim Royale?
Ffwrdd a ni o´r hotel yn ddigon sydyn, a dal bws unwaith eto 7 awr i´r De i´r ynys brydferth hon - Santa Catarina. Mae´r hostel yn gret! Mae gennon ni bwll nofio, a BBQs, a phartion yn cael eu trefnu bob nos. Neithiwr, ar ol ei gor-neud hi chydig ar y Caprihinas (diod cenedlaethol, meddwol Brazil) dyma ni´n ffeindio´n hunain yn trawsnewid o´r dair dawel yn y gornel yn meindio ein busnes i fod gwbwl wallgo.

Gathon ni dwrnament llechio pel ping pong, a nathon ni ennill - y wobr oedd mwy o Caprihinas, o diar. Rhywsut neu gilydd dyma ni´n canfod ein hunain mewn mini bys bychan bach hefo o leia 30 o bobl wedi stwffio i mewn blith drafflith, ar ein ffordd i Glwb Salsa. Ydwi´n gallu dawnsio Salsa, dwi´n eich clywed chi´n gofyn? Wel nadw fel arfer - ond ar ol Caprihina neu wyth mi fedrai neud unrhyw beth. Ac ogi-ogi-ogi-oi-oi-oi oedd hi´r holl ffordd i´r clwb. Mae gennai gur pen heddiw. Mae genon ni barti ar y traeth heno ma, o diar.



Shane - I´ve met some Irish guys, and I asked them if they knew a Shane Brennan from Ireland, and described your glasses, brown hair and your height. But they didn´t know you - sorry.

2 comments:

  1. O diar Leus! Ond gret fod yr hael wedi dod allan,ond ei fod ychydig bach yn rhy hwyr.
    WEdi trafeilio lot dwin gweld ytn enwedig ar fysus ,ond diolch byth fod yr hael wedi dod allan
    Hwyl
    Seren
    xxxxxxxxxx

    ReplyDelete
  2. Wanwl, ma'r blog ma werth chweil! Dwi'n chwerthin yn uchel ar eich hanesion chi - yn enwedig y cranc...oedd o'n waeth na'r ceiliog sgwn i?! hah!
    Gret fod yr haul allan, a ma'r Caprihinas ma'n swnio'n...beryglus...!
    Gobeithio ges di ben-blwydd neis (gei di ddathlu yn yr haul rwan!) (nes i anghofio dod a cerdyn ac anrheg i ti-mond friendship bracelet oedd o gan bo ti angen teithio'n ysgafn!)
    Reit, cau dy geg BM, a dos nol i weithio!
    Caru tiii!
    xxxxxxxx

    ReplyDelete