01/04/2010

Rio de Janeiro

Streic y BA - y newyddion da, mi aeth y flight (er awr yn hwyr), y newyddion drwg oedd fod na ddim bwyd poeth (salad cyw iar efo salad garnish, a bechdan gyw iar i swper), ac doedd yr entertainment system ddim yn gweithio. O Heathrow i Rio heb ffilms, waaa! Ond roedd yne waeth i ddod.
12 awr yn ddiweddarach, wedi cyrraedd Brazil, a finne´n cysgu´n drwm, dyma fi´n cael fy neffro gan yr awyren yn disgyn ac yn ysgwyd yn wyllt. Roedd pob man yn dywyll dywyll, heblaw am y gole glas oedd yn fflachio tu allan i´r ffenest - roedden ni mewn ANDROS o storm o fellt a thrannau uwch ben Rio. Roedd pawb yn dawel ac wedi dychryn, ac oni yn meddwl bo fi´n mynd i farw unwaith eto (y troeon eraill oedd yr incident efo ceiliog yn rhedeg ar fy ol, a´r tro mewn kayak ar y mor yn Croatia...!.
Dyma´r capten yn cyhoeddi fod yn rhaid i ni ddianc o´r storm, felly ffwrdd a ni i faes awyr 200 milltir o Rio i osgoi´r storm, ac i lenwi tanc yr awyren efo petrol, Ar ol glanio´n saff, dyma´r lootio chocolate yn digwydd. Oherwydd y panic a´r anrhefn, dyma pawb yn codi o´r seddi ac yn anelu am y cefn lle roedd y criw yn cadw´r bwyd, a dyma pawb yn bwrio am y bisgedi a´r diodydd a´r crisps. Welesh i un dyn yn rhedeg heibio i mi efo 3 mars bar, 2 baned o goffi, 3 paced o grisps, cracyrs, twix a twirl.
Panic llwyr.

Ond dyma ni yn Rio yn saff erbyn hyn. Mae hi´n anarferol o boeth, ond yn glawio´n drwm bron bob nos, ac yn storm las llachar.

Fuon ni´n gweld Crist ar fynydd Corcovado, ond roedd o mewn scaffolds mawr, a dim ond ei lygaid o oedden ni´n gallu ei weld yn edrych arno ni ac yn dweud Heloooow mewn llais dwfn. Doedd ´ne´n warnings ynglyn a´r scaffolds, felly roedd pawb ar y top yn chwerthin - roedd o´n brofiad doniol iawn gweld pawb yn dod i fyny´r grisiau-sy´n-symud ar fynydd enfawr uwchben y mor i weld par o lygaid mawr ac yn giglan fel plant.

Mae bananas ymhobman yma - rhaid i chi fod yn wyliadwrus neu mi fyddwch chi wedi bwyta un heb drio. Gath Lowri Pizza hefo banana arno fo ddiwrod o blaen, ac mi nesh i futa rhywbeth oedd yn edrych fel pei - ond och a gwae, banana wedi ei deep-fat-fryio oedd o, damia fo.

Mewn hostel afiach ar hyn o bryd, 3 gwely wedi ei stacio ar ben ei gilydd, a dim lle i symud, ond mae o´n lot o hwyl!

Hasta Luego,
Leusa

5 comments:

  1. Helo! Swnio'n go erchyll ar yr eroplen. Ar ol gweld chdi yn dod oddi ar y kayak dwi'm yn siwr pwy sydd genna i fwya o bechod drostyn nhw, ti neu pawb arall! Neu'r ceiliog wyrach. Eniwe, dalia ati efo'r blog, a dwi'n edrych mlaen am luniau!

    ReplyDelete
  2. Haha! Gwych! Dyma'r blogiad gore dwi erioed di darllen! Lootio siocled - byddwn i awê! Ych am y storm a falch bo chi'n iawn dŵdettes xxx

    ReplyDelete
  3. Haia leus swnion afiach
    ond bechod eich bod mond wedi gweld llygad y cerflyn crist.O wel fydd rhaid i ti just dechrau bwyta bananans
    hwyl
    Seren
    xxxxxxxxx

    ReplyDelete
  4. Mi nes i drio fy ngore i dy gynefino i fynd i DA wrth eich dysgu i fwyta bananas - roedd o i gyd i bwrpas wrth gwrs.
    Sut mae'r Sbaeneg yn gweithio? Ydy'n nhw'n dy ddallt di?
    Sion yn dweud ei fod yn mynd i edrych yn wael - colli dy gawl di ar b'nawn dydd Mercher, ond mi wnes i chelsea buns amheuthun heddiw!! Mynd i blannu tatws i Allt Goch dydd Sul. Nain wedi sgwennu llythyr hir i ti - yr unig broblem ydy - gesha pwy fydd raid ei deipio fo i ti?
    Cymrwch ofal,
    MamXXX

    ReplyDelete