11/03/2010

Bag bacio

Felly dim ond 'thefnos i fynd nes y byddwn ni'n hedfan i Rio (cyn belled nad ydi BA yn mynd ar streic!). Wedi trio pacio 'mag - mae gena i ormod o bethe. Dwi 'di rhwygo'r holl dudalenau amherthnasol o'r guide book i'w neud yn ysgafnach a thorri coes fy mrwsh dannedd i'w neud o'n llai, ond dwi ddim yn meddwl fydd hynny'n ddigon, rhywusut...

Wedi bod yn mynd i wersi Sbaeneg ers chydig wythnose, ond ma Sbaeneg De America yn reit wahanol medde nhw, a lot o eiriau Sbaeneg yn golygu pethe rude iawn yn DA. Rhaid cofio peidio deud y mod i'n coger el avion.

Pethe dwi'n edrych ymlaen atyn nhw:
* Y traeth yn Rio.
* Iguazu Falls.
* Gwin coch a stêcs rhad.
* Paned o de yn Patagonia.
* Dysgu Castellano.
* Machu Picchu.
* Llyn Nicaragua a'r llosgfynyddoedd.
* Dreifio i fyny arfordir California.

Pethe dwi ddim yn edrych ymlaen atynhw:
* Dim showers poeth,na gwely call.
* Cario'r backpack trwm.
* Dim marmite na te.
* Dim slipars na soffa.
* Colli penblwyddi Mam, a Grisial a Seren (sori!!).
* Bysus anghyffyrddus.
* Diorrea a mosquitoes.
* Tywydd rhy oer, a tywydd rhy boeth.
* Defnyddio fy mrwsh danedd heb handlen, a ffeindio bo fi angen y tudalenau nesh i eu torri allan o'r guide book i'w neud yn ysgafnach...

Dwi newydd sylwi fod fy ail list yn hirach na'r un cyntaf. 'Falle se'n well i mi beidio mynd?

JÔC!!

Hasta Luego.

6 comments:

  1. Helo! Wel, mae hi'n bwrw yma, sut mae'r tywydd yn Brasil? Dwi'n cymryd eich bod wedi cyrraedd achos dwi ddim wedi clywed eich bod yn dal yn aros yn Heathrow am flight BA.
    Edrych ymlaen am luniau.
    Grisial. xx

    ReplyDelete
  2. Helo Leusa
    Ma Luned, owain a finna yn ty nain a dani wedi rhoi dy flog di ar favourites iddyn nhw. Ma Iolo'n yr Alban yn hela. Ma hi'n oer iawn tu allan a dani am fynd rownd Penantlliw 'di lapio fel nionod! Penblwydd hapus iti wsnos nesa - hynny'n golygu ei bod yn benblwydd priodas ar Iol a finna. I ble'r aeth y blynyddoedd?
    Joia
    Gwenda Mai xxxx

    ReplyDelete
  3. haha, cofio ni'n mynd i guatamala a ti wedi tynnu'r tudalene yn y llyfr mas?!? a'r dolur rhydd a'r mosgitos? a'r cawodydd poeth, a'r gwelye cyfforddus. a'r tost a'r te gafon ni yn dy gartre di rol dod adre! a ti'n cwmpo i gysgu ar y bws gan fod e MOR GYFFORDDUS a peidio deffro a'r dreifar yn panico'n llwyr! OW DWISHE MYND NOL LEUS :( XX (joio darllen y blog ma to) xx

    ReplyDelete
  4. haha a fi'n dwli ar linc 'medde nhw' ti fan hyn, cofio hwnna! 'ma nhw'n dweud'.....!

    ReplyDelete